Urdd Gobaith Cymru

Cylch Dyffryn Nantlle

 
 
 

Digwyddiadau Ionawr - Mawrth 2007: Uwch Adran Dyffryn Nantlle

Noson Ffitrwydd gyda Meilir Owen

Nos Fawrth 23 Ionawr, 2007 cynhaliwyd sesiwn ffitrwydd gyda Meilir Owen, cyn athro ymarfer corff Ysgol Syr Hugh Owen a chyn chwaraewr peldroed sydd erbyn hyn yn sylwebu ar gemau peldroed i BBC Radio Cymru.

Rhanwyd y bobl ifanc yn ddau dîm, sef tîm Sara a tîm Erin a bu’r ddau dîm yn brwydro am dros awr yn chwarae gemau ffitrwydd. Fel y gwelir o’r lluniau fe gafwyd nifer o ymarferion a gemau, ac ar ôl gornest agos iawn roedd y ddau dîm gyda 9 pwynt yr un ar y diwedd.

Roedd Meilir wedi gweithio pawb yn galed tu hwnt ac erbyn 8.30 roedd pawb wedi blino yn lân, ond pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.

Noson "Neud dim byd mwy neu lai"

Nos Fawrth 30 Ionawr, 2007 cynhaliwyd sesiwn "Neud dim byd mwy neu lai" yn Uwch Adran Dyffryn Nantlle.

Ar ôl trafodaeth ynglyn â’r Steddfod, y Celf a Chrefft a llawer o bethau diflas eraill penderfynodd y genod mai gwrando ar CD’s fyddai’r peth gorau er mwyn ymlacio ychydig. Ymlacio – na!!! Am bron i awr aeth y genod yn wallgo!!!! Gyda’i dawnsio disgo ac ymarferion rhyfedd eraill!!! Erbyn diwedd y noson roedd pawb wedi blino yn llwyr - ond y penderfyniad wnaed oedd bod "Noson neud dim byd mwy neu lai" arall yn mynd i gael ei gynnal yn fuan iawn!!

Gweithdy HIV/AIDS gan Griw'r Ffynnon, Bangor

Nos Fawrth 6 Chwefror, 2007 daeth tri o bobl ifanc, sy’n cymryd rhan mewn prosiect ar y cyd rhwng Cymorth Cristnogol, Gwerin y Coed a’r Urdd i’r Uwch Adran i gynnal gweithdy ar HIV/AIDS, ynghyd a Branwen Niclas, Swyddog Ieuenctid Cymorth Cristnogol yn y Gogledd. Prosiect yw hwn sy’n annog pobl ifanc i ddatblygu syniadau ar wahanol bynciau ac yna rhannu’r wybodaeth gyda phobl ifanc eraill. Hwn oedd y cyfle cyntaf i’r tri gyflwyno gweithdy.

Ar ddechrau’r gweithdy fe wnaeth Shauna, Meredyth a Cai, sef y bobl ifanc o’r prosiect, chwarae gêm gyda phobl ifanc yr Uwch Adran i ddarganfod faint yn union o wybodaeth oedd ganddynt am HIV/AIDS. Canlyniad y gêm oedd nad oedd ganddynt fawr ddim o wybodaeth. Yn dilyn hyn cafwyd nifer o gyflwyniadau byr ar wahanol agweddau o HIV/AIDS gan y tri, gan gyflwyno’r neges mewn ffordd ddealladwy a chlir. Ar ddiwedd y gweithdy chwaraewyd yr un gêm ac ar y cychwyn, ac yn amlwg mae’r ffordd hon o godi ymwybyddiaeth pobl ifanc ar faterion megis HIV/AIDS yn gweithio oherwydd aeth y gêm ymlaen ac ymlaen. Ar ddiwedd y sesiwn roedd gwybodaeth Llew a Haf am y pwnc yn amlwg yn eang iawn ac fe roedd yn rhaid penderfynu mai cyfartal oedd y ddau. Y wobr i Llew a Haf am ennill oedd siocled Masnach Deg - pwnc arall mae’r grŵp hwn yn ei gyflwyno. Cyflwynwyd pobl ifanc yr Uwch Adran gyda rhuban "Diwrnod Rhyngwladol AIDS", gwahanol bamffledi, balŵns a.y.b.

Celf a Chrefft

Nos Fawrth 27 Chwefror, 2007 cynhaliwyd sesiwn Celf a Chrefft er mwyn paratoi ar gyfer yr Eistedddfod. Daeth Ann Fôn draw i gynnal noson a bydd yn dychwelyd yr wythnos nesaf er mwyn mynd ymlaen a’r gwaith.

Cyn dechrau ar y sesiwn Celf fe wnaeth criw Blwyddyn 8 benderfynnu eu bod am gynnal sesiwn canolbwyntio, felly, fel y gwelir yn y llun, aethpwyd ati i chwarae gêm "Zip, Zap a Bob", ond doedd Elin ddim yn dda iawn yn chwarae’r gêm felly penderfynwyd dechrau ar y sesiwn Celf. Treuliwyd awr gyfan yn meddwl am syniadau, yn darllen y gerdd drosodd a drosodd, edrych ar luniau a chwilio am ddehongliad o’r thema – sef cerdd Mererid Hopwood "Fy Ngwlad" ac o’r diwedd penderfynodd pawb pa gyfrwng y byddant yn canolbwyntio arno yr wythnos nesaf.

Celf a Chrefft 2

Nos Fawrth 6 Mawrth, 2007 cynhaliwyd ail sesiwn Celf a Chrefft er mwyn paratoi ar gyfer yr Eistedddfod. Daeth Eirian Muse draw i gynnal noson a bydd yn dychwelyd yr wythnos nesaf er mwyn cwblhau’r gwaith. Yn anffodus doedd Ann Fôn methu cyrraedd mewn pryd, felly bydd hithau hefyd yn dod i gwblhau’r gwaith yr wythnos nesa.

Fe fuodd pawb yn brysur am bron i ddwy awr yn creu gemwaith allan o boteli plastig, ac yna eu haddurno ar sail y themau sef "Fy Ngwlad". Penderfynodd un neu ddwy greu caligraffi ar y thema, a penderfynodd Grug ei bod am gystadlu yn yr adran ffotograffeg a chreu cyfres o luniau ar y thema. Fel y gwelwch yn y lluniau bu’r genod yn gwisgo a pherfformio nifer o wahanol ddelweddau ar thema "Fy Ngwlad".

Celf a Chrefft 3

Nos Fawrth 13 Mawrth, 2007 cynhaliwyd sesiwn olaf Celf a Chrefft er mwyn cwblhau’r cynyrch ar gyfer yr Eistedddfod. Daeth Eirian Muse unwaith eto draw a heno yn ogystal a chwblhau’r gemwaith a’r caligraffi bu nifer o’r bobl ifanc yn argraffu ar ffabrig ac yn gwneud collage.

Bu’r criw yn gweithio yn galed unwaith eto yr wythnos yma a bob lwc i bawb yng Nghelf a Chrefft Cylch Dyffryn Nantlle nos Wener. Bu Grug hefyd yn gorffen tynnu llyniau’r aelodau ar gyfer y gystadleuaeth ffotograffeg, ac fel y gwelwch unwaith eto yr wythnos hon fe gafodd pawb lawer iawn o hwyl.

Rhagor o wybodaeth

Os am fwy o fanylion o unrhyw weithgareddau’r Urdd yn Nyffryn Nantlle, cysylltwch a Sulwen Roberts ar sulwen@urdd.org neu 07780 633971.

Gweler hefyd Wefan Swyddogol Urdd Gobaith Cymru Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys