Hanes Lleol

Cyflwyniad i Hanes Dyffryn Nantlle

 
 
 

Daeth rhai o bentrefi Dyffryn Nantlle i fod yn sgîl y cloddio am lechi yn y chwareli a agorwyd yno yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg - ar gyfer toeau, cerrig beddau, cofgolofnau, siliau ffenestri, palmentau, byrddau biliard a llechi ysgrifennu ysgolion, ac yn y blaen. Parhaodd y galw hwn am ganrif a hanner ac er bod y prif chwareli wedi cau mae cryn alw erbyn hyn am lechi mân i wneud ffyrdd ac i lenwi gerddi.

O ardaloedd amaethyddol Môn ac Arfon y daeth y chwarelwyr hyn yn bennaf a dyna paham y bu’r diwydiant mor Gymreig ar hyd yr amser. Tua 80% o’r boblogaeth sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf erbyn hyn.

Y llun enwog o’r Dyffryn gan Richard Wilson yn dangos Llyn Baladeulyn rhwng Craig y Bera a’r Garn a’r Wyddfa yn y cefndirBu Dyffryn Nantlle yn fagwrfa i feirdd a llenorion cenedlaethol yn y ganrif ddiwethaf – y cyfeirir atynt dan wahanol bentrefi - ac mae’n gysylltiedig â’r cyfnod cyn-hanes a geir ym mhedwared gainc y Mabinogi.

Tynnwyd y llun enwog yma o’r Dyffryn (Yr Wyddfa o Lyn Nantlle [1765]) gan Richard Wilson yn dangos Llyn Baladeulyn rhwng Craig y Bera a’r Garn a’r Wyddfa yn y cefndir.

  »»  Map O.S. 1840 Dyffryn Nantlle Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd

Am fwy o wybodaeth ar hanes yr ardal, cliciwch ar enw'r pentre' priodol yn y mynegai ar y chwith.
< < <

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys