Chwilio am wybodaeth:

Arthur Griffith, sylfaenydd Sinn Fein

 
 
 
 

07.10.2007

Annwyl Gyfeillion,

Rwyf yn ceisio olrhain hanes teuleuol Arthur Griffith, sylfaenydd Sinn Fein, symudodd y teulu rhai cenhedlaethau cyn ei eni o Ddrws y Coed i'r Iwerddon. Yr unig wybodaeth gen i os yn gywir yw fod y teulu wedi symud drosodd oherwydd swydd gyda'r fyddin, ac ymsefydlu yn Cavan.

Mae yna hanes difyr i yrfa wleidyddol y gwr yma ond ychydig sydd o'i hanes personol a'r cysylltiad a Dyffryn Nantlle, hyd y gwn i.

Oes yna rhywun yn gwybod mwy am ddisgynyddion y teulu hwn? Buaswn yn falch o unrhyw wybodaeth.

Diolch,
Ifor Williams.

E-Bostiwch fi


Ymateb

Annwyl Ifor,

Diolch am eich ymholiad diweddar.

Wedi gwneud ychydig o waith ymchwil, mae'n ymddangos fod cryn dipyn o wybodaeth ar gael am hanes y gwr yma a'i rôl efo Sinn Fein, ond ychydig iawn ynglyn a'i deulu a'i berthynas efo Dyffryn Nantlle.

O'r nifer o erthyglau sydd ar gael ar y wê, rydym yn cynnig y ddau yma fel man cychwyn i chi:

Hefyd, rydym yn cynnig eich bod yn chwilio ar Google efo'r term 'Arthur Griffith Sinn Fein' Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd, gan y bydd yn dod a nifer o erthyglau perthnasol at eich sylw.

Gobeithio bod hyn o gymorth.

Pob hwyl,
Criw nantlle.com.

  Valid HyperText Markup Language (HTML) 4.01 Transitional Level A  compliance with the W3C's WCAC 1.0 Valid Cascading Style Sheets (CSS)