Croeso i Wefan Swyddogol Dyffryn Nantlle

 
 
Hysbyseb  
 
 
 
Gosod nantlle.com fel tudalen hafan Gwneud nantlle.com yn dudalen hafan Ychwanegu nantlle.com i fy rhestr ffefrynnau Gwneud nantlle.com yn ffefryn
Lincs Sydyn nantlle.com
Mae nantlle.com eich angen chi
Blog Edgar
Cwarae nantlledoku - gem sudoku nantlle.com. Pos newydd bob mis
Gwnewch gais am sticer gwych nantlle.com yn rhad ac am ddim rwan
BWRIAD CYNGOR GWYNEDD I GAU RHAI O YSGOLION DYFFRYN NANTLLE
Swyddi
Newyddion Dyffryn Nantlle
Newyddion Cymru
Newyddion y Deyrnas Unedig
Cefnogaeth

Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle 2008

Gwyl Fai Dyffryn Nantlle a'r CylchMai 10 - 18

Er budd Uned Niwroleg Ysbyty Walton ac achosion lleol

Mae rhaglen Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle 2008 bellach yn ei lle ac mae'r rhestr digwyddiadau ar gael isod:

  »»  Rhaglen yr Ŵyl Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd Dogfen PDF

Gofynwn yn garedig am eich cefnogaeth i'r Ŵyl eto eleni.

Mae rhai ohonoch yn siwr o gofio ein bod wedi cynnal diwrnod agored yng ngardd Reg a Megan yn Gwernoer y llynedd. Mae lluniau hyfryd o’r ardd i'w gweld yma. Dyma ddarlun o ddarn newydd o'r ardd sydd wedi ei chynllunio yn arbennig er cof am y diweddar Reg Black gan Megan:

Gardd Goffa Reg Black
Llun: Gardd goffa Reg Black.

Bydd cyfle i chi ymweld a'r ardd eto eleni pan fydd yr ardd ar agor ar y 4ydd o Fai rhwng 10yb – 4yp. Blodau hardd a golygfeydd godidog – cofiwch roi'r dyddiad yn eich dyddiadur.


Ardal Dyffryn Nantlle o ben Bwlch Mawr, gan Eric Jones

Croeso i nantlle.com - y wefan sydd wedi'i chreu gan grŵp o bobl leol er lles ardal Dyffryn Nantlle a'i thrigolion yn gyffredinol. Ein bwriad yw cadw hanes Dyffryn Nantlle yn fyw yn ogystal â rhannu gwybodaeth am weithgaredddau, adnoddau a busnesau y Dyffryn.

Busnesau lleol:

Ymunwch â Chyfeiriadur Busnes Dyffryn Nantlle yn rhad ac am ddim.

Pawb:

Mae croeso i chi hysbysebu eich busnes, gwasanaeth neu unrhyw ddigwyddiad o fewn ardal Dyffryn Nantlle ar y safle ar unrhyw adeg. Mae croeso i chi gyfrannu i'r wefan hefyd, felly gyrrwch eich straeon a'ch lluniau i nantlle.com er mwyn eu rhannu efo'r byd.

Dyffryn Nantlle o ben yr Wyddfa (tua 1900)

Dau chwarelwr yn gweithio yn un o chwareli llechi Dyffryn Nantlle (tua 1900)

Tri chwarelwr yn gweithio yn un o chwareli llechi Dyffryn Nantlle (tua 1890)

Tri chwarelwr yn gweithio yn un o chwareli llechi Dyffryn Nantlle (tua 1890)

Mae nantlle.com yn cefnogi

Arwyddwch deiseb i gael cydnabyddiaeth rhyngwladol i'r iaith Gymraeg ar y we Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

 
  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys