Chwareli Dyffryn Nantlle

 
 
 

Dyfynnwyd yr enwau hyn o lyfr Dewi Tomos, Llechi Lleu, Cyhoeddiadau Mei, 1980:

  •   Llwyn Coed Foel
  •   Ty’n Llwyn Ty Mawr
  •   Tyddyn Agnes Gwernor
  •   Taldrwst Twll Balast
  •   Fronheulog Cloddfa’r Lôn
  •   New Fronheulog Twll Ismaeliaid
  •   Singrig Pen-y-bryn
  •   Tanrallt Cilgwyn
  •   Penyrorsedd Wern Ifan
  •   Cornwall Fron
  •   Talysarn Old Braichrhydd
  •   Ty’n y Weirglodd Braich
  •   Dorothea Pretoria
  •   Gallt y Fedw Bryn Fferam
  •   Blaen y Cae Moel Tryfan
  •   Yr Allt Lechi Alexandria
  •   Ty Mawr West Cors y Bryniau
  •   Cloddfa Glai neu Coedmadog Cloddfa’r Coed neu Hafodlas

Dyma rai ffigurau sydd wedi eu cymeryd o’r un llyfr:

Chwarel Cynnyrch
yn 1886 (£)
Gweithwyr
yn 1889
Gweithwyr
yn 1978
Coedmadog a’r Braich 18,000 80 0
Cloddfa’r Coed 8,000 150 0
Talysarn 21,000 360 0
Sth. Dorothea 2,400 104 0
Dorothea 35,000 550 0
Pen-y-bryn 10,000 0 0
Penyrorsedd 14,800 390 15
Cilgwyn 21,000 318 0
Fron 3,000 8 0
Alexandra 16,000 230 0
Moel Tryfan 7,400 150 0
Bryn Fferam   2 0
Cyfanswm £157,000 2,342 15
A bod yn fanwl gywir yr oedd cyfanswm o 23 yn gweithio mewn tair chwarel yn y Dyffryn yn 1978.

Yr oedd dros ddwy fil o chwarelwyr yn Nyffryn Nantlle yn 1889, cannoedd ym mhob pentref, y tadau a’r meibion i gyd bron yn gweithio yn y chwarel.

Yn yr un cyfnod roedd tua 3,000 yn Chwarel Dinorwig, Llanberis a thua 3,000 yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys