Bwletin Talysarn a Nantlle

 
 
 

Bwletin Ward Talysarn

Ebrill – Mehefin 2004

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Cymunedau'n Gyntaf
2.   Clwb Silyn
3.   Tîm Pêl-Droed Dyffryn Nantlle
4.   Diwrnod Agored y Baracs yn Nantlle
5.   Cruisers Cymunedol
6.   Blodeuwedd
7.   Canolfan Cymunedol Talysarn
8.   Gweithdy Roc
9.   Dawns i Bawb
10. Tudalen Wê Dyffryn Nantlle
11. Cronfa'r Ymddiriedolaeth
12. Arian Cymunedau'n Gyntaf
13. Swyddogion Ieuenctid
14. Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth


Cymunedau'n Gyntaf

Mae Dafydd Williams, Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf Partneriaeth Talysarn a Nantlle, yng Nghapel Baladeulyn bob dydd Mercher o 9.30yb hyd at 4yh. Mae croeso i unrhyw un alw i mewn i’w weld os oes gennych unrhyw gwestiynau iddo ynglyn â Chymunedau’n Gyntaf, neu unrhyw syniadau gallwn ddatblygu yn yr ardal.

[ Yn ôl i'r Top ]

Clwb Silyn

Clwb SilynWedi i griw oedolion pentrefi Talysarn a Nantlle ymweld â sioe gerdd "Carousel" yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, penderfynwyd sefydlu clwb newydd o’r enw Clwb Silyn. Mae’r clwb wedi bod yn cyfarfod unwaith y mis ers iddynt sefydlu ac wedi cael llawer i brynhawn difyr, yn dod at eu gilydd i sgwrsio ac i roi syniadau o bethau eraill y dymunant ei wneud. Maent yn barod wedi cael sesiynau trefnu blodau bendigedig, gyda Mrs Elisabeth Woodford yn dangos iddynt beth sydd yn bosib ei wneud gyda blodau a phlanhigion.

 

Mae croeso i unrhyw un ddod i’r clwb, fydd yn cyfarfod ar yr ail ddydd Llun o bob mis yng Nghanolfan Gymunedol Talysarn. Fe fydd posteri yn cael eu rhoi yn yr hysbysfyrddau cyn bob cyfarfod, felly, dim ond cadw llygad allan am y posteri, fydd yn gadael i chwi wybod y dyddiad ac amser y cyfarfodydd a beth fydd yn mynd ymlaen ar y diwrnod.

[ Yn ôl i'r Top ]

Tîm Pêl-Droed Dyffryn Nantlle

Fe fu timau pêl-droed dan 10 ac 11 oed Dyffryn Nantlle yn ymweld â chanolfan bêl-droed Crewe Alexandra ddechrau mis Ebrill. Roedd y plant i gyd wedi mwynhau eu hunain wedi iddynt gael 2 gêm hynod o dda yn erbyn bechgyn a oedd wedi cael eu dewis i academi Crewe. Roedd gweld hyfforddwyr proffesiynol wrth eu gwaith a’r disgyblaeth oedd rhaid ei gadw yn brofiad i bawb. Ar ôl iddynt gael bwyd yn y Ganolfan aethant ymlaen wedyn i wylio gêm bêl-droed broffesiynol yn cael ei chwarae rhwng Crewe Alexandra a Rotherham United.

[ Yn ôl i'r Top ]

Diwrnod Agored y Baracs yn Nantlle

Ar ddechrau mis Mai cynhaliwyd diwrnod agored hynod o lwyddiannus gan Antur Nantlle yn y Baracs yn Nantlle er mwyn ei arddangos ar ei newydd wêdd. Newydd da yw clywed gan yr Antur fod pobl lleol â diddordeb rhentu unedau i ddechrau busnes.

[ Yn ôl i'r Top ]

Cruisers Cymunedol

Cruisers TalysarnMae Bryce Davies, sef yr arlunydd preswyl sydd wedi ei benodi i gydweithio gyda phlant a phobl ifanc y ddau bentref er mwyn rhoi graffiti ar y parc sglefrio, wedi dechrau ei waith yma yn Nhalysarn. Ar ddechrau mis Mehefin, fe fu Bryce yn y Ganolfan am wythnos gyfan yn cydweithio gyda’r plant a’r bobl ifanc er mwyn cael gweld eu syniadau a dangos iddynt sut y bydd yn gweithio ar y graffiti. Cafodd y plant andros o hwyl yn dysgu a gwneud lluniau bob dydd a hefyd cael mynd ar y parc sglefrio gyda Bryce amser cinio, yntau yn dangos i’r criw ifanc ei ddoniau ar ei sglefr- fwrdd. Fe fydd Bryce yn ôl ddiwedd mis Mehefin am bythefnos ac yna yn ôl am dair wythnos ganol mis Gorffennaf.

[ Yn ôl i'r Top ]

Blodeuwedd

BlodeuweddUnwaith eto mae’n braf gweld gwaith Blodeuwedd o gwmpas pentrefi Talysarn a Nantlle. Maent wedi bod yn brysur iawn yn plannu blodau a phlanhigion yn y maes parcio yn Nhalysarn a hefyd cofeb R Williams Parry.

Mae’r grŵp wedi bod yn brysur iawn yn y Ganolfan hefyd, yn cael prynhawniau sêl planhigion a chael byrddau allan yn yr haul braf a phaned o de a chacennau bendigedig, gyda llawer iawn o bobl lleol yn dod draw am baned a sgwrs.

[ Yn ôl i'r Top ]

Canolfan Cymunedol Talysarn

Mae Canolfan Gymunedol Talysarn wedi cael hawl cynllunio i gael estyniad newydd sbon ar yr hen adeilad. Cyfle i chi roi eich sylwadau o be hoffech weld yn cael ei gynnal yn y Ganolfan ar ei newydd wedd trwy lenwi y blwch syniadau.

[ Yn ôl i'r Top ]

Gweithdy Roc

Cynhaliwyd cyngerdd gan 2 grŵp lleol yng Nghanolfan Gymunedol Talysarn ar ddiwedd sesiynau blasu’r gweithdy yn ddiweddar. Rhoddodd hyn hyder i’r grwpiau oedd erioed wedi perfformio o’r blaen i drefnu cyngerdd yn neuadd goffa Llanllyfni a rhannu llwyfan gyda’r grŵp adnabyddus Y Profiad.

Da iawn Aliens, Offside, Kill a Gorilla ac Agent Smith.

Newydd da yw clywed fod Gweithdy Roc wedi cael £1,000 grant Gwraidd i dalu am diwtoriaid i’r sesiynau hyfforddiant fydd yn cychwyn fis Medi 2004.

Unrhyw un â diddordeb ymuno â’r Gweithdy i ddatblygu eich sgiliau o chwarae offerynau gitâr, allweddellau, dryms, canu a gosod a chymysgu sain sustem PA neu recordio CD yn ein stiwdio recordio fechan cysylltwch â Carys Pritchard, Helen Hall neu Neil Thomas. Peidiwch a phoeni os nad oes gennych offer, cewch ddefnyddio rhai y Gweithdy.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dawns i Bawb

Mae sesiynau dawnsio wedi bod yn llwyddiannus iawn dros yr wythnosau diwethaf gyda hyd at 48 o blant yr ardal wedi blasu gwahanol fathau o ddawnsio.

Os oes unrhyw un â diddordeb ymuno yn y sesiynau dawnsio, yna cysylltwch â Carys Pritchard.

[ Yn ôl i'r Top ]

Tudalen Wê Dyffryn Nantlle

Mae Grŵp Tudalen Wê Dyffryn Nantlle yn cyfarfod yng Nghanolfan Dechnoleg Antur Nantlle bob nos Lun ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni i ddysgu mwy am greu tudalen wê gymunedol. Cofiwch ein bod yn chwilio am hen hanesion am Talysarn a Nantlle i’w cynnwys ar y dudalen. Yn bwysicach byth, yr ydym yn chwilio am bethau cyfoes, byw sy’n digwydd heddiw. Byddwn yn falch o luniau diddorol, hen a newydd, hefyd.

Cofiwch ymweld â safle www.nantlle.com a dewch a’ch cyfraniad.

[ Yn ôl i'r Top ]

Cronfa'r Ymddiriedolaeth

Er gwybodaeth i grwpiau lleol, mae’r "Trust Fund" yn agored i chi roi ceisiadau am gefnogaeth ariannol eto eleni. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dafydd Williams.

[ Yn ôl i'r Top ]

Arian Cymunedau'n Gyntaf

Mae arian ar gael i grwpiau sydd am gynnal gweithgareddau er mwyn dysgu trwy wneud, neu anfon aelodau ar sesiynau hyfforddiant. Gallwch hefyd ymweld â grwpiau mewn ardaloedd eraill er mwyn dysgu o’u profiad.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dafydd Williams.

[ Yn ôl i'r Top ]

Swyddogion Ieuenctid

Oes gennych chi ddiddordeb gweithio gyda phlant a phobl ifanc? Mae Partneriaeth Talysarn a Nantlle yn chwilio am bobl i weithio rhan amser gyda phlant a phobl ifanc yr ardal. Gyrrwch eich ceisiadau trwy lythyr at Ganolfan Cymunedol Talysarn, Ffordd yr Orsaf, Talysarn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Wena yn y swyddfa ar 01286 881103.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth

Medi 6: Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Hydref 4: Capel Baladeulyn Nantlle
Hydref 18: Cyfarfod Cyhoeddus - Bandroom Talysarn
Tachwedd 1: Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Rhagfyr 6: Capel Baladeulyn Nantlle

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys