Chwilio am wybodaeth:

Cyril Lloyd, Rhostryfan

 
 
 

10.05.2013

Tybed a oes rhywun ym mhentref Rhostryfan neu'r cyffiniau all roi gwybodaeth am ŵr o'r enw Cyril Lloyd?

Ychydig fisoedd yn ôl bu'r gŵr hynod hwn farw yn yr UDA a chynhaliwyd gwasanaeth coffa amdano yn Eglwys Bresbyteraidd Peniel, Quaker Street, Granville. NY ar Fai 8fed.

Yn ôl y wybodaeth roedd Cyril Lloyd yn enedigol o ardal Rhostryfan ac yn aelod o'r cantorion 'Lloyd Family Singers'. Aeth Cyril i Efrog Newydd gyda chôr meibion o Gymru ac fe gyfarfu â Jani o South Poultney gan briodi yn ddiweddarach. Bu'n gweithio i'r 'World Bank' am 25 mlynedd cyn ymddeol i Granville. Tybir fod ganddo un nai yn ôl yng Nghymru ac roedd lawer yn edrych ymlaen i'w gyfarfod yn yr angladd.

Hoffwn gael gwybod mwy am Cyril Lloyd a hefyd pwy oedd y 'Lloyd Family Singers.

Rwyf yn gwneud yr ymholiadau hyn ar ran cyfaill i mi. Os oes gennych unrhyw fath o wybodaeth am Cyril Lloyd gallwch gysylltu â mi ar hafodygan@aol.com.

Diolch ymlaen llaw am unrhyw wybodaeth,
Ifan Glyn Jones.

  Valid HyperText Markup Language (HTML) 4.01 Transitional Level A  compliance with the W3C's WCAC 1.0 Valid Cascading Style Sheets (CSS)