Sefydlwyd Antur Nantlle Cyf
yn 1991 fel cwmni cymunedol i weithio er lles Dyffryn Nantlle
a'r ardaloedd cyfagos.
Nod y cwmni ydyw datblygu prosiectau a denu grantiau i’r
ardal fydd yn arwain at ddatblygiad economaidd, amgylcheddol
a chymdeithasol. Mae’r Antur yn barod ac yn awyddus
i weithio gyda phartneriaid eraill i gyrraedd y nod, trwy
chwilio am gyfleon newydd, hyrwyddo menter ymhlith pobl
leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi.
Lleolir swyddfa’r Antur yng Nghanolfan Dechnoleg
Antur Nantlle yng nghanol Penygroes. Mae’r Ganolfan
yn gwasanaethu trigolion Dyffryn Nantlle a’r cylch
trwy gynnig gwasanaeth eang i’r cyhoedd. Mae yma
ddrws agored i drigolion lleol ac ymwelwyr i ddod i chwilio
am wybodaeth leol, defnyddio’r cyfrifiadruon a’r
cyswllt rhyngrwyd, gwasanaeth llun gopio, peiriant ffacs,
lamineiddio a llawer mwy. Mae ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol
y Ganolfan yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn cydweithrediad
a darparwyr hyfforddiant.
Mae gennym nifer o unedau busnes swyddfeydd a siop yn
yr ardal ac mae gwarchod ein tenantiaid yn un o’n
blaenoriaethau pwysicaf.
Bwrdd Rheoli Antur
Nantlle
Rheolir yr Antur gan fwrdd o Gyfarwyddwyr sydd yn rhoi
eu hamser yn wirfoddol oherwydd eu bod yn rhannu’r
un dyheadau i greu yn Nyffryn Nantlle gymdeithas ffyniannus
a chynaliadwy.
Llywydd Anrhydeddus: Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd: y Cynghorydd O P Huws
Is-gadeirydd: Dafydd Owen
Cyfarwyddwyr: John Pritchard, Talfryn
Griffiths, Ann Thomas, Dyfed Edwards, Elwyn Jones
Griffith, Gwynne Williams, Ben Gregory,
Ifan Glyn Jones.
Cysylltu
Am fwy o wybodaeth am waith yr Antur cysylltwch a’r
Swyddogion:
• Swyddog Menter: Dafydd
Glyn Owen
• Swyddog Gweinyddol: Beryl
Fretwell
Post: Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle,
20 Heol y Dwr, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd. LL54 6LR
Ffôn: 01286 882688
E-Bost: ymholiadau@anturnantlle.com
Dogfennau Priodol
»» Adroddiad
ar Dwristiaeth yn Nyffryn Nantlle - Mai 2006 (482kb) |