Cruisers Talysarn

Clwb Sglefrio Dyffryn Nantlle

 
 
 

Cruisers Talysarn yn Elwa o Cymunedau'n Gyntaf

Y Cruisers yn y Boneyard

Mae Cruisers Talysarn wedi bod yn brysur iawn yn y cefndir ers ennill y cais i gael Parc Sglefrio ar ran o safle’r Gloddfa Glai yn 2003. Gyda help arian Partneriaeth Talysarn a Nantlle, Mantell Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru trwy Cywaith Cymru yng Nghaerdydd, mi fydd cynllun i greu ardal lliwgar drwy beintio’r rampiau du gyda chynlluniau creadigol a thraddodiadol yn cael ei wireddu’n fuan iawn. Mi fydd artist breswyl yn cael ei gyflogi am chwech wythnos i weithio gyda, addysgu a goruwchwylio aelodau’r Cruisers ar gynlluniau cyn eu harddangos i drigolion y Nant.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys