Gŵyl Fai 2007

13eg Ŵyl Fai Dyffryn Nantlle

 
 
 

Mai 12 – 20, 2007

Yn ystod yr wythnos cynhaliwyd Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle er budd Apêl Hosbis yn y Cartref ac achosion da lleol.

Cafwyd cychwyn ardderchog i’r wythnos wrth i 29 o feicwyr selog reidio bron i 40 milltir i fyny allt Drws y Coed ymlaen drwy Feddgelert, Tremadog, Cricieth, Bryncir ac adref yn ôl i Benygroes.

Fore Sadwrn hefyd yn Llyfrgell Penygroes daeth llawer o’r plant i gael stori, peintio wynebau a chael mynd adref wedi gwneud gwaith celf gwerth ei weld.

Dydd Sul enillydd y twrnament golff yng Nghaernarfon oedd Sïon Williams.

Nos Lun daeth bron i 100 o blant i Neuadd Goffa Penygroes i ddawnsio i ddisgo Owain Llŷr o Champion 103.

Nos Fawrth a’r haul yn gwenu, enillwyd yr Helfa Drysor flynyddol gan griw o bobl ifanc lleol sef Bethan Ffion, Dewi a Iestyn.

Nos Iau Mei Mac oedd y Meuryn yn Nhalwrn y Beirdd gyda 3 thîm yn cystadlu. Yn cadw trefn ar bawb roedd Alun Ffred Jones AC ac ef hefyd oedd yn cadw’r sgôr. Ar ddiwedd yr ornest roedd tîm Ifan Glyn, Tîm Cynan Jones a thîm KO yn gyfartal.

Prin yr oedd yn bosib mynd i mewn i dafarn y Goat am 9.00pm nos Iau gan fod tyrfa wedi troi allan i’r cwis dan ofal y cwis feistr Dewi Rhys. Tîm ‘Dim Clem’ oedd y buddugwyr a phawb wedi byhafio mae’n rhaid oherwydd ni welwyd yr un cerdyn melyn ar y noson!

Roedd hi’n ‘full house’ nos Wener yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle i’r noson Bingo teuluol. Wena’n galw a digon o wobrau wedi eu hennill gan bawb.

Uchafbwynt yr Ŵyl bob blwyddyn yw’r Sbri yn Sgwâr y Farchnad Penygroes. Pob math o stondinau - digon o bethau i’r ardd, dodrefn, cacennau, raffls, barbiciw, gemau - i gyd i sŵn hyfryd Band Arian Dyffryn Nantlle. Enillwyr y gystadleuaeth gwisg ffansi oedd Gwion Huw a Ceris Alaw wedi gwisgo fel Peter Andre a Katie Price!! Yn yr adran iau Cynan Davies enillodd wedi dod fel ‘Dennis the Menace’

Daeth 40 o fotor beicwyr ar y rali oedd yn cychwyn o Dalysarn am 11.00 bore Sul gan gyrraedd yn ôl mewn pryd i weld Alan Evans yn ennill y twrnament bowlio yng nghlwb y cyn-filwyr yn hwyr y prynhawn.

Diolch i Geraint Thomas a’i fyfyrwyr o ddosbarth nos Ffotograffiaeth Digidol Coleg Harlech WEA am fod mor garedig yn gwerthu eu lluniau er budd yr Ŵyl.

Bu’n wythnos brysur, fyrlymus ac amrywiol iawn a dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb fu’n noddi, cyfrannu a chefnogi’r Wyl eto eleni. Mae dros £5,000 wedi ei gasglu.

Gardd agored

Bu un digwyddiad ychwanegol yn rhan o'r ŵyl eleni, pan, ar benwythnos Mawrth 24 a 25 a’r haul yn disgleirio, agorodd Mr a Mrs Black, Gwernoer, Nantlle eu gardd i’r cyhoedd (gweler y lluniau isod).

Mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb fu yn cefnogi ac yn enwedig i Reg a Megan am eu caredigrwydd.

Gardd Agored 1 Gardd Agored 2

Gardd Agored 3 Gardd Agored 4

Gardd Agored 5 Gardd Agored 6

Gardd Agored 7 Gardd Agored 8

Gardd Agored 9 Gardd Agored 10

Gardd Agored 11 Gardd Agored 12

Gardd Agored 13 Gardd Agored 14

Gardd Agored 15 Gardd Agored 16

Gardd Agored 17 Gardd Agored 18

Gardd Agored 19 Gardd Agored 20

Gardd Agored 21 Gardd Agored 22

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys