Hanes Dyffryn Nantlle

Nantlle

 
 
Hysbyseb
 
 
 
 

Tudur Goch

Brodor o Nantlle ac yn byw yma yn 1300 ydoedd Tudur Goch. Roedd yn ustus, ac yn rhinwedd ei swydd byddai’n gwisgo mantell goch a dyna sut y daeth yr enw 'Tudur Goch' iddo.

Fe dorrodd yna ryfel allan rhwng Lloegr a Ffrainc a bu i Tudur ymuno gyda byddin Lloegr. Roedd ym myddin y Tywysog Du ym mrwydr Crecy ac yn ystod yr ysgarmes saethodd Frenin Ffrainc oddiar ei farch a’i gymeryd yn garcharor. O ganlyniad bu i’r Ffrancwyr yn araf dorri eu calonnau a chael eu concro.

Bu i’r Tywysog Du anrhydeddu Tudur ar faes y frwydr a’i urddo yn farchog. Hefyd cafodd dir ganddo yn Nantlle a grant o swm o arian. Wedi’r frwydr dychwelodd Tudur yn ol i Nantlle ac adeiladodd blasdy ger y ddau lyn ym Maladeulyn. Ymhellach ymlaen adeiladodd yr hen felin yn Nantlle, gwnaeth hyn i gynhyrchu bara i’r gweithwyr oedd yn adeiladu Castell Caernarfon. Adeiladodd wedyn Ty Mawr Nantlle ac yn olaf blasdy Glynllifon. Disgynyddion iddo fu yn byw gan fwyaf wedyn yng Nglynllifon.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys