Asesu anghenion tai ardal Cyngor Cymuned Llandwrog

 
 
 

Fel rhan o Brosiect Tai Fforddiadwy Gwynedd mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle yn cydweithio gyda Chyngor Gwynedd i geisio sefydlu natur yr angen lleol am dai yn ardal Cyngor Cymuned Llandwrog.

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle (YmTic Dyffryn Nantlle) yn grŵp tai cymunedol ddim er elw sydd wedi ei leoli yn Nyffryn Nantlle.

Dywedodd Dafydd Watts, Swyddog Datblygu YmTic Dyffryn Nantlle:

“Mae YmTic yn edrych ar hyn o bryd ar safleoedd posib ar gyfer datblygu tai i bobl leol sydd yn methu fforddio prynu tŷ ar y farchnad agored. Mi fydd y rhan fwyaf o’r tai a ddatblygir yn rhai i'w gwerthu am ddisgownt o bris y farchnad agored."

Mae YmTic wedi cael cefnogaeth oddi wrth yr elusen y Tudor Trust a Chyngor Gwynedd er mwyn ei helpu i ddatblygu ei syniadau.

Fel rhan o’r arolwg yma bydd pob cartref yn yr ardal yn derbyn ffurflen arolwg anghenion tai lleol. Pwrpas yr arolwg fydd darganfod beth yw anghenion tai yn lleol yn ogystal â darganfod faint o’r boblogaeth sydd mewn gwir angen tai fforddiadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones, aelod lleol ward Y Groeslon ar Gyngor Gwynedd:

“Mae’n hanfodol i ddyfodol ardaloedd fel plwyf Llandwrog fod darpariaeth ddigonol o dai ar gyfer y boblogaeth leol.

“Mae’n bwysig iawn felly fod trigolion lleol yn manteisio ar y cyfle yma i ddarparu gwybodaeth am eu hanghenion tai, a byddwn yn annog trigolion lleol i gynnig eu sylwadau ar anghenion tai yn yr ardal.”

Ychwanegodd Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd:

“Byddem yn annog pob cartref i gwblhau’r ffurflen arolwg oherwydd gall canlyniadau’r gwaith fod yn gyfrwng i gefnogi a chyfiawnhau unrhyw gynllun posib yn y dyfodol ar gyfer darparu tai fforddiadwy i bobl leol.”

Bydd angen dychwelyd yr holiaduron i Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd erbyn dydd Gwener, 27 Chwefror 2009.

Os am wybodaeth bellach am yr arolwg yma, neu am Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle, cysylltwch a Dafydd Watts, Swyddog Datblygu, YmTic Dyffryn Nantlle ar 07970 574068 neu drwy e-bost ar ymtic-dn@hotmail.co.uk.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys