Dechrau Busnes yn Nyffryn Nantlle

 
 
 

Ydych chi awydd dechrau busnes yn Nyffryn Nantlle?

Oes gennych chi syniad yr hoffech chi ei drafod efo rhywun?

Dewch draw i Ganolfan Dechnoleg Antur Nantlle am sgwrs ac mi allwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â chyrff a all eich helpu gyda llunio cynllun busnes a chael grantiau ar gyfer offer ac adeiladau. Gallwn hefyd eich cyfeirio at gyrsiau, yn amrywio o ddefnyddio cyfrifiadur, i gyrsiau sy’n rhoi hyder i chi fentro i fyd bunses, i gyrsiau sy’n dangos i chi sut i farchnata eich busnes.

Os ydych yn chwilio am adeilad i’ch busnes, efallai y gall Antur Nantlle eich helpu – unai drwy gynnig un o’n hunedau neu eich cyfeirio at rywun arall gydag adeiladau i’w rhentu.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys