Urdd Gobaith Cymru

Cylch Dyffryn Nantlle

 
 
 

Digwyddiadau Tachwedd - Rhagfyr 2006

Newyddion Cyffredinol

Yn anffodus roedd yn rhaid gohirio’r disgo/gig ar yr 16 o Dachwedd, ond mae wedi ei ail drefnu ar gyfer nos Iau y 1 o Chwefror, 2007 yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle ar gyfer plant oedran cynradd y Cylch.

Yn ogystal a disgo John Pritch (Champion FM) bydd "Rhun Williams a’r Band" yn perfformio – grwp ifanc newydd addawol o Ddyffryn Nantlle yw’r rhain, ac mae pawb yn edrych ymlaen i’w clywed ar y noson.

Gala Nofio Cynradd Eryri

Llongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant yn Gala Nofio Cynradd Eryri a gynhaliwyd ym Mhwll Nofio Bangor ym mis Tachwedd:

  •  Rhydd Bechgyn Bl. 3/4: 3ydd – Cai Holdsworth, Adran Rhostryfan
  •  Rhydd Merched Bl. 3/4: 2il – Anni Williams, Ysgol Bro Lleu
  •  Pili Pala Merched Bl. 3/4: 1af – Anni Williams, Ysgol Bro Lleu
  •  Cyfnewid Rhydd Merched Bl. 3/4: 2il – Ysgol Bro Lleu
  •  Cyfnewid Cymysg Merched Bl. 3/4: 2il – Ysgol Bro Lleu

Ysgol Bro Lleu - Râs Gyfnewid Merched Bl. 3/4 (dau 2il + Anni Williams)
Llun: Ysgol Bro Lleu - Râs Gyfnewid Merched Bl. 3/4 (dau 2il + Anni Williams).

Bydd Anni Williams yn awr yn cynrychiolir Eryri yn y Gala Nofio Cenedlaeth ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru, Abertawe. Bob lwc i ti Anni.

Uwch Adran Dyffryn Nantlle

Braf iawn yw cael dweud fod Uwch Adran Dyffryn Nantlle wedi cael dechrau ardderchog gyda dros 50 o bobl ifanc wedi mynychu y sesiynau cyntaf yn ystod mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr. Pobl ifanc yw’r rhain o flynyddoedd 7 ac 8 Ysgol Dyffryn Nantlle o Garmel, Clynnog Fawr, Groeslon, Llanllyfni, Nantlle, Nebo, Penygroes, Rhosgadfan, a Thalysarn.

Yn ogystal bydd pobl ifanc o flynyddoedd 10, 12 ac 13 Ysgol Dyffryn Nantlle, myfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor a nifer fawr o rieni yn cynorthwyo yn ystod y flwyddyn.

Pictionary

Nos Fawrth 14 Tachwedd, 2006 daeth nifer fawr o bobl ifanc i’r sesiwn "Pictionary" yn Uwch Adran newydd Dyffryn Nantlle yn Neuadd Llanllyfni. Roedd pawb wedi cael llawer o hwyl yn dyfalu beth yn union oedd y lluniau, ond yr enillwyr terfynnol oedd tim y "Fruity Girls" gyda’r "Clever Girls" a’r "Dumb and Dumbers" yn ail agos.

Uwch Adran - Noson Pictionary
Llun: Uwch Adran - Noson Pictionary.

Diolch yn fawr i Iola ac Elain am eu hamser i gynnal y sesiwn ac i Nia am ei chymorth.

Peldroed Rhyngwladol

Aeth rhai o aelodau’r Uwch Adran i’r Cae Ras yn Wrecsam ar gyfer gem beldroed ryngwladol rhwng Cymru a Lichtenstein ar drip wedi ei drefnu ar gyfer Uwch Adrannau Eryri. Diolch i Sara Angharad a Craig Bee am eu cymorth ar y noson.

Noson Cwis

Nos Fawrth 22 Tachwedd, 2006 cynhaliwyd "Noson Cwis". Ifan Glyn oedd y Cwis Feistr a Sulwen yn ceisio ei gorau i gadw sgôr. Rhannwyd y bobl ifanc yn ddau dîm - "Chickens Dyffryn Nantlle United" a "Monstyrs Blwyddyn 7".

Cyn yr ornest fawr cafwyd gêm gynhesu gyda’r unig dri bachgen ar y noson sef Aled, Iwan a Darragh ynghyd â Jess, Fflur ac Alys yn cymryd rhan.

Uwch Adran - Noson Cwis
Llun:
Uwch Adran - Noson Cwis.

Yn dilyn nifer o rowndiau cyffrous tu hwnt gan gynnwys "Gwybodaeth Gyffredinol"; "Pwy ‘di Pwy"; "Beth yw Hwn"’ a "Darllen Lleu" y sgôr terfynol ar y diwedd oedd ... "Monstyrs" - 52 â’r "Chickens" - 66!! Diolchwyd i Ifan Glyn am noson arbennig gan Jess.

Arweinyddion yr Uwch-Adran

Aeth arweinyddion yr Uwch Adran sef Nia Evans, Nia Roberts a Sulwen Roberts i Goleg Llandrillo ar y 27 Tachwedd ar gwrs arweinyddion Talaith y Gogledd.

Nia a Sulwen ar Gwrs Arweinyddion
Llun: Nia a Sulwen ar Gwrs Arweinyddion.

Trip cyntaf yr Uwch-Adran

Nos Fawrth y 5 o Ragfyr aeth trip cyntaf Uwch-Adran Dyffryn Nantlle i Barc Glasfryn, Y Ffôr i Fowlio Deg.


Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.

Daeth 26 o aelodau a ffrindia at eu gilydd i fwynhau noson o fowlio a chymdeithasu gyda phawb wedi cael lot o hwyl, rhai yn bowlio am y tro cyntaf ac yn troi allan i fod yn chwaraewyr ardderchog, eraill yn anffodus ddim mor dda ac eraill!


Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.

Rhannwyd pawb i bedwar grwp ac enillwyr y grwpiau oedd Fflur, James, Sulwen a Llinos, gyda Llinos yn ennill y wobr am y chwaraewraig a’r marciau uchaf ar y noson!! Gwych iawn Llinos! Er hynny heb ddim amheuaeth chwaraewr gorau y noson oedd James – dim ond 7 oed yw James, yn ddisgybl yn Ysgol Bro Lleu ac yn ennill grwp 1 a oedd gydag aelodau llawer iawn hyn. Da iawn chdi James!!


Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.

Diolch i Nia am drefnu’r noson ac i Meinir, Anwen, Sulwen, Sara, Craig a Guto (Swyddog Datblygu Eryri) am eu cymorth ar y noson.


Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.

Adrannau

Adran Rhostryfan

Cynhaliwyd sesiwn o hwyl yn Adran Rhostryfan brynhawn dydd Llun 13 Tachwedd ble cafodd y plant y cyfle i chwarae gwahanol gemau. Roedd y plant yn hoffi’r gêm "barashwt" yn fawr iawn a chael y cyfle i chware’r gêm "corneli" a’r gêm "pen a chwnffon".

Adran Carmel

Cafwyd noson arbennig o wahanol gemau hefyd yn Adran Carmel ar ddechrau mis Tachwedd gyda pawb yn mwynhau a chymeryd rhan mewn nifer o wahanol gemau. Bu’r plant hefyd yn brysur iawn yn paratoi cardiau penblwydd i "Mistar Urdd" sydd yn dathlu ei benblwydd yn 30 oed eleni.

Bob lwc i bawb yng nghystadleuath Eryri ar gyfer gwneud cerdyn penblwydd i "Mistar Urdd" gyda cerdyn yr enillydd yn ymddangos yng nghylchronnau’r Urdd.

Adran Ysgol Felinwnda

Mae nifer o wahanol weithgareddau wedi eu cynnal yn Adran Ysgol Felinwnda gan gynnwys sesiwn Bingo a daeth Sulwen, Swyddog Datblygu Cynorthwyol Eryri, draw i gynnal prynhawn o gemau.

Ysgol Felinwnda - Sesiwn Gemau
Llun: Ysgol Felinwnda - Sesiwn Gemau.

Fe wnaeth pawb fwynhau y gemau "Pen a Chynffon" â’r "Gem Corneli", ond y gem barashwt oedd uchafbwynt y prynhawn a’r plant i gyd o flwyddyn 1 hyd blwyddyn 6 wedi mwynhau’r gemau "Sharcod", "Cath a Llygoden" a "Peldroed y Parashwt".

Adran Ysgol Dyffryn Nantlle

Aeth 70 o aelodau Adran Ysgol Dyffryn Nantlle ar drip Rhanbarth Eryri i Sglefrio ar Lannau Dyfrdwy Nos Wener 24 Tachwedd.

Ysgol Dyffryn Nantlle - Sglefrio Glannau Dyfrdwy
Llun: Ysgol Dyffryn Nantlle - Sglefrio Glannau Dyfrdwy.

Fe wnaeth y bobl ifanc a’r athrawon i gyd fwynhau sglefrio ar yr ia, rhai yn fwy na’i gilydd!!!

Ysgol Dyffryn Nantlle - Sglefrio Glannau Dyfrdwy
Llun: Ysgol Dyffryn Nantlle - Sglefrio Glannau Dyfrdwy.

Rhagor o wybodaeth

Os am fwy o fanylion o unrhyw weithgareddau’r Urdd yn Nyffryn Nantlle, cysylltwch a Sulwen Roberts ar sulwen@urdd.org neu 07780 633971.

Gweler hefyd Wefan Swyddogol Urdd Gobaith Cymru Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys