Tywydd Dyffryn Nantlle
Lincs Sydyn nantlle.com
Digwyddiadau
SION A SIAN
Nos Fawrth, Mai 8fed am 6.30yh yn Neuadd Llanllyfni
Noson hwyliog 'Sion a Sian' efo Stifyn Parry a Heledd Cynwal.
Chilli a diod ar gael ar y noson. Ni fydd y noson yn cael ei ffilmio.
Tocynnau wrth y drws. Prîs mynediad: £3 i oedolion a £1.50 i blant.
Busnes a Swyddi
SWYDDFEYDD AC UNEDAU BUSNES AR GAEL
Mae gan Antur Nantlle swyddfeydd ac unedau busnes hwylus ar gael i fusnesau ar hyn o bryd.
Cysylltwch â Robat Jones ar robat@anturnantlle.com, 01286 882688 neu 07724 902532.
Rhenti a thelerau rhesymol iawn.
Ydych chi'n gyflogwr? A hoffech chi hysbysebu swydd yma YN RHAD AC AM DDIM?
Mae croeso i chi wneud hynny - gyrrwch y manylion i post@nantlle.com.
Cefnogaeth
Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle 2012
Mai 12fed - 19eg
Er Budd Cronfa Nyrsus Marie Curie, Nyrsus Macmillan a Chronfa offer Nyrsus Lleol ac achosion da lleol
Wythnos yn llawn hwyl a sbri i'r teulu oll !
Cliciwch yma i weld Rhaglen yr wythnos

Croeso i nantlle.com -
y wefan sydd wedi'i chreu gan grŵp o bobl leol er lles ardal Dyffryn Nantlle a'i thrigolion yn gyffredinol. Ein
bwriad yw cadw hanes Dyffryn Nantlle yn fyw yn ogystal â rhannu gwybodaeth am weithgaredddau, adnoddau a busnesau y Dyffryn. Busnesau lleol:
Hysbysebwch eich busnes
ar Wefan Swyddogol Dyffryn Nantlle gan gefnogi eich
ardal leol ar yr un pryd.
Mae sawl pecyn hysbysebu ar gael:
£12 y flwyddyn
- Cofrestru
ar y Cyfeiriadur Busnes – manylion eich busnes
ar y rhestr busnesau, ynghŷd a linc i’ch gwefan
os oes gennych un
£25 y flwyddyn
- Noddi tudalen – baner
gyda’ch logo a gwybodaeth am eich busnes ar draws
gwaelod
un dudalen o’r
wefan, yn ogystal a manylion eich busnes
ar y rhestr busnesau
£60 y flwyddyn
- Tudalen wê eich hun ar
www.nantlle.com – holl fanylion eich busnes /
logo / lluniau
ayb.
Gwefan
un dudalen gyflawn ar gyfer eich busnes
yn ogystal a manylion eich busnes
ar y rhestr busnesau
Pawb:
Mae croeso i chi gyfrannu
manylion am unrhyw ddigwyddiad o fewn ardal Dyffryn
Nantlle ar y
safle
ar unrhyw adeg. Mae
croeso i chi gyfrannu i'r wefan hefyd, felly gyrrwch eich straeon a'ch lluniau i nantlle.com er mwyn eu rhannu efo'r byd.    
|