Bwletin Talysarn a Nantlle

 
 
 

Bwletin Ward Talysarn

Gorffennaf - Medi 2006

Llongyfarchiadau Pen yr Orsedd

Yn ystod mis Awst bu chwarel Pen yr Orsedd yn y newyddion wrth iddyn nhw gystadlu ar y rhaglen Restoration Village ar BBC 2 am yr hawl i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth. Cwmni Tirwedd Cyf sydd yn gyfrifol am y fenter o geisio adfer hen weithdai’r chwarel i sefydlu Ysgol Beirianneg a gweithdai fydd yn cynnig hyfforddiant o safon a gwaith i bobl leol. Cwmni ‘ddim am elw’ yw Tirwedd Cyf ac mae o’n cael cefnogaeth gan berchnogion y chwarel McAlpine yn ogystal a Chyngor Gwynedd a Phrifysgol Cymru, Bangor. Roedd hi’n noson fawr yn Llys Llywelyn, Nantlle, pan gyhoeddodd cynrychiolydd Restoration Village mai Pen yr Orsedd oedd wedi ennill rownd Cymru ac y basan nhw’n mynd i Chichester ar gyfer y ffeinal.

Cadeirydd Tirwedd Cyf., T. Leslie Jones, sy’n adrodd yr hanes:

Llongyfarchiadau Pen yr OrseddBore Sul 17 o Fedi aeth 30 o bobl Dyffryn Nantlle i Chichester i gefnogi cais Tirwedd Cyf. i adfer hen adeiladau chwarel Pen yr Orsedd. Roedd hi’n daith hir i Chichester, ond roedd pawb yn mwynhau eu hunain yn canu a chael hwyl, a chyrhaeddom mewn digon o bryd. Ar ôl mynd i’r gwesty, aethom yn ein blaenau i’r lle roedd y rhaglen yn cael ei darlledu a chael pryd o fwyd. Roeddan ni’n eistedd yn agos i’r rhai oedd yn dod o Ogledd Iwerddon, ac roedd y gystadleuaeth canu rhwng y Gwyddelod a’r Cymru i’w chlywed dros bob man!

Roedd ‘na gystadleuwyr o’r Alban a Gogledd a De Lloegr yno hefyd ac roedd y swn yn ystod y rhaglen yn fyddarol. Ond, siomedig iawn oedd y canlyniad er ein bod wedi brwydro’n ddewr iawn ac yn ôl un o gynrychiolwyr y rhaglen roeddan ni ar y blaen am gyfnod hir iawn ac roedd o’n synnu nad oeddan ni wedi ennill. Er nad oeddan ni wedi bod yn llwyddiannus, roedd ysbryd y criw yn dda iawn a chafwyd noson o hwyl yn codi’r to hefo’n canu. Mae’n dda nad oedd y Gwyddelod yn aros yn yr un gwesty neu Duw a wyr pryd fyddan ni wedi cyrraedd ein gwely!

Mae pwyllgor Tirwedd Cyf. yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth trwy gydol y cyfnod yma, a hefyd i Partneriaeth Talysarn a Nantlle am eu cefnogaeth ariannol. Diolch hefyd i Antur Nantlle am drefnu a thalu am yr byrddau hysbysebu ac i Gwynne a Dafydd Glyn eu gosod i fyny. Mae’r gefnogaeth yn dal yn gryf iawn hefo llawer iawn yn galw i weld yr adeiladau a’r safle, sydd yn galonogol iawn i ni. Rydan ni’n bwriadu bwrw ymlaen i wireddu ein cynlluniau ac mi fyddwn ni’n rhoi gwybod i chi fel y bydd pethau’n datblygu.

Ar ran Tirwedd Cyf. diolch i bawb am eich cefnogaeth a’ch diddordeb.
T. Leslie Jones.

Oriel Restoration Village (cliciwch i ehangu a sbio drwy'r lluniau)

Pen yr Orsedd ar raglen deledu Restoration Village 1  Pen yr Orsedd ar raglen deledu Restoration Village 2  Pen yr Orsedd ar raglen deledu Restoration Village 3  Pen yr Orsedd ar raglen deledu Restoration Village 4

Is-Grwp Trosedd a Chadw Cymuned Ddiogel

Mae’r Grwp wedi ei sefydlu er mwyn bwydo gwybodaeth a gweithredu ar faterion troseddu a chadw cymuned ddiogel o dan faner Partneriaeth Taalysarn a Nantlle. Y bwriad yw adeiladu rhwydwaith rhwng y gymuned leol ac asiantaethau s’n cynnig gwasanaeth ar faterion diogelwch, a chydweithio er mwyn ceisio atal yr her mae ein cymuned yn wynebu. Cam cyntaf y grwp fydd cynnal Diwrnod Agored er mwyn creu ymwybyddiaeth, a bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol agos, felly gwyliwch am y posteri ar yr hysbysfwrdd.

Unrhyw un a diddordeb mewn ymuno a’r grwp i gysylltu â Dafydd yn Swyddfa’r Bartneriaeth 01286 881103.

Clwb Ieuenctid Talysarn

Clwb Ieuenctid TalysarnMae Cyngor Gwynedd mewn cydweithrediad a’r Bartneriaeth wedi agor Clwb Ieuenctid yng Nghanolfan Talysarn. Mae hyn yn dilyn gwaith a wnaeth y Gweithwyr gyda pobol ifanc ar Gynllun Datblygu Potensial Pobol Ifanc yn Rhaglen Cymundedau’n Gyntaf. Un o flaenoriaethau y sesiynau ymgynghori gyda phobol ifanc oedd sefydlu Clwb Ieuenctid ac, wedi llawer o drafod rhwng y gweithwyr a Chyngor Gwynedd, mae’r clwb wedi agor. Bydd y Clwb ar agor pob nos Lun a Nos Fercher o 7-9.

C.P. Talysarn Celts

C.P. Talysarn Celts

Mae’r Celts wedi cael cychwyn da iawn i’r tymor. Gyda Ali Thomas yn rheolwr ac yn cadw ffydd hefo chwaraewyr ifanc yr ardal, mae hyn yn rhoi sylfaen dda i’r dyfodol. Un gêm yn unig mae’r tîm wedi ei cholli hyd yma, ac yn ôl pob sôn, y rheswm am y golled oedd bod Ali wedi mynd ar ei wyliau. Y neges felly yw – dim mwy o wyliau Ali! Mae’r Celtiaid yn ddiolchgar dros ben i Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntaf am gefnogaeth i brynu cit newydd.

Clwb yr Iard

Cynhaliwyd Diwrnod Hwyl llwyddiannus yn ystod y gwyliau gan y Clwb yn Llys Llywelyn, Nantlle. Er gwaethaf y tywydd roedd pawb wedi cael hwyl a sbri yn mwynhau cymeryd rhan yn y Gweithdai Crefft, chwarae gemau a chael eu diddanu gan y clown. Oherwydd llwyddiant y Noson Bingo a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y clwb, mae galw mawr am ddilyniant. Bydd noson arall yn cael ei threfnu yn gynnar ym mis Tachwedd.

Cynllunio Go Iawn

Mae grwp o bobl leol a rhai aelodau o’r Bartneriaeeth yn brysur yn gweithio i adeiladu model o’r ardal. Gwaith sydd yn cynnwys cydweithio gyda’r ysgolion lleol a chael y plant i gymeryd rhan. Unwaith bydd y model wedi ei gwblhau, bydd diwrnod o ymgynghori yn cymeryd lle yn Nhalysarn a Nantlle er mwyn rhoi cyfle i’r gymuned gyfan gymeryd rhan. Yn ystod y ddau ddiwrnod yma gall unrhyw un ychwanegu argymhellion h.y. y gwelliannau yr hoffent eu gweld fyddai yn gwella’r gymuned. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy osod cardiau gyda sylwadau priodol ar y model. Ar ôl cynnal y cyfarfodydd yma bydd yr holl argymhellion yn cael eu didoli a’u blaenoriaethu er mwyn cynhyrchu Cynllun Gweithredu i’r gymuned. Mae’n bwysig i bawb gymeryd rhan.

Canolfan Gymdeithasol Talysarn – Yr Hen Orsaf

Ar ôl agor ei drysau mis Ebrill eleni, mae prysurdeb yn dechrau dangos o gwmpas y Ganolfan. Mae’r pwyllgor wedi penodi dau berson lleol i drefnu gweithgareddau – sef Carys Pritchard a Helen Hall. Gyda’r Ganolfan yn cynnig gwasanaeth eang i’r gymuned o logi ystafelloedd cyfarfod, gweithdai fel Yoga, Bingo, Cyngherddau, Partis ac yn y blaen, does dim gwell cyfle i gymeryd rhan yn y datblygiad sydd yn digwydd yn ein cymuned. Mae gan y Ganolfan fwydlen at ddant pawb, i barti mawr neu grwpiau bychain.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

  •  Carys 07902319700
  •  Helen 07902316661
  •  Y Ganolfan 01286 881569

Blodeuwedd

Un o weithgareddau mae’r grwp wedi bod yn gyfrifol amdano dros yr Hâf yw gosod mainc o flaen y Ganolfan yn Nhalysarn, a chynnal a chadw y blodau a’r planhigion sydd wedi bod yn werth eu gweld o gwmpas yr ardal. Yn ôl y si, cymerodd Tom a Laurie oriau i ddrilio tyllau er mwyn bolltio’r fainc i’r llawr, heb sylweddoli bod y drill yn troi o chwith. Ar ôl gosod y drill i droi y ffordd gywir, fuon nhw fawr o dro yn gwneud y gwaith! Diolch am gefnogaeth Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntaf am arian i brynu byrddau a chadeiriau. Bydd yr offer yma o fudd mawr i gynnal y Te P’nawn misol yn Nhalysarn a Nantlle.

Mainc Canolfan Talysarn

Dyddiadau y Te P’nawn nesaf yw:

  •  Dydd Mercher 15 Tachwedd Y Ganolfan Talysarn
  •  Dydd Mercher 13 Rhagfyr Llys Llywelyn Nantlle

Bydd paned ar gael rhwng 22.00 a 4.00 o’r gloch, ac hefyd cyfle i brynu cynnyrch cartref y grwp.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch:

  •  Tom 01286 882345
  •  June 01286 882740
  •  Margaret 01286 880733

Clwb Silyn

Cafodd Clwb Silyn dri mis da eto. Ym Mehefin aethom i Wrecsam i weld y dref hanesyddol ac i ymweld a’r farchnad. Wedi’r toriad haf yn Awst, cawsom Te a Sgwrs ym mis Medi tra’n trafod digwyddiadau i ddod. Rydan ni’n edrych ymlaen i b’nawn Bingo ym mis Hydref sydd bob tro yn llwyddiant hefo’n aelodau. Mae Clwb Silyn hefyd yn noddi rhywbeth rydan ni’n gobeithio ddaw yn ddigwyddiad blynyddol yn ein canolfan hyfryd newydd – Panto’r Pentref! Rydan ni wedi cael hanes Cinderella leol wedi ei ysgrifennu ar ein cyfer ac mae’r criw yn brysur yn ymarfer ar gyfer y panto fydd yn cael ei gynnal ar ôl dathliadau’r Naadolig. Mae rhai aelodau’r clwb yn cymeryd rhai o’r brif ranau yn ogystal a phobol o grwpiau cymunedol eraill, a hefyd lawer o blant y pentref. Felly, rydan ni’n gobeithio y gwnewch chi’n cefnogi – welwn ni chi bryd hynny.

Clwb Diddordebau Hamdden

Mae hwn yn cyfarfod yn Llys Llywelyn, Nantlle, bob yn ail ddydd Mercher am 10.30am – 12.30pm. Mi fasan nhw’n falch o groesawu unrhyw un fyddai’n awyddus i ymuno â nhw. Mae newydd fod yn llwyddiannus yn eu cais am arian o’r Rhaglen Gwraidd i wneud murlun fydd yn hongian yn Llys Llywelyn, felly mae nhw wedi bod yn tynnu lluniau ac yn cynllunio yn y cyfarfodydd diweddar. Cawsant fynd i Lanberis i edrych ar furlun ac i roi syniadau iddyn nhw ac mae nhw wedi bod yn siarad gyda nifer fawr o bobl i gael rhagor o syniadau gan eu bod eisiau darlunio’r pentref ddoe, heddiw ac yfory. Buont yn ffodus i gael cymorth Hazel Carpenter gan ei bod hi wedi bod o gymorth mawr gyda’i gwybodaeth a’i brwdfrydedd. Bydd Ffair Nadolig a Chrefftau yn Llys Llywelyn ac mi fydden nhw’n falch iawn o’ch gweld yno.

Grwp Amgylchedd Talysarn a Nantlle

Ym mis Medi profwyd pa mor bwysig yw hanes a threftadaeth Dyffryn Nantlle i’r gymuned leol a’r cyffiniau pan aeth criw o 50 o bobl am dro o gwmpas Chwarel Dorrothea yng nghwmni Dr Gwynfor Pierce Jones. Mae Gwynfor yn arbenigwr ar y chwarel a’i hanes ac hefyd yn archeolegwr diwyddiannol. Dewisiodd Dorothea fel ei bwnc ar gyfer ei thesis academaidd. I ddechrau cawsom sgwrs fer am hanes y chwarel o’r dyddiau cynnar heb beiriannau hyd at 1969 pan ddiffoddwyd y pwmp am y tro olaf. Wedyn cyfeiriwyd at weddillion adeiladau’r chwarel. Esboniodd Gwynfor yr adeiladwaith, pwrpas a phwysigrwydd yr adeiladau yn enwedig Cwt yr Injan Fawr, y Felin Fawr a’r pyramidiau. Mae rhain i gyd yn safleoedd hanesyddol ac wedi eu cofrestru. Mae’r pyramidiau yn hynafol tra mae’r Injan Fawr o arwyddocad cenedlaethol. Ond yr un mor hynafol yw’r ffordd y mae Gwynfor yn disgrifio’r chwarelwyr eu hunain. Roedd ei gyflwyniad unigryw yn egluro ymhle roedd ty bach y chwarelwyr (ymhell o olwg yr offis) ac mai Axminster gwyrdd oedd ar lawr y neuadd y Plas. Mae etifeddiaeth y diwydiant llechi yn sylfaen i’r gymuned ac mae’r safle’n llawn o archaeoleg. Cawsom fore braf fythgofiadwy. Mae’r Grwp Amgylchedd yn gobeithio cynhyrchu fideo o’r daith gerdded arbennig yma. Cewch wybod pan fydd o ar gael.

Pobl Ifanc Talysarn a Nantlle

Fe fydd ‘Siop Siarad’ pobl ifanc ar agor bob nos Iau rhwng 7 a 9yh yng Nghanolfan Gymdeithasol Talysarn. Galwch i mewn am sgwrs a hwyl. Cyfle i bawb ddweud eu dweud a meddwl sut i wella pethau i bobl ifanc yn yr ardal.

Llys Llywelyn, Nantlle

Bu’r tri mis d’wethaf yn rai prysur iawn yn Llys Llywelyn, Nantlle, hefo nifer fawr o weithgareddau bob wythnos. Cafwyd Arddangosfa yn dangos beth yw bwriad Tirwedd yn eu cynlluniau i ddatblygu gweithdai chwarel Pen yr Orsedd, a’r uchafbwynt oedd y noson pan gyhoeddodd cynrychiolydd o’r rhaglen Restoration Village mai Pen yr Orsedd oedd wedi ennill y gystadleuaeth yng Nghymru!

Cynhelir Bore Coffi bob dydd Gwener rhwng 10.30am a 12.00pm ac mae na lawer o gyn-drigolion y pentre yn dod yno o bell ac agos, yn ogystal a thrigolion presennol Nantlle, am baned a sgwrs ddifyr. Ar yr ail ddydd Gwener o bob mis ceir Llyfrgell Llys Llywelyn hefyd, ac mae o’n boblogaidd iawn. Mae’r Clwb Crefftau a Diddordebau Hamdden yn cyfarfod bob yn ail ddydd Mercher rhwng hanner awr wedi deg a hanner awr wedi hanner dydd. Bob ail ddydd Sadwrn o’r mis mae na Fyrddau Gwerthu Dan Do, sydd yn denu pobol o bell ac agos. Mae Blodeuwedd hefyd yn cynnal Te P’nawn a Sêl Planhigion acw bob hyn a hyn sydd yn llwyddiannus iawn.

Mae Coleg Harlech yn defnyddio adnoddau Llys Llywelyn i gynnal nifer o gyrsiau megis Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr, Ffotograffiaeth Ddigidol, Mentro yn y Gymraeg, Celf i Bawb, a Cymraeg i Rieni a gobeithir ehangu ar yr arlwy yma yn ystod y gaeaf. Mae Lynn R Papercrafts hefyd yn cynnal dosbarthiadau ar wahanol agweddau o wneud cardiau cyfarch ac ati.

Bob nos Iau mae Clwb yr Iard yn cyfarfod i roi cyfle i blant dan 16 gael hwyl a mwynhau eu hunain. Mae nhw hefyd wedi cynnal Diwrnod o Hwyl, ddechreuodd yn ddigon gwlyb ond erbyn y p’nawn daeth yr haul i dywynnu ac roedd pawb wrth eu bodd. Yr uchafbwynt oedd y Noson Bingo mae Clwb yr Iard wedi eu cynnal i godi pres, a phawb yn cael llond trol o hwyl a chwerthin. Mae nifer o Bartion Penblwydd wedi bod yn Llys Llywelyn dros y misoedd diwethaf, a chofiwch y medrwch logi’r Llys am bris rhesymol iawn i gynnal bob math o bethau felly.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Raffl Fawr Nadolig Llys Llywelyn yn dechrau ac mi fydd yna Ffair Nadolig a Chrefftau yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 25 o Dachwedd rhwng hanner awr wedi deg a hanner awr wedi tri. Cewch logi bwrdd am £5 (mae nhw’n mynd yn gyflym – ffoniwch Sally ar 882511 i gadw bwrdd). Cyfle i godi arian i’ch mudiad chi, ond cofiwch mai dim ond nwyddau yn ymwneud a’r ’Dolig neu grefftau fydd yn cael eu gwerthu – dim bric-a-brac.

Antur Nantlle Cyf

Mae Antur Nantlle wedi bod yn falch o’r cyfle dros y tair blynedd ddiwethaf i gydweithio gyda Phartneriaeth Talysarn a Nantlle a chael bod yn rhan o ddatblygiad Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal. Edrychwn ymlaen i barhau fel Corff Atebol i’r Bartneriaeth yn y dyfodol.

Datblygu cymuned ardal Dyffryn Nantlle yw un o brif amcanion yr Antur ac mae gweld llwyddiannau grwpiau fel Canolfan Cymdeithasol Talysarn a Llys Llywelyn yn rhywbeth yr ydym yn ymfalchio ynddo.

Yn ddiweddar sefydlodd yr Antur Grwp Twristiaeth Dyffryn Nantlle ac mae ein diolch yn fawr i’r Bartneriaeth a Chyngor Gwynedd am gefnogi ein cais am arian i gomisiynu Adroddiad ar Dwristiaeth yn Nyffryn Nantlle. Dau fachgen lleol wnaeth y gwaith sef Geraint Thomas o Nantlle gynt ag Owain Rowlands o Benygroes. Diolch iddynt am eu gwaith manwl ar yr adroddiad. Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei drefnu yn y dyfodol agos i lansio’r adroddiad a byddwn yn hysbysebu’r gweithgaredd fel bod pawb yn gwybod am y trefniadau. Os oes diddordeb gennych yn y Grwp Twristiaeth cysylltwch a Dafydd neu Beryl yn swyddfa’r Antur ar 01286 882688 neu gadewch eich manylion gyda Dafydd a Wena yn swyddfa’r Bartneriaeth yn Nhalysarn neu Nantlle.

Roedd bwrlwm yn Nantlle yn ystod llwyddiant prosiect Pen-yr-Orsedd ar raglen Restoration Village. Dyma enghraifft o gymuned gyfan yn codi fel un er mwyn cael y maen i’r wal a chael llawer o hwyl a phleser wrth wneud hynny. Os oes cytundeb ar y ffordd ymlaen mae modd i gymuned gyflawni gwyrthiau trwy gyd ddyheu a chydweithio. Pob lwch felly i ddyfodol cynllun Pen-yr-Orsedd a chwmni Tirwedd gyda’u cynlluniau cadwriaethol. Mae Antur Nantlle yn falch o’r cyfle i’ch llongyfarch ac i gynnig unrhyw gymorth i chi yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth am waith yr Antur cysylltwch a ni:

CANOLFAN DECHNOLEG ANTUR NANTLLE
20 Heol y Dwr, Penygroes Gwynedd LL54 6LR

01286 882688

antur@anturnantlle.com

Gwefan Dyffryn Nantlle

Mae grwp gwefan www.nantlle.com wedi ail afael yn y gweithgareddau ar ol ysbaid bach dros yr haf. Fe ddaeth nifer o ymholiadau i law drwy’r ‘negesfwrdd’ yn ystod mis Awst - tybed fedr rhywun yn yr ardal helpu:

  •  Gwr o Fort William yn awyddus i gael gwybod am unrhyw un sydd yn cofio ei fam Katherine Mary Parry a anwyd yn y De ond a ddaeth i Ysgol Gynradd Talysarn tua 1925.
Hefyd ei daid Thomas Ellis Parry oedd yn byw yn Ty’n y Weirglodd. Roedd yn chwarae trombôn yn y band
  •  Paul yn chwilio am wybodaeth am Chwarel Coed Madog
  •  Tracy Jones yn holi am unrhyw wybodaeth am ei hen nain Mary Corwenna Jones a’i thaid Thomas Owen Hughes a anwyd yn ‘Cloth Hall’ yn 1915.
  •  Paul Samuels a diddordeb ym mywyd Llywelyn ap Gruffydd ac eisiau gwybod ym mhle yn union mae maes brwydr Bryn Derwen / Moel Derwen
  •  Glenys o Lerpwl yn awyddus i wybod a ydyw Teras Bron Eryri yn Llandwrog o hyd. Ac a wyr unrhyw un am Cae Haidd a Llys Twrog.
  •  Wyr i Austin Voorsanger yn awyddus i gael gwybodaeth am ffatri ei daid – Austin Hopkinson ar stad ddiwydiannol Penygroes. Oes unrhyw un hefo hen luniau o’r ffatri?

Pwrpas y ‘Negesfwrdd’ yw cael pobl i siarad gyda’i gilydd ac mae nifer o bynciau dan drafodaeth. Dangoswyd diddordeb mawr yng nghynllun Pen-yr-Orsedd yn ddiweddar gyda 145 o bobl wedi dangos diddordeb yn y pwnc – un yn cwyno ei fod wedi ceisio pleidleisio sawl gwaith ond wedi methu cael trwodd!

Yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi ymwelodd bron i 9,000 o bobl a’r wefan.Dyna reswm da i unrhyw fusnes gofrestru eu henwau ar y safle (yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd) – os ydych yn rhedeg busnes yn yr ardal hon cysylltwch a ni:
  •  Ffoniwch 01286 882688
  •  Ymwelwch a www.nantlle.com a chliciwch ar ‘Busnesau’ a llenwi’r ffurflen gofrestru
  •  Anfonwch e-bost i post@nantlle.com

Cofiwch ein bod yn dal i chwilio am hen luniau a hen straeon diddorol o’r ardal. Rydym hefyd eisiau gwybod beth sydd yn digwydd rwan – os ydych yn perthyn i glwb neu fudiad anfonwch atom i ddweud beth rydych yn ei wneud a beth sydd ar eich rhaglen at y gaeaf. Mae grwp Llys Llywelyn yn anfon eu rhaglen wythnosol i’r wefan ac mae’r wybodaeth ar gael i bawb.

Pobl ifanc Talysarn a Nantlle – beth fyddech chi yn hoffi ei weld ar y wefan – hoffech chi i aelodau’r grwp gwefan ddod i siarad hefo chi?? Rydym eisiau gwybod eich barn am gynnwys y wefan – dewch i ddweud wrthym.

Diolch i bawb sydd eisoes wedi cyfrannu – daliwch i anfon atom ac edrychwn ymlaen i dderbyn cyfraniadau newydd sbon er mwyn datblygu www.nantlle.com gyda’ch help chi.

Trigonos

Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn un llwyddianus iawn i Lysiau Lleu, gydag amrywiaeth o ffrwythau a llysiau ar gael o ddiwedd y gwanwyn hyd at ganol misoedd y gaeaf. Mae’r cynllun erbyn hyn yn ei bedwerydd flwyddyn ac yn darparu bagiau wythnosol o lysiau i dros 20 o deuluoedd lleol, y llysiau i gyd yn dod o Drigonos, gydag ychwanegiad o datws o fferm Pant Eithinog. Mae mwy a mwy o bobl yn dangos diddordeb mewn ymuno â’r cynllun, llawer ohonynt yn barod yn prynu’r cynnyrch yn rheolaidd o’r gwerthiant ‘Farm Gate’ yn Trigonos.

Mae pobl yn falch o fedru prynu eu llysiau’n lleol oherwydd y ffresni, y blas a’r ansawdd mae hyn yn ei ganiatáu, ac yn gwerthfawrogi’r ffaith nad oes gwrteithiaid cemegol yn cael eu defnyddio wrth eu tyfu.

Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle

Mae Band Frenhinol Dyffryn Nantlle wedi bod yn brysur iawn yn perfformio ac yn ymarfer dros y misoedd diwethaf. Yn ôl ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd eu cyngerdd blynyddol yn neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle wrth iddynt chwarae darnau modern a chyfoes gyda Chôr Meibion Dyffryn Nantlle, a grwp gwerin lleol yn ymuno â nhw am noson ddifyr, a phawb yn bresennol wedi mwynhau’n arw. Erbyn hyn mae’r band wrthi’n ymarfer ar gyfer dwy gystadleuaeth bwysig, Pontins Prestatyn ar y 4ydd o Dachwedd ac yna Rali Twrneimant Gogledd Cymru ar 18fed o Dachwedd. Mi fydd y band yn cystadlu ar lefel hyn a chanolradd. Yn dilyn y digwyddiadau hyn fe fydd y band yn trefnu eu ‘Taith Nadolig’ o amgylch y pentrefi lleol, yn ogystal â thu allan i siopau Tesco. Yn ystod cyfnod y Nadolig fe fydd y band hefyd yn chwarae ym Mhorthmadog yn ystod parêd ‘Goleuo’r Goeden Nadolig’ (25ain o Dachwedd), sydd yn ddigwyddiad mae’r band wedi cymeryd rhan ynddo yn reolaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Ar Ragfyr 16eg fe fydd rhan o’r band yn perfformio mewn cyngerdd blynyddol yn Neuadd Goffa Penygroes, yn cefnogi myfyrwyr cerdd Yvonne Clark. Mae’r band yn dal i chwilio am aelodau newydd, boed yn ddechreuwyr neu’n brofiadol, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno, cysylltwch â’r bandfeistr Gareth Williams ar 01286 882269.

Tai i Bobl Leol Yn Y Dyffryn

Ar ol bron i dair blynedd, mae Ymddiriedolaeth Tir Dyffryn Nantlle yn bwriadu symud ymlaen yn gynnar yn 2007 i ddatblygu tai ar gyfer pobl leol ar ran o safle Gloddfa Glai yn Nhalysarn.

Mae’r safle yn eiddo i Gyngor Gwynedd ac wedi ei nodi yn y Cynllun Unedol ar gyfer tai marchnad agored.

Cynhaliwyd arolwg Tai yn 2004/5 gyda’r canlyniadau yn dangos yn glir fod pobl leol yn ei chael hi’n anodd cystadlu yn y farchnad dai. Yn dilyn cyhoeddi’r arolwg mae’r Ymddiriedolaeth Tir wedi sefydlu partneriaethau lleol i drafod datblygu safle Gloddfa Glai. Mae Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf yn Nhalysarn a Nantlle yn un o’r partneriaid hyn.

Bwriedir darparu amrywiaeth o dai safonol, dan gytundebau "Community Land Trusts" a fydd yn sicrhau bod y tai a adeiladir yn fforddiadwy am byth, ac ar gael i bobl leol yn unig.

Gan fod yr Arolwg Tai gwreiddiol eisoes wedi dyddio ac amgylchiadau pobl yn amlwg wedi newid, bydd yr Ymddiriedolaeth Tir yn dosbarthu holiadur o’r newydd yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser os yw trigolion y Dyffryn yn awyddus i ddatgan diddordeb yn y safle hwn cysyllter â swyddfa Antur Nantlle ym Mhenygroes. Gellir hefyd llenwi’r holiadur tai ar safle we Cyngor Sir Gwynedd: www.gwynedd.gov.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys