Bwletin Talysarn a Nantlle

 
 
 

Bwletin Ward Talysarn

Ionawr – Mawrth 2004

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Cyfarfod Cyhoeddus
2.   Sesiynau Hyfforddiant
3.   RRG
4.   Plant y Nant
5.   Cruisers Cymunedol
6.   Bro Silyn Action Group
7.   Canolfan Cymunedol Talysarn
8.   Blodeuwedd
9.   Tirwedd
10. Capel Baladeulyn
11. Capel Seion
12. Gweithdy Roc
13. Hysbysfyrddau
14.
Dilyniant y Cinio Nadolig
15. Pictiwrs Talysarn
16. Pobl Ifanc


Cyfarfod Cyhoeddus

Bydd Cyfarfod Cyhoeddus Cymunedau’n Gyntaf yn cael ei gynnal ar y 19eg Ebrill 2004 yng Nghapel Baladeulyn, Nantlle am 7.30yh. Bydd cyfle i bawb gael clywed am ddatblygiadau y rhaglen a dweud eu dweud. Bydd bws/ceir ar gael i’ch cludo i’r cyfarfod os mynnoch, manylion ar gael drwy gysylltu â Dafydd neu Wena yn y swyddfa.

[ Yn ôl i'r Top ]

Sesiynau Hyfforddiant

Os ydych chi yn aelod o fudiad neu grwp gwirfoddol, ac eisiau codi arian neu yn ystyried cyflogi staff, angen cyfeiriad pendant i’ch grwp neu eisiau cynllunio ar gyfer y dyfodol, yna ymunwch â Chanolfan Trigonos am 7 o’r gloch ar Fehefin 7fed 2004 i gael gwell dealltwriaeth o anghenion cynllun busnes, a mwy! Os am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Williams neu Wena Roberts yng Nghanolfan Cymunedol Talysarn.

[ Yn ôl i'r Top ]

RRG

Mae Swyddog Rheolwr Rhawd Gymunedol newydd wedi ei benodi gan Heddlu’r Gogledd sef Stephen Nesfield. Gobeithia Steve y bydd ganddo swyddfa yn y Ganolfan cyn bo hir, fel y bydd yno unwaith yr wythnos i drafod neu helpu unrhyw un fydd â diddordeb.

[ Yn ôl i'r Top ]

Plant y Nant

Plant y Nant efo Stephen Nesfield Lansiwyd grwp newydd Plant y Nant ym mis Ionawr, gyda Stephen Nesfield, ein Swyddog RRG newydd yn rhoi cyflwyniad ar Atal Troseddu i’r plant a’r rhieni.

Mae Plant y Nant wedi ei sefydlu i gynnal gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol. Bydd hyn yn gyfle i rieni gydweithio gyda’i gilydd er lles eu plant.

[ Yn ôl i'r Top ]

Cruisers Cymunedol

Mae CRUISERS TALYSARN wedi bod yn brysur iawn yn y cefndir ers ennill y cais i gael Parc Sglefrio ar ran o safle’r Gloddfa Glai yn 2003. Gyda help arian y Bartneriaeth, Mantell Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru trwy Cywaith Cymru yng Nghaerdydd, mi fydd cynllun i greu ardal liwgar drwy beintio’r rampiau du gyda chynlluniau creadigol a thraddodiadol yn cael ei wireddu’n fuan iawn.

Mi fydd artist preswyl yn cael ei gyflogi am chwe wythnos i gyd-weithio, addysgu a goruchwylio aelodau’r CRUISERS ar gynlluniau, cyn eu harddangos i drigolion y Nant. Bydd yr artist yn cychwyn ar y gwaith ym mis Mai, a gobeithiwn yn fawr bydd modd cynnwys disgyblion ysgolion cynradd Talysarn a Nantlle yn ogystal â phobl ifanc yr ardal sydd heb ddiddordeb mewn Sglefrfyrddio, Rollerblades na beiciau BMX. Croeso i bawb ymuno â’r Project!

Ar Fawrth 28ain ymwelodd criw sylweddol o’r CRUISERS gan gynnwys y Pwyllgor Rheoli i gyd (!) â Pharc Sglefrio dan do ‘Y Boneyard’ yn Tattenhall ger Caer. ‘Roedd yn bwysig iawn i ni ymweld â Pharc arall i ddysgu sut mae eraill yn rhedeg eu hadnoddau, ag i weld os yw’n bosibl i ni wella’r adnoddau sydd gennym. Da yw adrodd yn ôl fod neb wedi brifo yno, a bod pawb wedi mwynhau’r ymweliad yn fawr iawn. Diolch i’r Bartneriaeth am ein galluogi i drefnu’r trip, gan gynnwys arian am bryd o fwyd ar y ffordd adref.

[ Yn ôl i'r Top ]

Bro Silyn Action Group

Yn ystod mis Chwefror trefnwyd diwrnod yn Llandudno gan y grŵp fel rhan o ymgyrch gwella sgiliau ac adeiladu potensial. ‘Roedd hyn yn gyfle i’r plant a phobl ifanc fwynhau, yn treulio diwrnod mewn amgylchedd gwahanol. Uchafbwynt y diwrnod oedd mynd i’r sinema i weld ffilm ac yna cael gêm o Fowlio Deg.

[ Yn ôl i'r Top ]

Canolfan Cymunedol Talysarn

Nid breuddwyd bellach yw adeiladu estyniad ar y Ganolfan. Mis Ionawr eleni, penodwyd Penseiri Partneriaeth Ap Thomas gan bwyllgor y Ganolfan i ymgymeryd â’r gwaith cynllunio. Bydd cyfle i bawb roi eu sylwadau a’u syniadau ymlaen mewn sesiynau ymgynghori yn ystod yr wythnosau nesaf.

[ Yn ôl i'r Top ]

Blodeuwedd

Mae’r gwanwyn yma unwaith eto, ac eleni, mae hyn yn fwy amlwg nag erioed. Diolch i grŵp Blodeuwedd mae’r Cennin Pedr sydd i weld o amgylch y ddau bentref, yn rhoi lliw a bywyd newydd, ac yn dangos bod posib i’ch syniadau dyfu os ydych yn barod i gymeryd rhan.

Mae Blodeuwedd yn datblygu sgiliau newydd eu haelodau i dyfu blodau a chynhyrchu hadau.

Os oes gennych ddiddordeb ymuno â’r grŵp, cysylltwch gyda Tom Coleman ar 01286 882354.

[ Yn ôl i'r Top ]

Tirwedd

Mae Tirwedd wedi cyflogi swyddog i ddatblygu rhan o chwarel Penyrorsedd yn Ganolfan Hyfforddiant Beirianneg. Mae Kelvin Roberts wedi cychwyn yn ei swydd newydd fis Ionawr ac yn brysur yn gweithio i geisio cael arian i wneud astudiaethau ymarferoldeb.

[ Yn ôl i'r Top ]

Capel Baladeulyn

Cynhaliwyd Te Cymreig andros o lwyddiannus yng Nghapel Baladeulyn Nantlle, Dydd Gŵyl Dewi, lle’r oedd amryw yn galw i mewn am baned a sgwrs a thamaid bach blasus i’w fwyta. Cynhaliwyd y prynhawn hwn er mwyn casglu gwybodaeth y gymuned leol am eu teimladau a’u syniadau o gael mwy o ddefnydd cymunedol o’r capel. Fe wnaethpwyd hyn drwy ddosbarthu holiaduron ar y diwrnod. Cafwyd ymateb calonogol iawn a gobeithir y defnyddio’r capel i gynnal mwy o weithgareddau tebyg yn y dyfodol.

[ Yn ôl i'r Top ]

Capel Seion

Mae aelodau capel Seion wedi gwneud arolwg ar gyflwr y capel ac yn y broses yn awr o roi ceisiadau am grantiau i’w adnewyddu.

[ Yn ôl i'r Top ]

Gweithdy Roc

Mae sesiynau blasu Gweithdy Roc wedi bod yn llwyddiannus iawn, yn rhoi cyfle i nifer o bobl ifanc yr ardal gael y cyfle i edrych ar y posibiliadau amrywiol sydd ar gael trwy weithgareddau cerdd. Yn dilyn hyn, mae grŵp o bobl ifanc wedi dod at eu gilydd i geisio sefydlu Gweithdy Roc parhaol yng Nghanolfan Talysarn.

Mae’r grŵp wedi trefnu cyngerdd yn Neuadd Goffa Llanllyfni nos Wener 23ain Ebrill am 7.30yh er mwyn adeiladu eu cynhwysedd a datblygu eu sgiliau.

Ar y noson bydd tri grŵp lleol yn rhannu llwyfan gyda un o grwpiau mwyaf adnabyddus Cymru "Profiad". Bydd bws yn gadael maes parcio Talysarn am 7.00yh, yn rhâd ac am ddim i unrhyw un sydd yn awyddus mynd.

Am unrhyw fanylion pellach, cysylltwch ag un ai Carys Pritchard, Neil Thomas neu Jason Humphreys.

[ Yn ôl i'r Top ]

Hysbysfyrddau

HysbysfyrddauMae hysbysfyrddau wedi eu lleoli yn Nantlle, Talysarn a Bro Silyn. Mae croeso i unrhyw un eu defnyddio. Cysylltwch â’r Ganolfan yn Nhalysarn, Amanda yn Bro Silyn neu Eryl a Glyn Thomas yn Nantlle.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dilyniant y Cinio Nadolig

Ar ôl Cinio Nadolig llwyddiannus oedolion y ddau bentref, mae grŵp wedi dod at eu gilydd i geisio cynnal cyfarfodydd cyson a threfnu gweithgareddau i’r nifer sydd wedi ymddeol yn yr ardal. Er mwyn gwella sgiliau, adeiladu potensial a denu aelodau mae’r criw wedi trefnu ymweliad â Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, i weld sioe gerdd "Carousel".

[ Yn ôl i'r Top ]

Pictiwrs Talysarn

Cynhaliwyd brynhawn o ddangos ffilm yn y Ganolfan ar yr 29ain o Chwefror er mwyn casglu gwybodaeth a syniadau y gymuned i ddatblygu y Ganolfan. Cafwyd diwrnod llwyddiannus a phawb yn mwynhau eu hunain wrth fwyta popcorn a chael rhywbeth bach i yfed.

[ Yn ôl i'r Top ]

Pobl Ifanc

Gyda chefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf, mae pobl ifanc yr ardal wedi cael gwerth £8,000 o offer at eu defnydd, er enghraifft: set deledu sgrîn 50"; karaoke; chwaraewr DVD; cyfrifiadur; "Playstation 2"; Goliau Pêl-droed a llawer mwy.

Rydym yn awyddus i sefydlu clwb Pobl Ifanc y pentref ac angen gwirfoddolwyr. Os oes unrhyw un a diddordeb i wirfoddoli ambell noson i helpu redeg y clwb, gallwch gysylltu â Dafydd Williams yn y Ganolfan yn Nhalysarn.

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys