Blog Edgar (2008)

Casgliad o sylwadau am ein hardal gan un o'n cyd drigolion

 
 
Hysbyseb  
 
 
 
2008
2007

Blog Edgar

Gorffennaf 2008

Yr adag yma ma'r môr a'i betha'n dal i alw arnom. Cyn mai o'r môr y daethom, does dim rhyfadd ein bod yn cael ein tynnu'n ôl, fel ailymweld a hen aelwyd rwsut.

Ym Mhowys llwyddodd rhw arbenigwr ne'i gilydd i ganfod craig lle rodd olion llusgo arni a'r farn odd fod hyn yn dystiolaeth o'r cyfnod hwnnw pan geisiodd rw sgodyn bach lusgo'i hun i'r tir ar 'i esgyll er mwyn cael mwynhau tipyn ar y traeth. Dyna pryd dechreuodd ein hynafiaid bora-oes anadlu awyr iach ar dir.

A rwan rydan ninna'n llusgo'n hunain oddi ar y traeth yn ôl i'r dŵr i brofi blas yr heli yn ein cega unwaith yn rhagor.

Sgwn i welodd rywun dolffin ar y glanna? Maen nhw'n eitha cyffredin gerllaw Llŷn. Hwn ydi'r dolffin trwyn potal ac yno hefyd mi gewch weld morhwch neu'r porpoise. Morhwch am fod 'i drwyn fel trwyn hwch a'r un elfen 'porc' sy yn y ffurf 'porpois'hefyd.

Fel gwahanol rywogaetha ma gin greaduriaid amrywiaeth o nodweddion ar 'u cyrff. Ffurf pedol sy ar wynab y slum yng Nglynllifon.

Rhyfadd fel ma rhai enwa'n cydio a'r lleill mor farw a hoelan. Prin y clywir o gwbwl am 'lamhidydd' fel y gair am ddolffin a does dim rhyfadd achos rodd disgwyl i ni ddeud hynny am 'acrobat' a 'morhwch' hefyd ar un adag.

Dro'n ôl yng Nghaliffornia mi gawson hyd i forhwch yn gelain ar y traeth. Rodd yr holl beth yn ddirgelwch achos dodd dim ôl anaf o gwbwl arno. Yn ffodus rodd labordy môr gerllaw a chawson hyd i anaf mewnol ynddo.

Gan 'u bod wedi bod yn chwythu gwely'r môr i greu seilia pont roddan nhw'n ama ma nerth y ffrwydrad odd wedi lladd y cradur. Os gwir odd hynny roddan nhw am wahardd unrhw ffrwydro a byddai'n amen ar lawar cynllun arall yn y môr.

Dath yr atab o'r Alban yn y diwadd. Yno roddan nhw'n gwbod fod dolffin a morhwch i'w gweld yn llamu dros y tonna gyda'i gilydd a phawb yn meddwl ma hwyl a sbri odd yr holl beth.

Dim o gwbwl. Ma dolffin a morhwch mor wahanol i'w gilydd a chi a chath. Allan nhw ddim diodda 'i gilydd.

Y gwir odd fod y dolffin yn dipyn o fwli. Dim hwyl a sbri'r ddau efo'i gilydd oddan nhw'n 'i weld ond y dolffin yn rasio ar ôl y morhwch ac am 'i waed. Os cai gyfla ai ar gyflymdra dan fol y morhwch a'i daro i'r awyr. Felly, nid llamu mewn llawenydd odd o on cael yr ergyd gleta yn 'i fywyd! Ergyd fel honno odd achos tranc y cradur arall druan ar y traeth.

Ar y glanna tro nesa felly, gwyliwch rhag gwelwch chitha'r dolffin am waed y morhwch.

Fel y clywsoch ar y newyddion ma swn ein dolffin ni'n wahanol i'r rhai gerllaw Iwerddon. Mae'n nhw'n siarad a'i gilydd ag acan leol trwy chwibanu, clicio, coethi a gruddfan wrth fordwyo ac ar 'u ffordd mewn bywyd – rhwbath tebyg i ninna felly ar brydia!

Y tro nesa byddwch chi dan y dŵr, gwrandwch ar 'u lleisia – ond gofalwch na neith y cythral bach roi pwniad i chi!

^^ Yn ôl i'r Pen

Mehefin 2008

Pan dach chi'n meddwl am hen offar cyntefig, dodd ganddyn nhw ddim llawar o ddewis.

Y cynhara ma'n siwr odd cangan braff o'r coed at wahanol ddibenion. Ymhlith petha erill, rodd honno'n gallu bod yn ffon ne bastwn.

Buan y gwelwyd y gallai fforch o'r goedan fod yn hwylus hefyd. 'Gafl' odd yr hen air am honno, sef rhwbath tebyg i bicwarch ein dyddia ni.

Fel yn achos rhai o hen eiria erill, mi welwch fod perthynas rhwng un a'r llall, fel rhwng 'gafl' a 'gafal' yn rhwbath. Allwch chi ddim codi petha'n hwylus â ffon ond os oes forch ynddi mi allwch yn hawdd godi swpyn o wair ne hyd yn oed fforchio sgodyn o'r afon. Tryfar odd gin yr hogia drwg ar y Llyfni gynt a rodd tri phigyn ar honno.

Ond ma 'gafl' yn mynd a ni'n ôl i oes llawar cynharach na chyfnod y dryfar.  Yn wir, yn ol i'r oes pan odd 'gafl' yn cyfeirio at un fforch a 'geifl' at ddwy ohonyn nhw. Fforch ddau bigyn odd 'gafl' a rodd 'geifl' yn fforch dri phigyn sef rhwbath tebyg i'r dryfar, sef dwy fforch mewn un.

Be nelo hyn a Bro Lleu meddach chi?  Wel dim mwy na bod y rhelyw ohonom yn gweld yr Eifl (geifl) yn gyson. Tri chopa'r Eifl ydi'r tri phigyn ar ffurff tryfar, ond yn yr hen amsar 'u henw nhw ar honno odd 'geifl'.

I drigolion Bro Lleu ma'r Eifl yn agos iawn at ein calon.  Os ydi'r Eifl yn glir ma'n arwydd o dywydd da, heb son am rin Tre'r Ceiri. Melysach ydi gwbod fod yr enw'n golyfu rhwbath i ni hefyd. Fel byddai'r hen frodorion yn defnyddio'r 'eifl' i afael yn hyn a'r llall, felly'n union ma'r Eifl y gafal ynom ninna.

'Gafal' hefyd oddan nhw'n ddeud mewn cyfnod diweddarach am ddarn o dir. Olion hwnnw dybiwn i, sy yn Cae Efa Lwyd ar gyrion Pen Groes wrth adal am Allt Goch a Ffordd Pwllheli.  Hyd y gwn i, 'Gafal Lwyd' ydi'r enw wedi bod ar lafar gan genedlaetha'n lleol. Rodd yr un syniad yn bod dros y ffin am afael yn y tir, sef 'holding'.

Dyna fo, tydi rhwun yn cael gafal ar rw betha od wrth grafu pen. Chwain hwrach! Daw hyn a ni at hanas y gorilla yn Sw Caer. Rodd Wil wedi laru ar y gwaith ac wedi penderfynu cael diwrnod i siopa efo Elin, y wraig, yng Nghaer.

Ar ôl y siopa mi aethon draw i'r Sw am fod Elin yn hoff o anifeiliad ac yno buon nhw'n syllu arnyn. Rodd Wil wedi rhybuddio Elin i beidio a mynd yn rhy agos at y cewyll ond rodd hi'n hoff o roi mwytha iddyn a siarad efo'r wal odd ceisio deud wrthi am gadw draw.

Rodd hi'n cael hwyl garw'n rhoi mwytha i'r gorilla a rodd yn edrach yn debyg fod y gorilla wedi dechra ffansio Elin. Mwya sydyn dyna floedd gin Elin: "Wil, Wil, ma'r gorilla di gafal amdano i, be wnai, be wnai?"

Heb gynhyrfu llawar awgrymodd Wil: "Deud wrtho fo fod gin ti gur yn dy ben!"

Oes ma na sawl 'gafal' yn encilion y cof.

^^ Yn ôl i'r Pen

Mai 2008

Erbyn heddiw amball goedwig a llecyn o goed gewch chi yma ac acw ledled Bro Lleu.

Ma gan bawb bron yma 'u hatgofion am Goed Glyn, rhai hefyd am Gyllgoed a Winllan Dafarn a choedlanna tebyg hwnt ac yma.

Mi ddylan ni neud yn fawr ohonyn. Prinhau dros y canrifoedd nath ein coed. Trw law Elfed Roberts gwelsom fanylion o'r papur newydd yn 1810, a gasglwyd gan Gwilym Llys Arthur, am werthu dros 700 o goed. Dodd hynny ond gwerthiant o 2 ffarm yn unig yn y Dyffryn. Rodd cyfanswm y coed a dorrwyd ar ffermydd ledled y fro'n sicr o fod yn filoedd. Nid torri er mwyn torri odd hyn ond torri i wella'r tir i'w amaaethu.

Dyna olygfa gafodd y person cynta rioed a welodd y Dyffryn o ben Allt Drws Coed ganrifoedd yn ôl. Go brin basa llawar o goed ar y llethra uwch am fod y pridd yn brin a gwael. Rodd rhagor ohonyn ar y ffriddoedd.

Ond ar y tir brasach ar lawr y Dyffryn, mi allwch fentro fod trwch da o bob math o goed. Ma'n siwr y clywid swn amryw o anifeiliaid gwylltion a odd yn trigo yn y coedwigoedd.

Fell, wrth syllu tua throed yr allt mi fasa'r person hwnnw wedi gweld rhw gymaint o goed ac, er boddhad wedyn, gwelodd ddau lyn ymhellach draw. Rodd dŵr yn wastad yn denu.

Oherwydd prindar y coed ym mhen ucha'r Dyffryn byddai wedi gweld rhw gymaint ar yr afon hefyd a lifai tua'r llyn ucha.

Un o'r enwa cynta yn yr ardal, dybiwn i, odd Nant (= dyffryn). Cymharer hyn a Nantes yn Ffrainc lle method Cymru gael gafal arni yng Nghwpan y Byd. Wedi'r cyfan, gadal y wlad honno sef Gal ar y cyfandir nath llawar o'r Brythoniaid tua 500 mlynadd cyn-Crist.

Felly rhwng y llynnoedd, ynghyd a llai o goed ym mhen ucha'r Dyffryn, rodd y tir yn weddol agorad ac yn gwahodd. Golygai hyn lai o beryglon, heb fentro i dywyllwch ansicr y coedwigoedd.

Fanno ma hanas dyn / dynas o'r Dyffryn yn dechra. Os gwrandwn ni ar i geiria gynt, cawn gipolwg ar 'u hanes.

Dyna sy'n gneud i rwun ofyn ai'r elfin 'lleu' (= gola yn y gair 'lleudir' sydd yn yr enw Nantlle. Ystyr 'lleudir' odd tir agorad heb goed arno neu brindar coed arno. Hynny ydi rodd hi'n dywyll yn y coed a rodd mwy o ola ar y tir hwn.

Pen ucha'r ardal odd 'u Nant a'u Dyffryn nhw, ac o gofio am y llynnoedd hefyd, byddai 'lleu' (= prindar coed) yn disgrifio hwnnw i'r dim. Nantlleu amdani felly, a fu'n enw am gyfnod, dybiwn i, ar ran ucha'r Dyffryn cyn mentro i fyw ar dir y coed.

Mewn comedi ar y teledu mi glywsom fod y Cymry'n byw mewn cymoedd ac yn fwlis creulon sy'n poenydio pobol efo'u canu–mewn-harmoni. Yn ôl Blackadder dach isio peint o fflem yn eich gwddw i ddeud enwa'r lelfydd lle ma nhw'n byw. Sgwn i be fydda fo'n ddeud ta ni'n gofyn iddo egluro'u hsytyron hefyd!

^^ Yn ôl i'r Pen

Ebrill 2008

Mae'r ffŵl yn wastad yn cael ei le ym mis Ebrill. Dim ond bora sydd ar y cyntaf, i fod y cyntaf i gael y gora arnoch chi, neu ydach chi wedi'u rhoi nhw yn 'u lle bellach?

Ma dipyn o hwyl diniwad fel potal o ffisig. Ma'n cadw pobol rhag suro. Ond mi all chwara droi'n chwerw fel y tystia pawb ohonom.

Un o glasuron tiricia tebyg odd yr un ddigwyddodd yng Nghaernarfon dros nos, rai blynyddoedd yn ôl bellach.

Dath a gwên ar wep sawl cofi ar y Maes yn y bora i weld olion traed Lloyd George wedi'u paentio'n wyn o'r cerflun ac ar draws y Maes i lawr at y toiled ar waelod yr allt i'r cei. Rodd yn rhoi'r argraff fod Lloyd George wedi methu dal i ddwr yn y nos ac wedi gorfod mynd am y cei.

Myfyrwyr Bangor odd yn cael y bai. Un o'u tricia wythnos Rag odd hwnnw'n ôl y sôn. Ma'n siwr fod profiad tricia bora ffŵl Ebrill wedi bod yn sylfaen a phrentisiaeth dda i lunio rhai fel hyn sy'n sicr o gael 'u lle mewn hanas.

Ta waeth, dyma fo, mis Ebrill yr hwyl, a'r gwylia'n nesau. Fel arfar, y gwylia gora ydi'r rhai heb 'u trefnu. Cael mynd wrth eich trwyn. Ddim yn disgwl dim, felly dim siom. Stori arall ydi pob drws ar gau pan ddaw hi'n nos! Carafan amdani felly – hei ho hei di ho – a llond sach o ha ha!

Y tro yma ron'i meddwl dringo Everest eto. Ond na, gormod o gac iac (ych mynydd) ar y llwybra. Mi ddeudodd y bos ma fi odd yn dewis y llwybra budur. Felly, dyma roi cynnig ar lwybra glanach. Mwya sydyn mi ath fy nhraed yn slwtsh eto. Ar ôl holi pam aflwydd oddan ni'n mynd ar y llwybyr hwnnw, o, roddan nhw isio cael cip ar yr ieti, sef hen epa'r mynydd. Wel, mi gawn gadw'u hoerni a'u cac ieti. Fydd run o'n nhraed i ar gyfyl y lle.

Bob blwyddyn byddai Wil yn mynd i Sbaen ar 'i wylia ac aros efo Carlos, 'i gefndar. Un rheswm dros hynny odd fod Carlos wedi bod yn fatador eitha enwog yn Sbaen, felly rodd Wil yn cael mynd hefo fo i wylio'r ymladd teirw pan fyddai Carlos yn ymweld a'i hen ffrindia ar ôl ymddeol.

Ar ôl yr ymladd, braint y gwesteion yn y wledd wedyn odd cael bwyta ceillia'r teirw.

Un tro, pan ddath yn fraint Carlos a Wil yn y wledd, mi ddeudodd Wil wrth Carlos fod y ceillia'n drybeilig o fach. 'Siwr iawn' ebe Carlos ' ma'r tarw'n ennill weithia, ws ti!'

Ffŵl, hwyl a meddwl am wylia. Fel'na ma hi i fod yn Ebrill.

^^ Yn ôl i'r Pen

Chwefror 2008

Am loetran ar strydoedd a chanu oriau mân y bore, byddai Jâms, heddwas Pen Groes, neu dro arall Huws heddwas Nant, yn gafal mewn amball feddwyn wrth din 'i drwsus a rhoi hergwd go lew iddo'n gymorth i'w hel tuag adra.

Geiria cofiadwy gan Jâms wrth i un o lancia'r pentra feiddio canu ar y palmant ar ôl hanner nos oedd: 'Yli was. Tasat ti'n medru canu, mi fyddwn yn hanner madda i ti , ond ti'n swnio fel lli heb ddannadd!' Ma' na straeon di-ri am y meddwyn druan. Un o'm ffefrynna ydi honno am feddwyn yn cerddad heibio'r glas am ddau o'r gloch y bora. Yr heddwas yn gofyn iddo'n swta: 'A lle ti'n mynd adag yma'r bora?' 'I ddarlith' oedd yr ateb. 'Paid a bod yn wirion, does 'na ddim darlith am ddau y bore, y ffŵl',ebe'r glas.'Ti'm yn nabod y wraig , wt ti!'oedd atab y meddwyn ai heglu hi am adra.

Ac fel gafaelodd Jâms mewn ambell i din trwsus, felly ces inna fy nal gan soned o Elwyn Pritchard Jones yn LLEU fis Hydref diwetha. Yn y rhan gyntaf mae'n sôn am brofiad rydan ni i gyd wedi'i gael. Noson glir ac edrych ar y miloedd o sêr. A meddwl, rargian fawr pw' ydw i yn y cread anfarth a theimlo'n llai na gwybedyn ar gefn eliffant.

A chymryd ma'r cosmos ydi'n cartra ni, ma'r bobol glyfar ma'n deud wrtho ni fod nifer yr heulia allan yn y gofod gymaint â'r nifar ta chi'n cyfri pob gronyn tywod ar holl draetha'r ddaear. Allwn ni ddim yn hawdd ddirnad y ffasiwn belltar. Eto, er teimlo'n ddibwys yn oerni'r cread maith, erbyn rhan ola'i soned cawn olwg newydd gan y bardd. Dydi'r ehangder di-ben-draw ond 'clawr' am 'y mawredd byw 'sy ynom i gyd. Y byw sy'n bwysig. Gwych.

O ran syniad, ma soned Elwyn Pritchard Jones yn rhagori ar Dychwelyd T.H. Parry-Williams. Deud go fawr. Dach chi'n cofio be ddeudodd Parry Bach - mi gawn ni neud ein sŵn ond byr fydd ein 'ffwdan ffôl'. Ein diwedd fydd ein chwythu'n llwch yn ol i'r cread maith. Rhyw ddeud digon oeraidd.
Ond yn ôl Elwyn Pritchard Jones does dim rhaid aros wrth syllu ar y sêr a meddwl pw' 'dan ni a'n bod mor ddiawledig o ddiwerth. Ma 'na fawradd arall, a hwnnw'n fyw. Na chewch chi yn ehangder y gofod - sef hwnnw sy' tu mewn i ni i gyd. Fanno ma'r 'gwir' yn ôl y bardd.

Dyma sy'n gwneud cerdd dda - ma isio sôn droeon amdani a thrafod y syniada ynddi. Hefyd, ma isio person dewr iawn i ganu soned ym mro'r soneda penigamp gan rai fel R. Williams Parry a T.H. Parry Williams. Llwyddodd Elwyn Pritchard Jones i barhau'r traddodiad.

^^ Yn ôl i'r Pen

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys