Gofynnwn yn garedig i bawb gydymffurfio â’r
rheolau canlynol a luniwyd er hwylustod pawb sy’n
ymwneud â’r fynwent, yn arbennig y teuluoedd
sydd a rhywun annwyl iddynt yma.
Beddrodau
1. Ni ddymunwn weld llain beddrod newydd wedi ei amgylchynu
mewn unrhyw fodd.
2. Ni werthir llain os na fydd angen ei agor yn syth,
ac ni ddylid agor bedd fwy na thri diwrnod cyn claddedigaeth.
3. Maint beddrod yw wyth troedfedd o hyd, pedair o led
ac wyth troedfedd o ddyfnder.
4. Cyfrifoldeb y sawl sydd â’r hawl i gladdu
yno, neu gynrychiolydd, yw’r beddrod.
5. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw niwed a achosir
gan drydydd person.
6. Ni chaniateir palu’r tir na phlannu unrhyw
blanhigion nag ychwaith osod tegannau, addurniadau na
phlanigion ar y gwair.
7. Ni chaniateir defnyddio chwynladdwr.
8. Bydd unrhyw un sy’n agor neu gau bedd yn gyfrifol
am niwed a berir.
9. Mae’n ofynnol i wneud yr adeiladwaith priodol
o fewn y bedd, megis blociau/briciau hyd yr ochrau, gan
gau drosto gyda slabiau rhag i’r tir suddo’n
ormodol wedyn.
10. Dylid claddu llwch yn y man arbennig a ddynodir
ar ei gyfer gan y Cyngor. Dylai’r beddrod fod yn
mesur llathen sgwar, dwy droedfedd o ddyfnder, a lle
i uchafswm o bedair cist llwch.
11. Cyfrifoldeb y sawl sydd â’r hawl i gladdu
yno, neu gynrychiolydd, fydd i ddilyn y rheolau a chadw
urddas y fynwent.
Claddu
1. Bydd angen rhoi rhybudd o gladdedigaeth i Glerc y
Cyngor yn y cyfeiriad uchod, o leiaf dri diwrnod cyn
y gladdedigaeth , ar wahân i achosion brys gyda
thystysgrif meddygol. Mewn achosion o’r math yma
yn unig y derbynnir rhybudd ar y Sul.
2. Ni ddylid claddu cyn 10 o’r gloch y bore, nac
ar ôl 5 o’r gloch yr hwyr, onibai bod amgylchiadau
yn galw am hynny. Rhaid cael caniatâd i gladdu
ar y Sul.
3. Bydd pob ymgymerydd neu ei asiant sy’n agor
unrhyw fedd yn gyfrifol am dacluso ar eu (h)ôl
a chludo unrhyw bridd neu gerrig nas defnyddir i gau’r
bedd o’r Fynwent o fewn wythnos i’r angladd.
Os na wneir hyn, gall y Cyngor wneud y gwaith ei hun
ac ad-ennill y gost oddi wrth yr ymgymerydd. Pan fo bedd
yn agored, mae’n angenrheidiol ei orchuddio’n
ddigonol.
4. Mae unrhyw un sy’n defnyddio offer y Cyngor
ar gyfer claddedigaeth yn gyfrifol am ei ddychwelyd i’r
cwt wedi’r angladd, ac i gloi ar ei (h)ôl.
5. Cyfrifoldeb yr ymgymerydd i’w sicrhau fod y
rhesi beddi yn cael eu cadw mor syth â phosib.
Gosod Penfeini
1. Ni chaniateir naddu na thrwsio penfeini y tu mewn
i’r Fynwent, a bydd rhaid cludo pob defnydd at
fedd neu gofadail o’r Fynwent a diogelu rhag gwneud
niwed i’r beddau.
2. Bydd gofyn anfon cynllun a disgrifiad o bob cofadail
at y Clerc er mwyn ei hystyried gan y Cyngor. Ni ddylid
gosod unrhyw gofadail heb yn gyntaf i’r Cyngor
dderbyn ei chynllun. Dylid cyfyngu mesuriadau pob cofadail
i 2 droedfedd 6 modfedd o uchder a 2 droedfedd 3 modfedd
o led.
3. Dymuna’r Cyngor ei wneud yn gwbwl glir mai
gyda’r teulu yr erys y cyfrifoldeb am ddiogelwch
y cerrig beddi a osodir ar fedd, ond ceidw’r Cyngor
yr hawl i fod â’r penderfyniad olaf os yw
carreg fedd yn ddiogel, a phe na bai’r garreg yn
cael ei hystyried yn ddiogel, yna gall y Cyngor gymryd
camau priodol, megis ei gosod ar ei chefn, er sicrhau
diogelwch defnyddwyr eraill y Fynwent.
4. Disgwylir i’r ymgymerwyr aros o leiaf 12 mis
ar ôl claddu cyn gosod carreg fedd.
Cyffredinol
1. Cedwir cofrestrau’r Fynwent gan y Clerc a gellir
eu gweld a chael copi ohonynt am dâl o £15.00.
2. Ceidw’r Cyngor yr hawl i adolygu’r rheolau
a’r ffioedd yn flynyddol. Gweithredir y fynwent
yn unol a Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn ogystal ag unrhyw
orchymyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu’r
Ysgrifennydd Gwladol.
3. Disgwylir i oedolion gadw plant ac anifeiliaid mewn
trefn er lles holl ddefnyddwyr y Fynwent.
Diolchir i bawb am gydymffurfio efo’r uchod. |