Côr Lleisiau Mignedd

 
 
 

Sefydlwyd y côr tua diwedd 1981, er mai parti canu ydoedd yr adeg hynny yn cynnwys tua 8 aelod. Daeth Mrs Annwen Hughes at y côr fel arweinydd am gyfnod byr.

Cor Lleisiau Mignedd

Ionawr 1982

Llwyddodd Nerys Parry, un o'r aelodau gwreiddiol i ddarbwyllo ei brawd yng nghyfraith sef Maldwyn Parry i ddod atom fel arweinydd a hithau i fod yn is-arwenydd. Dros dro (!!!) y daeth Maldwyn ar y dechrau - nes i ni gael rhywun arall. ''Yma o hyd'' hefo ni mae Maldwyn. Mae wedi ceisio ymddeol ddwy waith, a chawsom swper ffarwelio iddo y tro cyntaf.

Yn 1986 yn Eistedfod Genedlaethol Abergwaun, Nerys oedd yn ein harwain, yn absenoldeb Maldwyn, ac fe fuom yn lwcus i gipio'r 3ydd wobr. Roedd 8 o gorau yn y rhagbrawf, a dim ond tri yn cael mynd i'r llwyfan. Loes mawr i ni oedd colli Nerys yn 1987.

Cyfeilyddion

Hywel John Owen o'r Groeslon oedd ein cyfeilydd o 1982-1993. Wedyn Marian Roberts o Lanystumdwy tan 1998, pryd y cafodd anhwylder. Daeth Gareth Wyn Jones o Lanberis i'r adwy, ac erbyn hyn Gareth yw ein cyfeilydd swyddogol. Mae Mair Thomas, un o'r aelodau wedi gwneud gwaith ardderchog fel is-arwenydd, hefyd Brenda Jones yn ei thro.

Swyddogion Presennol

Cadeirydd - Nesta Jones. 01766 530614

Ysgrifennydd - Enid Francis. 01286 880662

Trysorydd - Avril Roberts. 01286 881129

Daw yr aelodau o'r ardaloedd o gwmpas Dyffryn Nantlle. Penygroes, Talysarn, Nantlle, Llanllyfni, Pantglas, Llanaelhaiarn, Clynnog Fawr, Pontllyfni, Y Groeslon, Bontnewydd, Caernarfon, Y Fron, a'r cyfeilydd o Lanberis.

Fel parti canu gwerin a chanu ysgafn y buom yn perfformio am flynyddoedd, ond erbyn hyn 'rydym yn Gôr , gan fod o ddeutu 27 o aelodau gennym.

Fel côr gwerin y byddwn yn cystadlu yn Y Genedlaethol. Ar y cyfan ni fyddwn yn canu Cerdd Dant, ond yn ystod y blynyddoedd, rydym wedi dysgu tri trefniant o waith Selyf, ac wedi dod yn llwyddiannus droeon yn yr Eisteddfodau lleol. Pluen fawr i ni oedd dod yn fuddugol yn erbyn Meibion Dwyfor yn Eisteddfod Y Groeslon rai blynyddoedd yn ôl!

Ar ôl blynyddoedd o ymarfer yn festri Capel LLanllyfni, 'rydym erbyn hyn yn ymarfer yn Neuadd Goffa Penygroes ar nos Lun.

Ein prif bwrpas fel côr ydyw cefnogi Eisteddfodau, mudiadau ac elusennau lleol, gan gael llawer iawn o hwyl wrth wneud hynny.

Mae ein harweinydd, wedi ennill y Rhuban glas ddwy waith yn y Genedlaethol. Y tro cyntaf yn Llanelli yn 1962 ac wedyn yn Llanbedr-Pont-Steffan yn 1984. Bydd yn cymryd rhan unigol yn y cyngherddau.

Rydym yn canu amryw o osodiadau Maldwyn hefyd i alawon gwerin. Rydym hefyd yn hoff iawn o ganeuon Ryan Davies a Robat Arwyn, yntau wrth gwrs yn un o'r Dyffryn.

Uchafbwyntiau

1983 - Gwneud tâp gyda Cwmni Flach.

1984 - 2il wobr yn Llanbedr.

1985 - 2il wobr yn Y Rhyl.

1986 - 3ydd yn Abergwaun.

1988 - Ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1988 a hynny ar ddiwrnod pen-blwydd Maldwyn, a'r gynulleidfa yn canu Pen-blwydd Hapus iddo.

1997 - 3ydd yn Y Bala.

1997 - dod yn ail yn Innis.

1996 a 1998 - Dau gyntaf yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Tralee.

Yr Enw

Ar ôl hir bendroni, penderfynwyd trwy bleidlais ar yr enw Lleisiau Mignedd gan fod Mignedd yn enw ar un o fynyddoedd yr ardal.

Clywed

Mae CD gan y côr ar gael ar label Sain. Dilynnwch y linc yma i wefan Na-Nog Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd am ragor o wybodaeth ac / neu i brynu.

Newyddion Diweddaraf

  »»  Arweinydd poblogaidd yn ymddeol wedi 24 mlynedd o wasanaeth

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys