Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle 2011

 
 
 

Hanes Gŵyl Fai 2011

Er budd Sganiwr Symudol Gwynedd Sands ac Achosion lleol

sgroliwch i lawr i weld yr oriel luniau

Y ffyddloniaid, amryw ar eu taith gyntaf, rhai o Sir Fôn a dim ond un ferch yn eu plith - a dyna roi tro ar y pedals i gychwyn Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle 2011.

Taith feics noddedig 45 milltir

Pawb yn cytuno fod hon yn daith galed a doedd y glaw ddim yn help ond gyda nerth o ambell beint o ‘guiness’ ac ysbrydoliaeth gin Rhodri a’r Coventry Eagle, ac er gwaethaf nifer go lew o dyllau yn y teiars a methu ambell i droad cyrraedd yr Afr yn un fintai gyfan fu hanes y criw.

Rhag ofn na wyddoch beth ydi’r Coventry Eagle, dyma lun ohono:

Rhodri a'r 'Coventry Eagle'

William Parry o Gemaes, Sir Fôn (taid yng nghyfraith Rhodri) oedd perchennog y beic ganol y ganrif ddiwethaf. Ar hwn y byddai William Parry yn reidio i’w waith yn Bryn Aber, Bae Cemlyn sef cartref y gŵr hynod, Capten Hewitt (The Eccentric Millionaire). Ydi reidio o’r Felinheli i Benygroes ben bore ar feic fel hwn, cyn cychwyn ar daith noddedig o 45 milltir yn eich gwneud yn egsentrig deudwch?

Bore Sul Mai 8fed, diolch i Alan ac Ann, daeth 32 o fotor beics at ei gilydd i faes parcio Talysarn i gychwyn ar daith Gŵyl Fai.

Taith Moto Beics Gwyl Fai 2011

Roedd byrgar a phaned yn aros amdanynt yn y Clwb bach ar ddiwedd y daith ac yno hefyd roedd llinell derfyn y ras gyfnewid deircoes ac er mai dod yn ola' oedd hanes tîm y genod roeddynt wedi brwydro’n galed i ennill eu 20 pwynt. Tîm yr Afr enillodd gyda 35 pwynt, er bod dadlau mawr wedi bod ynglŷn â’r nifer o bontydd rhwng Pen Nionyn a’r Clwb!! Tipyn o waith i’r dyfarnwr!

Y tîm genethod cyntaf i gystadlu yn y ras gyfnewid deircoes:

Tim ras teircoes y merched

Tîm cyhyrog hogia’r Afr yn derbyn eu tlws gan Owain Rowlands, Cadeirydd Gŵyl Fai:

Tim buddugol y ras deircoes - Tim yr Afr

Mae’r dydd Sul wedi ei sefydlu fel diwrnod y twrnamaint bowlio wrth gwrs a diolch i aelodau Clwb Bowlio Penygroes am drefnu a chynorthwyo ar y diwrnod.

Twrnament Bowlio     Twrnament Bowlio

Carrog ddaeth yn gyntaf yn yr adran i ddechreuwyr a Jamie yn ail a dyma Eilir a Dion wedi dod yn gyntaf ac ail yn yr adran hyn – y ddau yn aelodau o’r Clwb Bowlio lleol.

Tair o genod bach yn werth eu gweld wedi gwisgo yn grand ar gyfer y dawnsio disgo i fiwsig Kevin nos Lun:

Disgo

Cwmni Plant Afradlon Iawn yn derbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa nos Fawrth yn Neuadd Goffa Llanllyfni.

Cwmni Plant Afradlon Iawn

Diolch i’r holl actorion talentog am noson hwyliog gartrefol iawn ac i OP Huws am arwain y noson.

Yr Ocsiwn Fawr

Diolch i ddawn perswâd Mici Plwm codwyd £2,500 yn yr Ocsiwn yn Oriel Llun-Mewn-Ffram nos Wener.

Mici Plwm yr Ocsiwniar

Diolch i Meic a Hefina am eu croeso a’u haelioni unwaith yn rhagor!

Streips 2011

Criw hwyliog o Ysgol Dyffryn Nantlle fentrodd i’r ysgol mewn dillad streips er mwyn codi arian i ymgyrch Gŵyl Fai:

Diwrnod gwisgo streips

Sbri Dydd Sadwrn

Roedd y gwynt yn ddigon main ond chwysu oedd hanes criw'r byrgars dan arweiniad Dyl y prif gogydd!

BBQ yn y Sgwar, Penygroes

Dau o ymwelwyr a’r Sbri - cowboi dewr a ‘Bo Peep’ hefo’i ffon:

Ai 'Woody' yw hwn o'r ffilmiau Toy Story efo Little Bo Peep?

Oriel Luniau Gŵyl Fai 2011

Cliciwch ar y lluniau unigol er mwyn eu gweld yn iawn

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 1           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 2           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 3           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 4

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 5           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 6           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 7           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 8

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 9           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 10           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 11           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 12

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 13           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 14           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 15           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 16

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 17           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 18           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 19           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 20

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 21           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 22           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 23           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 24

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 25           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 26           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 27           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 28

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 29           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 30           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 31           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 32

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 33           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 34           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 35           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 36

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 37           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 38           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 39           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 40

Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 41           Oriel Luniau Gwyl Fai 2011 42

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys