Gŵyl Rhedyw Llanllyfni 2007

 
 
 

Gorffennaf 3 - 8, 2007

Dyma'r digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer yr ŵyl eleni:

Nos Fawrth 3ydd o Orffennaf

Noson o hen luniau ac atgofion yn y Neuadd Goffa ar Nos Fawrth 3ydd o Orffennaf.

Sgwrs agoriadol gan Dr Gwynfor Pierce Jones ar " Y chwarelwyr a’u teuluoedd" am 7.00 o’r gloch.

7.30 bydd cyfle am baned wrth bori trwy hen luniau a hanes y Dyffryn.

Sesiwn arbennig i blant ysgolion Gynradd yn y pnawn am 2.30.

Mae’r noson hon yn rhad ac am ddim, ond gofynnir yn garedig am fenthyg rhagor o luniau oddi wrth drigolion Dyffryn Nantlle. Ffoniwch 01286 831139 neu 881176 i drefnu os gwelwch yn dda.

Dydd Iau 5ed o Orffennaf

CWIS yn y Cwari.

Dydd Gwener 6ed o Orffennaf

FFAIR LLANLLYFNI

Bydd stondinau gwerthu i fudiadau lleol ar gael yn y Neuadd Goffa Dim ond pum punt yw cost bwrdd. Ffoniwch 01286 881176 neu 881139 i drefnu os gwelwch yn dda.

Nos Sadwrn 7fed o Orffennaf

Trannoeth y Ffair.

BRYN FÔN A’R BAND YN Y LLAN

Sesiwn rhad i’r plant lleiaf gyda Bryn am 6.30 o’r gloch, a’r noson go iawn yn dechrau am 9.30.

Tocynnau o flaen llaw yn unig ar gyfer y sesiwn hwyrach, £5.00 o dan 16 oed, a £8.00 i rai o 16 i 100 oed! Ffoniwch i 01286 881139 i archebu.

Nos Sul 8fed o Orffennaf

Cyngerdd blynyddol Eglwys Sant Rhedyw.

Dafydd Iwan gyda Lleisiau’r Mignedd a hefyd y delynores Gwenan Gibbard. Noson gerddorol i’w gofio.

Tocynnau dim ond £4.00 oddi wrth Ann Roberts ar 01286 881154.

Bydd elw Gŵyl Rhedyw eleni yn mynd at gronfa’r Neuadd Goffa.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys