Gŵyl Fai 2006

12fed Ŵyl Fai Dyffryn Nantlle

 
 
 

Mai 13 – 20, 2006

Dyna wythnos lawn o weithgareddau Gŵyl Fai 2006 drosodd am flwyddyn arall ac ynghanol glaw tyfu mis Mai gwelwyd cefnogaeth i’r Ŵyl hefyd yn tyfu a chafwyd wythnos lewyrchus iawn.

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Ŵyl daeth 36 o feicwyr at ei gilydd i reidio taith o dros 46 milltir o Gaergybi i Benygroes. Roedd naw o ferched yn reidio eleni - sef chwarter y grŵp. Beth am ddechrau ymarfer ar gyfer y flwyddyn nesaf genod i ddangos be fedrwn wneud?!! Diolch i Alun Ffred AM am ymuno a ni yn ôl ei arfer ac i Owain Llyr Champion FM fu’n denu noddwyr drwy ei raglen radio.

Bwrw glaw yn sobor iawn oedd hanes y bowlio dydd Sul ond fe ddaeth selogion y twrnament i gystadlu run fath. Diolch i’r Clwb Bowlio a’r Clwb Cyn Filwyr am eu cefnogaeth.

Roedd dros gant o blant bywiog yn y disgo nos Lun ac roedd tua chant a hanner yn cymryd rhan yn yr helfa drysor ar y nos Fawrth a hithau’n braf. Elwyn Jones Griffith oedd wedi paratoi’r helfa ac fe ddaeth pawb yn ôl i’r neuadd yn saff am gawl cartref a chwn poeth.

Nos Iau oedd noson y Talwrn dan ofal y Meuryn Mei Mac gyda thri thîm yn cystadlu. Y tîm buddugol oedd Tîm KO gyda chymeradwyaeth fawr i’r ddau dîm arall. Diolch i Ifor Baines am lywio’r noson - roedd o’n haeddu ennill potel dipyn mwy na’r un a gafodd o!!

Yn dilyn y Talwrn roedd y Goat yn llawn ar gyfer y Cwis Tafarn. Y cwis feistr oedd Dewi Rhys ac er iddo orfod rhannu cardiau melyn a rhai cardiau coch roedd awyrgylch hwyliog a chymdeithasol iawn yn y dafarn.

Noson Bingo deuluol oedd y nos Wener yn y Neuadd Goffa a gyda chefnogaeth dda i’r noson cafwyd ‘full house’ go iawn. Roedd y gweithgareddau yn cario mlaen wedyn mewn noson Carioci hwyliog a swynol yn y Fic!

Daeth yr hen ‘Ifan’ i gadw cwmni i ni eto ar ddiwrnod y Sbri - yn ôl ei arfer erbyn hyn!! Ond roedd cystal amrywiaeth o stondinau yn y Neuadd Goffa ar y dydd Sadwrn olaf a’r un marchnad yn unman. Gwerthu allan yn fuan iawn oedd hanes gwaith coed arbennig Arfon oedd wedi bod yn brysur yn creu stoliau trithroed, byrddau coffi, silffoedd llyfrau ac addurniadau ar gyfer yr ardd. Roedd amrywiaeth eang o blanhigion gwerth chweil ar werth i’r garddwyr a stondin flodau hardd ymysg stondinau amrywiol ein mudiadau a’n sefydliadau ffyddlon eraill. Roedd band Dyffryn Nantlle yn creu awyrgylch hyfryd ac roedd gweld y plant yn eu gwisgoedd ffansi yn cynhesu’r galon a dod a gwen i’r wyneb

Drwy ymdrechion y pwyllgor , y rhai gymerodd ran, pawb fu’n gwerthu’r raffl a’r cefnogwyr pybyr mae elw’r Ŵyl eleni dros £6,000, fydd yn cael ei rannu rhwng Apêl Clefyd Parkinson ac achosion da lleol. Diolch felly i’r tîm mawr yn ei gyfanrwydd am sicrhau llwyddiant Gŵyl Fai 2006.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys