Blog Edgar (2007)

Casgliad o sylwadau am ein hardal gan un o'n cyd drigolion

 
 
Hysbyseb  
 
 
 
2007
2008

Blog Edgar

Hydref 2007

Rydan ni’n byw mewn byd peryglus dros ben. i rai, gall hyd yn oed gadal y tŷ fod y tro diwetha iddyn weld’u cartra.

Braw i’r holl ardal odd clywad fod Guto, Ffordd Llwyndu, 16 oed, wedi’i daro gan gar ar y lôn bost ger Glynllifon. Bu pawb am gyfnod yn gweddio ‘i fod yn ddigon ifanc a chryf i ddal ‘i dir. Nid felly y bu.

Be allwch chi ddeud wrth rieni sydd wedi colli mab ifanc? Dim llawar – dim ond gobeithio y bydd Gwynfor a Nesta’n cael nerth i fwrw mlaen a’u bywyd efo Dafydd, Anni a Sian.

Rydan ni i gyd yn gwbod am lonydd cefn yr ardal. Rhain ydi llefydd chwara’r plant. Da o beth, achos fel ma petha’n mynd ma’r strydoedd yn rhy beryglus iddyn nhw.

Roedd Guto yn un o gang lôn gefn Ffordd Llwyndu, fel y cofia’r lleill, Justin ac Adam, Siôn a Chris, Carwyn, Edwin, Darrel, Donna, Maxine a Cira.

Ar un adag, gan fod y wal gefn ‘cw i lawr, roedd y gang yn yr ardd yn gyson ar ryw antur ne’i gilydd. Felna ma plant a welwch chi mo’r un rhai bob tro.

Roeddwn wedi smentio copa’r hen glawdd. Heb yn wybod i mi, erbyn y bora rodd ‘G’ wedi’i naddu yn y sment newydd. Guto odd hwnnw. Ma’r ‘G’ yno o hyd ar y garrag.

Erbyn hyn ma rhan o’r clawdd bellach er cof amdano. Allwn i mo’i anghofio beth bynnag.

Cnoc ar y drws un dwrnod. Guto yno’n holi odd gin i rwbath am yr Ail Ryfel Byd i’w helpu ar brosiect yn yr ysgol. Dydw i ddim yn foi rhyfal, ond yn ffodus rodd ‘na lyfr trwchus ar y pwnc yn digwydd bod acw ar y pryd. Rodd yn sgwrs ddiddorol yn trafod erchylltra’r cyfnod hwnnw. ‘I lygad ynta’n fflachio wrth feddwl am yr holl antur.

Faint o ddylanwad gafodd y llyfr hwnnw arno, wn i ddim ond bu’n aelod o’r cadets. Yn amal byddai’n sôn am hwyl y gwersyll ac amball i dro trwstan.

Hefyd roedd yn aelod o Glwb Bocsio Caernarfon. Rodd yn amal yn sôn am ‘i ffrindia yn y dre. Mi fyddai’n dwad draw i’r cefn ‘cw weithia i ddangos y math o betha y dylai pob bocsiwr wbod. Yn amlwg rodd o isio dysgu sut i edrach ar ôl i hun. Fel ma petha’n mynd heddiw, roedd llawar o synnwyr yn hyn er mwyn iddo allu amddiffyn ‘i hun os byddai rhaid.

Y peth diwetha glywis i amdano odd i fod o wedi cael gwaith dros yr ha’ efo adeiladwyr yn Llanrug a’i fod hefyd am labro efo’i dad ar waith yn y cefn.

Dim ond rhai o’r petha odd y rhain sy’n loetran yn y meddwl wrth edrach yn ôl. Rhwbath rhwng Guto a fi odd hyn. Ma ‘na fwy o’i deulu a’i ffrindia efo llawar mwy o’u hatgofion nhwtha amdano.

Wnawn ni ddim anghofio. Mi fydd Guto’n fyw o hyd efo ni.

Ar ran gang y lôn gefn yn y cyfnod hwnnw – cofion melys amdano.

^^ Yn ôl i'r Pen

Awst 2007

Er bod gin i golofn yn barod eisoes ar gyfer Lleu, cafodd honno hergwd y tro yma achos rhaid bellach, oherwydd yr ymatab, gadal i chi wbod be ma rhai o’r darllenwyr wedi cnoi cil arno.

Diolch o galon i Beryl yng Nghanolfan yr Antur am gytuno i dderbyn cyfraniada. Tro nesa byddwch chi’n siopa ym Mhen Groes rhowch bwt i’r golofn iddi ar bapur neu cysylltwch ar www.nantlle.com fel arall.

Diolch i Jean Hefina am ‘i geiria caredig a’i hymatab. Be sy’n iawn sy’n iawn. Mynd efo atgof onest Owen Owen, Talmaes, wnes i am yr adag rodd o’n blentyn. Rodd o’n deud bron i’r droedfadd lle rodd hen Bistyll yr Inn, Pen Groes.

Yr unig atab alla i feddwl amdano yn synhwyrol yn niwl y cowdal ydi ‘i bod nhw, achos datblygiada ochor yr hen Bost a’r Banc, wedi gorfod symud yr hen bistyll i’r fan tua ochor yr adwy i’r maes parcio presennol tu cefn i HSBC. Fanno’n amlwg odd y pistyll arall y soniodd nain Jean amdano, sef am y flwyddyn 1897. Y cwestiwn ydi, odd pistyll arall yno’n barod neu ai troi’r dŵr i greu un arall wnaethon nhw ar ôl chwalu’r un wrth ddrws yr hen Bost fel y soniai Owen Owen yn 1930? Cofier ‘i fod o’n son am Bistyll yr Inn tua’r 1860’au. Yn amlwg doeddan nhw ddim isio pistyll o flaen drws ffrynt yr adeilad newydd ar y pryd.

Ta waeth, chwalwyd pistyll Ffordd y Sir ynta’n ‘i dro i godi toileda dynion yn unig. Mae 'na gannoedd ym Mro Lleu heddiw’n cofio’r hen adeilad hwnnw yn Ffordd y Sir. Chwalwyd hwnnw hefyd a does dim ond wal yno erbyn heddiw.

Ma’n edrach felly ar ol y stwnan a’r chwalu y gallai’r ddau ohonom fod yn iawn! Dwi di bod yn meddwl hwyrach y bydda’n well i fi daflu gwala i mewn i’r golofn yn fwriadol, wedyn mi fyddan ni’n cael digon o stwff i gadw Lleu i fynd am fisoedd.

Fel ro’n i’n gobeithio, colofn i ymateb i’ch diddordeba chi fyddai hon. Eich colofn chi ydi hon i fod. Y peth gora all ddigwydd ydi eich body n heijacio’r golofn os ydach isio. Colofn PAWB A’I BWT ydi hi mewn gwirionedd. Mi all unrhyw un gyfrannu unrhyw fath o wybodaeth a fo o ddiddordab iddyn nhw a ninna. Y teimlad rydw i’n ‘i gael yn aml ydi mod i’n sgwennu i bobol sy’n gwbod llawar mwy na fi.

Bwriad y golofn odd i chi gael deud eich deud gan obeithio y byddwch yn canolbwyntio ar y diddorol – rhwbath sy ddim mor borin a rhai o’r petha ar y teli, radio, y we a’r stwnsh arferol mewn papura newydd.

Ma hi’n gweithio ddwy ffordd, goelia i. Rydw i’n prynu Lleu fel pawb arall a mi ga inna ymatab i be dwi’n weld ynddo. Dach chitha hefyd a’r un hawl.

Un o’r cerddi gora dwi di darllan ers tro byd odd honno yn Lleu gan Megan Bryn. Y negas i Fegan ydi, os bydd gin ti rwbath i’w roi yn y golofn, cofia’i anfon. Rodd y gerdd yn wych. Does dim rhaid i ti ennill gwobr bob tro cyn dangos dy dalant. Gobeithio fod gin ti un neu ddau o betha eto byddat am iddyn weld gola dydd yn Lleu. Rodd teitl y gerdd yn unig greda i, yn haeddu gwobr arall - ‘I Dad’.

Rhagor o ymatab. Gan Arfon Post, Tal Sarn gynt y tro ma. Dach chi’n cofio mod i wedi bod yn son am yr haul yn chwara rhwng yr Eifl a Chaergybi? Mi ddywedodd Arfon y byddai ‘i dad yn Nhan Ffordd (ffordd Carmel) yn wastad yn deud fod yr haul yn cymryd ‘cam ceiliog’ ar y tro. Dyna odd ‘i deud hi’n fachog. Chwarelwr odd ‘i dad ym Mhen yr Orsedd ac wrth gwrs doedd unlle gwell na ffordd Carmel am olygfa tua’r môr. Profiad gwahanol iawn gafodd o ar arfordir y dwyrain a gweld yr haul yn codi o’r môr ar doriad gwawr. Welan ni byth mo hynny ym Mro Lleu - tra byddan ni’n sobor, beth bynnag!

O ia, cyn i fi anghofio. Cadar y Brenin, yn ôl Arfon oedan nhw’n galw’r graig yng Nghlogwyn Bach, sef Siôr V'ed efallai gan blant y cyfnod hwnnw, Lisi wedyn gan rai’n ddiweddarach neu hwyrach ma un o hen arwyr Cymru odd o, pwy ŵyr.

Cofiwch am Beryl a hwyl ar y sgwennu.

^^ Yn ôl i'r Pen

Gorffennaf 2007

Misoedd yr ha ma llawar ohonom yn reddfol yn troi at y môr a’i betha. Yn ôl y gân: ‘macrall wedi’i ffrio fasa'n dda’. Ond dath tro ar fyd a does neb bellach yn gweiddi ‘mecryll Trefor’ hyd y strydoedd.

Rheola iechyd a diogelwch sy’n cael y bai, ond mi ddylai pris macrall heddiw fod yn sbardun i rywun sydyn-am-geiniog efo’r gêr iawn ddod â’r hen arferiad yn ôl.

Dyma’r amsar bydd preswylwyr Bro Lleu’n eistadd ar draeth, neu gerllaw ac yn hel meddylia digon dioglyd fel hwyrach, sgwn i sut bobol oedd yn byw yng Nghaer Arianrhod.

Wnes i ddim dallt yr hen bobol yn iawn. Roeddan nhw’n deud ma Tregarandrag odd enw’r hen gaer dan y môr. Ma Syr Ifor yn cyfeirio ati fel Trecacacdrag. Doeddwn i ddim yn dallt achos os ma caer odd dan y môr, sef rhyw fath o amddiffynfa, pam sôn wedyn am dre o gwbwl. Rodd tre’n ardal weddol eang yn cynnwys nifer o anhedda.

Fel dwedodd rhywun wrthyf, rwyt yn siŵr o foddi’n meddwl am y lle. Haws meddwl fod yna ddryswch wedi bod a bod Tregarandrag yn en war le arall, sef yn ôl y sôn, Tref yn Anrheg ar lan afon Gwyrfai heb fod ymhell i ffwrdd.

A thra mod i yn y cylch hwnnw, mi ges y fraint o gyfarfod Dic Pen Bwth gynt a odd ar ofal seibiant ym Mryn Seiont. Digwyddais ofyn iddo sut cafodd y lle’r enw Pen Bwth a’i atab odd fod yr enw’n mynd yn ôl i amsar y Rhufeiniaid. Mi wyddwn fod y Rhufeiniaid wedi bod yn yr ardal achos yn ôl y sôn rodd rhyd i’w marchogion ar draws y Foryd, ac un arall gerllaw i’w milwyr traed.

Wedi pendroni a dyfalu mi ellir derbyn mai ffordd y trigolion lleol ar y pryd o gyfeirio at wersyll o bebyll ydi’r ffurf Pen Bwth achos erbyn meddwl mi fasa gwersyll o’r fath yn edrach pel penna bythynnod ar hyd y tir.

A sôn am Rufeiniaid ma XL fel y gwyddoch yn enw ar siop tsips ym Mhen Groes. Ma na hanas i’r rhif hwnnw siŵr o fod ond go brin ma’r Rhufeiniaid a’I sefydlodd ar ‘u ffordd iI Segontiwm!

Un o ryfeddoda’r môr ydi’r parti blynyddol ger Porthmadog. Yno daw haid o grwbanod môr cragan ledar i loddesta ar y jeli – neu’r slefran fôr i roi’r enw llawn. Mae’n anhygoel bron ‘u body n teithio’r holl filltiroedd o ddyfroedd cynnas y trofanna i ymweld â ni – a chael ‘u bwyd wrth gwrs.

Rydan ni’n ffodus ym Mro Lleu, mi allwn fwynhau’r mo^r a’r un pryd gwylio’r awyrenna ym Maes Awyr Caernarfon neu hyd yn oed gael cip ar yr ardal o’r awyr.

Ond stori arall ydi awyrenna Fali. Ma rhai o’r rhain yn hedfan mor isal fel ‘u body n bla i’r amaethwyr mewn rhai manna. Rydan ninna yma ynghanol ‘u rhanbarth hyfforddi achos mi’u clywch nhw droeon fel cacwn mewn pot jam, i fyny ac i lawr am hydoedd.

Y syndod ydi, ‘u bod yn gallu gwneud hyn heb symud fawr ddim ar y tro o’r ardal. Efo’r math yma o hyfforddi y dirgelwch ydi pam na ddewisian nhw rywle draw uwchben y môr. Rheswm arall digon teg dros iddyn nhw fod uwchben y dŵr ydi ar sail diogelwch achos os bydd damwain o gwbwl, mwy na thebyg mai mewn awyran hyfforddi y bydd hynny. Does wbod lle’r eith awyran heb reolaeth.

Y syndod ydi nad oes neb hyd yma, diolch byth, wedi cael jet yn ‘i ardd gefn. Rhag llaesu dwylo, rhaid deud unwaith yn rhagor – do, mi ddigwyddodd eleni eto. Awyran ‘Hawk’, gwerth 7 miliwn yn rhacs – ac yn ôl y sôn 4 ohonynt i gyd mewn 9 mlynadd.

Yn ffodus ym Mona odd hynny, neb wedi brifo a’r peilot yn iawn. Lle fydd y nesa? Tŷ pwy sy’n mynd i gael sedd y peilot drw’r to?

Ddylan ni byth anghofio aberth awyr y Spitfire ac eraill na chwaith beth sy yn yr awyr uwchben pentrefi ac ysgolion y plant yn yr ardaloedd cefn gwlad.

Os oes negas o gwbl o’r Dyffryn i’r Fali – draw uwchben y môr yn amlach, os gwelwch yn dda.

^^ Yn ôl i'r Pen

Mehefin 2007

Bu llawer ym Mro Lleu, goelia i, am dro rywdro neu’i gilydd i Glogwyn Bach. ‘Lle?’ medd yr anghofus neu’r rhai na chafodd y fraint. Clogwyn ydi o i’r gogledd o Bant Du uwchlaw’r Hen Lôn rhwng Pen Groes a Thal Sarn.

Yr arferiad, fel heddiw, oedd mynd trwy’r giât fochyn ochor Nant i Bant Du, dringo’r llwybr hyd at dyddyn Mrs Pritchard gynt, cael llymaid o ddŵr ffynnon iach tu cefn i’r tŷ a dringo wedyn at y copa i fwynhau’r olygfa eang tua’r mynyddoedd a’r traetha draw.

Ar y llethr rhwng y copa a’r tyddyn roedd Cadar y Frenhines, bron fel cadar steddfod ac fel tasa hi wedi’i naddu’n naturiol yn y graig, pwy ŵyr.

Dyna halen y ddaear odd gwraig fel Mrs Pritchard, tyddyn Clogwyn Bach. Rodd yn aelod selog yng nghapal Soar, Pen Groes a meddyliwch am y strach o ddringo hannar y clogwyn ar ‘i hymweliad.

Yn ôl Corbi, i threfn oedd codi baner wen os odd y fuwch yn gofyn tarw fel bod y ffariar islaw’n derbyn y negas yn gofyn iddo alw yn y tyddyn cyn gynted ag odd modd.

Yn ystod tywydd sych tua’r Pasg bu rhannau o’r wlad yn llythrennol ar dan, yn ôl y Frigâd Dân. Mewn rhai ardaloedd llosgwyd yr eithin ar ddamwain neu am resymau amheus a thro arall yn fwriadol i wella’r borfa. Mi welson ninna ochor Nant i Glogwyn Bach dan drwch o fŵg.

Mae gair ganddyn nhw tua Pen Fron ochor Nant am y gwaith o losgi eithin sef goceithio. Pan glywis i hwn gyntaf gan Glyn Hughes (y lori) bu peth dyfalu yn ‘i gylch. Rodd yn swnio fel rhwbath yn ymwneud a choelcerth ond nid dyna odd y trywydd iawn.

Mae’n ymwneud a ‘deifio’ nid deifio i ddŵr ond deifio dillad wrth smwddio, sef gadal marc llosg yr hetar arnyn. Daw ‘deifio’ o ‘dufio’ sef ‘duo’ i ni heddiw. Felly mi ath ‘goddufio’ yn ‘goddeifio’ wedyn y ‘goddeithio’ sef gordduo’r llethr a fel gwelsoch eleni eto does dim duach na llethr eithin wedi’i losgi.

Bu Elfed ac Esyllt dros ffordd i’r Post Pen Groes, yn holi am ffrwd tu cefn i’r tai. Yn ‘i gofiant rodd Owen Owen Talmaes wedi rhoi rhan o’r atab achos tua’r fan lle byddwch yn tynnu pres HSBC o’r twll yn y wal rodd pistyll y pentra, sef Pistyll yr Inn (tafarn y Stag’s Head dros ffordd). Rhyfadd fel ma’r llecyn hwn yn dal yn gyrchfan bwysig yn ein bywyd er bod y rheswm yn dra gwahanol erbyn heddiw. Rodd yr hen dafarn uchod yn ganolbwynt busnes eithriadol brysur yn y dyddia a fu ac yn ôl y sôn un math o adloniant yno ar nos Sadwrn oedd ymgasglu i wylio moch yn cael’u lladd!

Hon odd ‘yr Inn’ yn yr Eithinog yr Inn, enghraifft brin dros ben o enw dwyieithog mewn ardal o hen enwa cyfoethog. Rywfodd neu’i gilydd rydan ni’n ôl efo’r eithin, yn wir ynghanol yr Eithinogau fel Eithinog Ucha, Eithinog Ganol ac Eithinog Wen. Mi ŵyr y cyfarwydd mai’r arferiad odd malu’r eithin a gwneud tshaff neu us i fwydo’r ceffyla ac yno yn Eithinog yr Inn y cadwai’r Stag’s Head rai o’u ceffyla.

I gloi, diolch am yr anogaeth o Fryn Glas, Rhostryfan. Mae’n edrach fel’tai rhyw awydd newydd wedi cydio yno, achos fel a ddywedwyd yn y llythyr y prif ddiddordab ers rhai misoedd bellach ydi sgwennu’n Gymraeg - Lwc dda ar yr antur honno.

^^ Yn ôl i'r Pen

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys