Cyngor Cymuned Llanwnda

Newyddion Chwefror 2006

 
 
Hysbyseb  
 
 
 

Materion yn Codi

  •  Arwydd 40 yn Ffrwd Cae Du – adroddwyd yn ôl ar ganllawiau a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir. Angen rhedeg y broses gyflawn ar y safle. Clerc i gysylltu â’r Adran Briffyrdd. Hefyd awgrymu fod angen ‘crash barriers’ o flaen y tai yn dilyn damweiniau diweddar.

  •  Dwr tu ôl i Bodaden, Ffrwd Cae Du. Angen cysylltu efo Adran yr Amgylchedd i geisio datrys y broblem.

  •  Croesfan ger y Mount – un polyn wedi’i osod ynghanol y palmant, sydd yn atal pobl efo prams neu gadeiriau olwyn rhag pasio. Angen nodyn i’r Adran Briffyrdd i gael golwg ar y broblem.

  •  Arwyddion Lôn Eifion – angen cael gosod arwydd cyn cyrraedd y bont yn Dinas. Pobl yn tueddu i ddefnyddio’r orsaf reilffordd i gyrraedd y llwybr yn hytrach na mynd rownd heibio’r eglwys.

  •  Safle Neuadd Rhosgadfan – angen sgwennu i’r Cyngor Sir yn gofyn wrthynt geisio datrys y broblem efo’r wal ac ati.

  •  Lampau golau yn Rhos Isaf a Rhosgadfan – angen cytuno ar yr union safleoedd a chael prisiau iawn.

  •  Llwybrau Cae Coch – cafwyd e-bost gan Gerallt Jones yn nodi fod bwriad i wella’r llwybr, ond efallai y byddai’n syniad gwneud cais am grant Gwella Gwynedd i wella gwyneb y llwybrau.

  •  Cilgwyn – derbyniwyd llythyr gan Alun Ffred Jones yn nodi fod angen cael pwyllgor i drafod oblygiadau’r cynllun, a bod angen cynrychiolydd o Gyngor Llanwnda. Cytunodd Gwilym V.Thomas i fod yn gynrychiolydd.

  •  Arwyddion Capel Bach a Graianfryn – clerc i ofyn wrth Inigo Jones i wneud a gosod plac Graianfryn ac i osod y plac yn Rhostryfan.

Adroddiadau

  •  Cyfarfod Heddlu – trefnwyd cyfarfod gyda’r Swyddogion Gwyn Parry a Pete Jones. Nodwyd fod bwriad i gynnal syrjeris rheolaidd yn yr ardal, ond ei bod yn anodd i roi dyddiad ac amser pendant oherwydd prinder staff. Penderfynwyd anfon llythyr at yr heddlu yn Maesincla i ofyn wrthynt drefnu fod swyddogion neu weinyddwyr yn trefnu cyfarfodydd cyson.

  •  Cyfarfod rhwng swyddogion Cronfa Gwella Gwynedd, Tir Glas a’r clerc – oherwydd fod yr arian grant a ganiatawyd i Tir Glas yn dod i ben ym mis Mawrth, a bod disgwyl i bob anfoneb fod i law erbyn 10fed o Fawrth, penderfynwyd y byddai’n amhosib parhau efo’r cynllun enwi caeau ac ati. Fe fydd yr arian felly yn mynd yn ôl i’r gronfa. Penderfynwyd gwneud cais newydd ar gyfer gwella’r llwybrau, gan efallai gael grant i waredu’r ‘Japanese Knot Weed’ ar lwybr y rheilffordd.

Cafwyd cais am nawdd gan:

  •  Ysgol Sul Glanrhyd
  •  Sefydliad Aren Cymru
  •  Eisteddfod Llangollen
  •  Clwb Pêl-droed ieuenctid Bontnewydd

Penderfynwyd eu hystyried ym mis Mawrth.

Hefyd angen talu £1,000 i Ganolfan Llanwnda fel ar addewid.

Materion Cynllunio

Creu llain galed a menage, Weirglodd Fawr, Rhos Isaf – dim gwrthwynebiad cyn belled nag ydy’r cynllun yn dirywio’r llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg drwy’r tir; adeilady ty newydd ar dir Bryn Coch, Rhos Isaf – aelodau ddim yn siwr os ydy’r tir o fewn y Cynllun Unedol. Does dim mynediad presennol i’r safle fel sydd wedi’i nodi yn y cais; adeiladu ty newydd ger Wernas, Rhos Isa – dim gwrthwynebiad; defnydd o dir ar gyfer storio 52 o garafanau teithiol am gyfnod dros dro yn White Tower, Llandwrog – dim gwrthwynebiad; derbyniwyd llythyr o wrthwynebiad i’r cais i gael dau dy ar dir Llwyndyrys, Rhostryfan.

Gohebiaeth

  •  Munud Ma – cwmni yn cynnig gwasanaeth trwsio cerrig beddi ac ati – i’w gadw ar ffeil

  •  Cyngor Adfywio Gwynedd – cadeirydd a’r clerc i lenwi’r holiadur.

  •  Partneriaeth Llywodraeth Leol – adroddiad.

  •  Cynulliad – benthyciadau gan gynghorau tref a chymuned.

  •  Rheilffordd Ffestiniog – llythyr yn nodi eu bod bellach wedi torri’r gwrychoedd ar Bont Cae’r Moel.

  •  Cyngor Iechyd Cymuned – adroddiad ar wasanaeth tu allan i oriau meddygon teulu – clerc i wneud copi i bawb.

  •  Strategaeth Amgylcheddol Gwynedd.

  •  Her Iechyd Cymru.

  •  Sefydliad Ymchwil Prifysgol Cymru.

  •  Arolwg Cymunedau Gwynedd, llythyr gan Dilys Phillips, Cyngor Sir – gwneud copi i bawb a threfnu fod mapiau o’r gymuned ar gael.
Cynulliad – gwybodaeth gyffredinol.

  •  Hywel Williams AS – trobwynt ar ryddhad treth ar bensiynau gan y llywodraeth.

  •  Adran Briffyrdd – rhaglen waith.

  •  Cynulliad – swm priodol ar gyfer y flwyddyn 06-07 o dan Adran 137.

  •  Gwybodaeth gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol am opsiynau i gael help gyda gwaith cymunedol – i’w gadw ar ffeil ar gyfer prosiectau y dyfodol.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys