Cefndir Antur Nantlle Cyf

 
 
 

Logo Antur Nantlle | "Gweithio er lles yr ardal"Sefydlwyd Antur Nantlle yn 1991 fel cwmni cyfyngedig ddim i wneud elw, gan grŵp o bobl leol i weithio er lles ardal Dyffryn Nantlle a’r cylch. Nod yr Antur oedd ymgyrraedd at adfywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn yr ardal gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo menter ymhlith pobl leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi. Datblygodd y cwmni ar draws y blynyddoedd ac erbyn heddiw mae’r seiliau yn gadarn iawn.

Drwy ddenu grantiau o ffynonellau megis Cyngor Gwynedd, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth y Cynulliad ac eraill, a hefyd fanteisio ar fenthyciadau Cyllid Cymru, mae’r Antur wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth yn Nyffryn Nantlle.

Mae’r Antur yn falch o gyflwyno’r rhestr isod fel arwydd o lwyddiannau’r cwmni ers ei sefydlu.

Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle (1991)

Dyma brosiect cyntaf Antur Nantlle a gyflawnwyd drwy gefnogaeth ariannol gan Gyngor Bwrdeistref Arfon a’r Swyddfa Gymreig i brynu ac addasu hen ddepo’r Cyngor ym Mhenygroes yn unedau busnes bychan.Rhoddodd hyn gyfle i bobl leol gychwyn mewn busnes ar gostau cychwynnol isel. Ynghyd a’r saith uned mae yma hefyd dair swyddfa ac iard fechan.

Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle (1997)

Deuddeng mlynedd yn ôl, bu’r Antur yn flaengar yn sefydlu Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle mewn hen adeilad banc Barclays yn Heol y Dŵr, Penygroes. Dyma Ganolfan sydd wedi gwasanaethu trigolion Dyffryn Nantlle a thu hwnt i ddatblygu sgiliau TGCh a chysylltu Dyffryn Nantlle a’r byd mawr trwy’r we. Cyfunwyd y llyfrgell leol yn rhan o’r adeilad a thrwy hyn gynnig lleoliad cyfleus a chanolig i bawb. Mae swyddfa a derbynfa Antur Nantlle wedi ei lleoli yn y Ganolfan Dechnoleg

Dyma’r patrwm a ddefnyddiwyd gan Gyngor Gwynedd wrth iddynt baratoi cynllun i sefydlu Canolfannau Dysgu Gydol Oes mewn ardaloedd eraill.

Siop / Gweithdy (1999)

Roedd gweld ffenest siop ar ôl ffenest siop yn diflannu o strydoedd ein pentrefi yn peri pryder i’r Antur. Yn 1999 daeth cyfle i brynu siop wag yn Stryd yr Wyddfa a diogelu ffenest siop ym Mhenygroes. Dyma gynllun arloesol oedd yn cynnig gweithdy yn y cefn ynghyd a ffenestr siop i werthu cynnyrch y tenant.

Tŷ Iorwerth, Penygroes (2002)

Roedd dau lawr uchaf adeilad banc yr HSBC wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac yn dirywio. Gwelodd Antur Nantlle gyfle i ddiwallu rhywfaint o’r gofyn am swyddfeydd yn lleol trwy chwilio am gyllid i brynu’r adeilad gan yr HSBC ac addasu’r ddau lawr uchaf yn saith swyddfa safonol i’w gosod sydd yn cyd-fynd a chanllawiau newydd mynediad i’r anabl.

Erbyn heddiw mae’r swyddfeydd i gyd yn llawn a’r banc HSBC yn dal i weithredu ar y llawr isaf.

Y Barics, Nantlle (2003)

Prynodd Antur Nantlle y safle hanesyddol hon gan yr Awdurdod Datblygu oedd wedi adnewyddu’r adeiladau i safon uchel. Mae yma chwe uned sydd yn addas ar gyfer busnes a chrefft ac mae Antur Nantlle ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil i sefydlu Canolfan Awyr Agored ar y safle.

Mae’r Antur wedi cydweithio gyda grŵp cymunedol Llys Llywelyn i addasu Uned 2 yn ganolfan gymunedol i drigolion Nantlle. Mae’r Uned ar ei newydd wedd yn fan cyfarfod i gymdeithasau lleol ac yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau plant, dosbarthiadau ayb.

10 Heol y Dŵr, Penygroes (2004)

Ym 2004 daeth cyfle i Antur Nantlle brynu adeilad yr hen Siop 22, 10 Heol y Dwr gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae siop / uned ar y llawr isaf a thair swyddfa ar y llawr cyntaf. Mae’r adeilad mewn man cyfleus ym mhrif stryd y pentref ac mae Antur Nantlle wedi bod yn falch o’r cyfle i gadw’r adeilad at ddefnydd busnes.

Cynnig Gwasanaeth

Mae swyddfa a derbynfa’r Antur wedi eu lleoli oddi fewn i Ganolfan Dechnoleg Antur Nantlle yn Heol y Dwr, Penygroes. O’r fan hon yr ydym yn cynnig nifer o wasanaethau megis defnydd cyfrifiaduron, ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol, cyswllt i’r we, llun gopïo, a llawer mwy. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gwasanaeth i’r di-waith drwy gynnig defnydd rhad ac am ddim o’r cyfrifiaduron i chwilio’r we am swyddi, paratoi llythyrau a CV’s.ac mae llinell ffon uniongyrchol i’r Canolfan Byd Gwaith wedi ei gosod yn y cyntedd. Byddwn hefyd yn arwain pobl ymlaen at eraill all fod o gymorth iddynt. Mae’r Ganolfan yn ‘fan galw i mewn’ ac yn bwynt gwybodaeth sydd yn ganolog i’r ardal gyfan.

Oddi fewn i’r Ganolfan hefyd mae Llyfrgell Penygroes, Swyddfa Adfywio Cyngor Gwynedd dros ardal Nantlle / Gwyrfai a swyddfa Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle.
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol fe weithredodd yr Antur gynllun i hybu gwirfoddolwyr yn yr ardal dros gyfnod o 3 blynedd. Daeth y cynllun hwn a’r cwmni i gyswllt uniongyrchol gyda phob grwp, cymdeithas, mudiad gwirfoddol ac unigolion oedd yn gwirfoddoli yn yr ardal, a chafodd nifer fawr fudd o’r prosiect.

Mae’r Antur wedi gweithredu fel Corff Atebol i Bartneriaeth Talysarn a Nantlle dan raglen Llywodraeth y Cynulliad - Rhoi Cymunedau’n Gyntaf ers 2002 ac fel rhan o’u swyddogaeth wedi cymeryd cyfrifoldeb cyflogwr dros holl staff y Bartneriaeth ers hynny.

Mae’r Antur yn cynnig 16 o unedau busnes, 15 o swyddfeydd, 2 siop, iard, ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol ac un fflat i’w gosod yn yr ardal. Yr ydym yn paratoi mannau gwaith i oddeutu 60 o bobl yn Nyffryn Nantlle.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys