Cyngor Cymuned Llanwnda

Newyddion Mawrth 2006

 
 
Hysbyseb  
 
 
 

Estynwyd groeso cynnes i bawb.

Datgan Buddiant:

  •  Nawdd Canolfan Bronyfoel: Gwilym Vaughan Thomas
  •  Nawdd Clwb Pêldroed Bontnewydd: Jason Hunt
  •  Nawdd Ysgol Sul Glanrhyd: Bethan Williams

Cadarnhawyd y cofnodion o’r cyfarfod diwethaf (22.02.06).

Materion yn Codi

  •  Cynllun Uwchgwyrfai – angen ysgrifennu at Cymad a Chyngor Gwynedd yn cwyno am safon y gwaith sydd wedi’i wneud ar y gridiau, a nodi fod angen ‘reflectors’ arnynt. Nodwyd fod giât wedi’i dwyn ar Lôn Wen fisoedd yn ôl ac nad ydy wedi’i hail-osod. Hefyd angen gosod y grid yng Ngharmel.

  •  Plac Graianfryn a Capel Bach. Clerc wedi siarad efo Gareth V.Roberts o Gyngor Gwynedd a’i hysbysodd fod plac Graianfryn bellach wedi’i gwblhau a’i fod yn Brunswick yn cael ffrâm. Angen cysylltu efo Wyn Williams i ofyn wrtho osod y plac ar safle Capel Bach.

  •  Cais Cronfa Gwella Gwynedd – cais i wella llwybrau’r rheilffordd - ffurflen wedi’i chwblhau, a’r clerc yn mynd i’w hanfon ymlaen.

  •  Adroddiad Prifysgol Bangor ar yr henoed – adroddiad ac yn nodi fod bwriad i drio cadw’r henoed yn eu cynefin cyn hired a phosib, a nodi nad ydy cynllun trefol bob amser yn gweddu i ardal wledig fel Gwynedd. Nododd y cadeirydd fod yr adroddiad, yn ei thyb hi, yn mynd i’r cyfeiriad iawn.

  •  Aelodau wedi sylwi fod papur y Caernarfon & Denbigh yn tueddu i adlewyrchu newyddion ardaloedd eraill yn hytrach nag Arfon. Angen llythyr atynt i ofyn pam.

  •  Llwybr troed rhwng Aberalaw a Trem Don heb ei glirio – angen atgoffa’r Adran Briffyrdd.

  •  Dwr yn gorlifo yn y ‘manhole’ ger Bro Cadfan. Adroddodd y clerc fod swyddog o Gwmni Daniel wedi ymweld â’r safle, ac wedi nodi nad oedd problem ar y diwrnod hwnnw, ond ei fod yn nodi hefyd fod y gwter yn fâs iawn ac na fyddai’n gallu derbyn lot fawr o ddwr. Angen cadw golwg ar y sefyllfa.

  •  Pryderon ynglyn â’r ffordd rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan – angen atgoffa’r Adran Briffyrdd am lythyr a ddanfonwyd beth amser yn ôl, ac at eu hymateb hwythau bryd hynny.

  •  Post Office Card Accounts (POCA) – nodwyd fod bwriad i stopio talu budd-daliadau yn y Swyddfeydd Post lleol yn y dyfodol. Angen lobïo yn erbyn hyn er mwyn ceisio cadw’r swyddfeydd post gwledig yn agored. Angen ysgrifennu at Hywel Williams AS ac at Alun Ffred Jones AC i geisio atal hyn rhag digwydd.

  •  Safleoedd Ail-Gylchu – angen gwneud cais eto i’r Cyngor Sir baratoi safloedd – o dan Ffridd Terrace, Rhosgadfan, o dan Glanrafon, Rhostryfan ac ar faes parcio wrth fynedfa Lôn Eifion.

  •  Safle Wê ar gyfer Cyngor Llanwnda – nododd y clerc ei bod bellach yn anfon cofnodion o’r cyngor i safle Antur Nantlle. Angen cysylltu efo’r Cyngor Sir i weld os oes linc ar gael i Llanwnda.

  •  Giatiau’r fynwent – nododd y clerc ei bod wedi atgoffa cwmni D.J.Williams i gael trwsio’r giatiau yn fuan.

  •  Lampau stryd – roedd y clerc wedi cael cyfarfod safle gyda Nigel Hardwidge o Gyngor Gwynedd, ac roedd wedi paratoi adroddiad a phris ar bob safle. Roedd gosod lamp ger Terfyn a safle rhwng Penyceunant a Tan yr Ardd yn costio oddeutu £9,000 am y ddwy. Nodwyd hefyd fod codi lamp ger y grid wrth ymyl Muriau yn mynd i gostio tua £7,000 a lamp ger Bron Eryri yn mynd i gostio tua £350 (gan fod polyn eisoes yn bodoli). Cytunwyd i archebu un lamp ar gyfer Bron Eryri yn unig, gan fod yr aelodau’n teimlo fod y gweddill yn rhy ddrud.

  •  Arwyddion arafu – Rhostryfan. Nododd y clerc fod y polyn ar gyfer yr arwydd eisoes wedi’i osod a bod bwriad i osod yr arwydd yn fuan. Angen gwneud cais i’r Cyngor Sir am ddau arwydd yn Rhosgadfan, a cheisio cael un arall yn Rhostryfan. Os nad yw’r Cyngor Sir yn fodlon eu prynu, efallai y gallai Cyngor Llanwnda eu prynu’n uniongyrchol.

  •  Materion cyflogaeth clerc – datganodd y clerc fuddiant a gadawodd y cyfarfod. Penderfynwyd codi oriau’r clerc o 31 i 50 y mis, yn unol â chanllawiau Un Llais i Gymru. Hefyd, penderfynwyd talu £150 y flwyddyn fel tâl am ofalu am y fynwent. Dychwelodd y clerc i’r cyfarfod. Nodwyd ei bod yn bwysig fod y Cyngor yn ystyried clerc fel cyflogai ac nid fel person hunan-gyflogedig. Angen trefnu is-bwyllgor cyllid a gweinyddol i wneud y trefniadau perthnasol, ar ôl i’r clerc gael mwy o wybodaeth.

  •  Neuadd Llanwnda – angen talu £1,000 fel yr addewid. Nodwyd fod angen ysgrifennu yn datgan pe bai’r cynllun yn methu fod ad-daliad llawn i’r cyngor yn daladwy.

Penderfynwyd rhoi nawdd i’r canlynol:

  •  Cwmni’r Frân Wen
  •  Ysgol Sul Glanrhyd
  •  Clwb Pêl Droed Ieuenctid Bontnewydd
  •  Theatr Bara Caws
  •  Uned Bronyfoel
  •  Lleu

Penderfynwyd peidio rhoi nawdd i’r canlynol gan nad oeddynt wedi anfon mantolen (angen ysgrifennu i nodi hyn wrthynt):

  •  Cais
  •  Cyfeillion Cerdd
  •  Sefydliad Aren Cymru
  •  Eisteddfod Llangollen
  •  Eisteddfod Genedlaethol (angen gofyn am fantolen o’r Faenol)

Materion Cynllunio

  •  Bryn Rhedyn, Llanwnda – trosi adeilad amaethyddol yn fyngalo. Dim gwrthwynebiad.

  •  Nodwyd fod copi o’r Cynllun Datblygu Unedol wedi mynd ar goll gan un o’r aelodau. Clerc i drefnu ein bod yn cael copi newydd.

  •  Amserlen Ymgynghoriad.

  •  Ynglyn â chais cynllunio Bryn Coch o’r mis diwethaf, nododd y clerc ei bod wedi derbyn galwad ffôn gan wrthwynebydd i’r cais yn nodi ei fod wedi bod yn y Swyddfa Gynllunio ac wedi cael ar ddeall nad oedd Cyngor Llanwnda wedi rhoi eu sylwadau ar y mater. Nododd y clerc ei bod wedi anfon e-bost ar y 27ain o Chwefror, ac ei bod wedi derbyn e-bost yn ôl gan yr Adran fel cydnabyddiaeth. Wrth holi ymhellach, rhoddwyd gwybod i’r clerc fod yr e-bost ‘heb ei ffeilio’ pan ddaru’r gwrthwynebydd ymweld â’r Adran. Angen anfon llythyr i’r Adran yn datgan ein pryderon nad ydy sylwadau’r Cyngor Cymuned yn cael sylw teg.

Gohebiaeth

  •  Cynulliad – rheolau statudol

  •  North Wales Playing Fields Association

  •  Bwletin Gwynedd Yfory – holiadur

  •  Safloedd parcio yng Ngwynedd – dim yn Llanwnda

  •  Arfon Jones – contractiwr

  •  Dewi Tomos – byrddau gwybodaeth ar y tir comin. Cwyno fod y byrddau mewn cyflwr gwael, a fod angen rhoi gwybod i Cymad nad oedd y gwaith o’r safon gorau.

  •  HSBC – nodi fod costau cadw gweithredoedd y fynwent wedi codi i £18.00.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys