Chwarae • Cliciwch eich llygoden
ar y blwch lle rydych eisiau ychwanegu rhif, a gwnewch
hynny gan ddefnyddio'r botymau rhif 1-9 ar eich allweddfwrdd.
• Gallwch ddileu unrhyw
gamgymeriad efo'r botwm 'Backspace' neu 'Delete' ar eich
allweddfwrdd.
• Wedi i chi orffen y
pôs, pwyswch y botwm 'Gwirio' i weld os oedd
eich ateb yn gywir.
• Bydd unrhyw gamgymeriadau
yn cael eu dangos mewn lliw coch, a phob ateb cywir
yn wyrdd.
• I ennill, mae'n rhaid
i chi gael y blychau i gyd yn gywir ac yn wyrdd. Cymorth • I'r rhai ohonoch sy'n
cael trafferth, gallwch bwyso'r botwm 'Awgrym' am ychydig
o gymorth. • I'r rhai sy'n trio
drosodd a throsodd ond yn dal i fethu - peidiwch a
chrio! Yn hytrach, pwyswch y botwm 'Ateb' i weld
yr ateb cywir. (Nodyn: Difetha eich
mwynhâd o'r gêm
mae hyn wrth ei wneud yn rhy fuan ac yn rhy aml, felly
triwch eich gorau
cyn mynd at y botwm yma.) Rheolau Y syniad yw i chi lenwi'r grid fel bod bob rhes, bob
colofn, a phob blwch 3x3 yn cynnwys y rhifau 1-9. • Ni all unrhyw un o'r rhesi gynnwys yr un rhif fwy
nag unwaith. • Ni all unrhyw
un o'r colofnau gynnwys yr un rhif fwy nag unwaith.
• Ni all unrhyw un o'r blychau 3x3 gynnwys yr un rhif fwy
nag unwaith.
|