Safleoedd Antur Nantlle

 
 
 

Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle

20 Heol y Dŵr, Penygroes, Gwynedd, LL54 6LR

01286 882688

Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle

Mae Swyddfa Antur Nantlle wedi ei lleoli oddi mewn i’r Ganolfan Dechnoleg ac mae ar agor bob dydd rhwng 9am - 5pm. Galwch heibio’r Ganolfan am sgwrs hefo’r staff ac am fwy o wybodaeth am waith yr Antur.

Mae Llyfrgell Penygroes yn rhan o’r Ganolfan a hefyd Swyddfa Adfywio Cyngor Gwynedd a Swyddfa Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle

Siop 22

10 Heol y Dŵr, Penygroes, Gwynedd, LL54 6LR

Siop 22

Mae un swyddfa fawr / siop i’w gosod ar y llawr isaf a thair swyddfa ar y llawr cyntaf.

Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle

Ffordd Llanllyfni, Penygroes, Gwynedd, LL54 6DB

Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle

Agorwyd y Ganolfan yn 1991 ac mae saith uned, tair swyddfa a iard ar y safle.

Tŷ Iorwerth

39 Heol y Dŵr, Penygroes, Gwynedd

Ty Iorwerth

Mae saith swyddfa uwchben y banc yn Nhŷ Iorwerth gyda mynedfa i’r swyddfeydd o’r maes parcio yn y cefn. Mae banc yr HSBC yn gweithredu ar y llawr isaf

Y Barics

Nantlle, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6BD

Y Barics

Hen Farics oedd yn perthyn i Chwarel Pen-yr-orsedd pan oedd y chwareli llechi yn ei bri oedd y rhain. Adnewyddwyd yn bump uned crefft a busnes.

Grwp Llys Llywelyn

Mae Grŵp Llys Llywelyn yn gweithio’n galed i gynnal Canolfan Gymunedol i drigolion Nantlle yn Uned 2 Y Barics.

Siop / Gweithdy

35 Stryd yr Wyddfa, Penygroes, Gwynedd, LL54 6NG

Siop / Gweithdy

Siop a Gweithdy Oriel Llun-Mewn-Ffram.

Mae Antur Nantlle yn gweithredu yn Nyffryn Nantlle; rhan o ardal awdurdod lleol Cyngor Gwynedd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys