Gŵyl Fai 2005

11fed Ŵyl Fai Dyffryn Nantlle

 
 
 

Mai 14 – 21, 2005

Aeth yr helyw o’r elw eleni i Ward Alaw Ysbyty Gwynedd ac Uned Cancr Ysbyty Glan Clwyd.

Dydd Sadwrn 14

Reid feics noddedig ym Mhen Llŷn

Fe godwyd dros £3,000 gan ein beicwyr ‘ffit’ a ffyddlon wrth iddynt fynd ar daith 40 milltir o Benygroes hyd at Lanaelhaearn, ymlaen i Nefyn a Phwllheli lle cafwyd stop am ginio hynod o flasus wedi ei baratoi gan Gwennie. Ymlaen wedyn i ymweld ag un o ŵyr enwog Penygroes sydd bellach yn berchen Tafarn y Plu yn Llanystumdwy sef Ian Parri, cyn padlo ymlaen i Fryncir ac yn ôl i Benygroes. Roedd yr haul yn gwenu ar hyd y ffordd ac roedd gwres yn y croeso a gafwyd yn y Goat ar ddiwedd y daith.

Dydd Sul 15

Twrnament Bowlio

Diwrnod heulog eto i’r Twrnament Bowlio a’r barbiciw yn werth ei gael. Diolch i aelodau’r Clwb am eu cefnogaeth a llongyfarchiadau i Alan a Jonathan ar eu llwyddiant.

Dydd Llun 16

Disgo yn Neuadd Goffa Penygroes i’r plant ieuengaf

Roedd llond y Neuadd Goffa o blant bywiog yn mwyhau’r Disgo nos Lun.

Noson Grwpiau Roc i bobl ifanc

Dydd Mawrth 17

Helfa Drysor o amgylch Penygroes

Ar nos Fawrth hyfryd o Wanwyn roedd dros gant o bobl a phlant yn crwydro strydoedd Penygroes yn ceisio datrys cliwiau helfa drysor Elwyn.

Dydd Iau 19

Talwrn y Beirdd yn Neuadd Goffa Penygroes, a Chwis yn Nhafarn y Goat

Ni lwyddodd y glaw i atal hwyl y Talwrn nos Iau gyda Mei Mac yn Feuryn teg iawn. Roedd y trefniadau eleni unwaith eto fel ag yn y deng mlynedd diwethaf, dan law ffyddlon ein Haelod Cynulliad Alun Ffred Jones. Hen sefydliad bellach hefyd ydyw Cwis Tafarn Gŵyl Fai dan ofal yr arch gwis feistr Dewi Rhys. Roedd 10 tîm yn cystadlu ar y noson a dim ond un neu ddau o’r cystadleuwyr gafodd ‘gerdyn melyn’.

Dydd Gwener 20

Noson Lawen gyda phlant ysgolion y Dyffryn

Nos Wener yn neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle roedd plant ysgolion y Dyffryn ar eu gorau yn diddanu’r gynulleidfa dan arweinyddiaeth Ifan Glyn Jones. Dafydd Wigley oedd llywydd y noson.

Dydd Sadwrn 21

Sbri yn Sgwar y Farchnad Penygroes

Band / gwisg ffansi / stondinau / gweithgareddau.

Cymysglyd oedd y tywydd bore Sadwrn i’r Sbri ond cafwyd cefnogaeth dda i’r gweithgareddau ac roedd digon o le yn y neuadd i’r stondinwyr. Cian wedi gwisgo fel Nodi ac Eben fel eliffant oedd enillwyr gwobrau’r gystadleuaeth gwisg ffansi - dewis anodd i’r beirniad Mari Gwilym.


Diolch i Pictiwrs Penygroes am gynnal noson ac hefyd i staff y Llyfrgell am drefnu nifer o weithgareddau yn ystod yr wythnos oedd yn cynnwys ymweliad Bethan Gwanas am sgwrs a phaned yn y llyfrgell a chystadlaethau amrywiol i blant.

Diolch i bawb arall sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw fodd i’r Ŵyl a sicrhau llwyddiant eleni eto. Os oes gennych syniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf neu am ymuno a’r pwyllgor cysylltwch â Wena ar 01286 881103.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys