Bwletin Talysarn a Nantlle

 
 
 

Bwletin Ward Talysarn

Hydref – Rhagfyr 2005

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Pobl Ifanc yn Lleisio Barn
2.   Talysarn Celts
3.   Llys Llywelyn
4.   Cyfarfod Cyhoeddus Cymunedau'n Gyntaf
5.   Pobl Ifanc
6.   Datblygiad y Barics
7.   Heddlu Gogledd Cymru
8.   Ethol Aelodau
9.   Gwerthusiad Lleol
10. Canolfan Gymdeithasol Talysarn
11. Clwb Silyn
12. Hyfforddiant
13. Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth 2006


Pobl Ifanc yn Lleisio Barn

Yn ddiweddar gwnaethpwyd arolwg ar drafnidiaeth cyhoeddus gan Grwp Barn Pobl Ifanc Gwynedd sydd yn cynnwys 7 o bobl ifanc o Dalysarn a Nantlle. Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol i aelodau Fforwm Ieuenctid Gwynedd yng Ngwesty’r Celtic Royal Caernarfon gan Darryl Hughes, Cai Thomas a Donna Pritchard o Dalysarn.

Llongyfarchiadau i Darryl am gael ei ddewis i gynrychioli Gwynedd i adrodd yn ôl yn fisol i’r Fforwm ac i Cai a Donna fel eilyddion.

Cynhaliwyd diwrnod arbennig yn Nhalysarn a Nantlle gan ein pobl ifanc er mwyn arddangos y gweithgareddau maent yn eu datblygu. Roedd y diwrnod yn gyfle hefyd i gasglu gwybodaeth a syniadau pobl ifanc fel rhan o’r Gwerthusiad Lleol mae’r Bartneriaeth yn ei wneud.

[ Yn ôl i'r Top ]

Talysarn Celts

Pwy ddywedodd "you won’t win anything with kids"?
Mae tîm pêl-droed y Celts yn dal eu tir eleni yng nghynghrair Safeflue Caernarfon a’r Cylch.

Gyda 5 aelod o’r tîm dan ddeunaw oed, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn. Mynd am y trebl tymor nesaf!!!

Da iawn am roi cyfle i’r hogia ifanc sef Brian Page, Rhys Jones, Scott Hughes, Peter Bridges a David Jackson.

[ Yn ôl i'r Top ]

Llys Llywelyn

Yn ystod y tri mis diwethaf yn unig cafwyd beth wmbredd o weithgareddau, gan gynnwys: Boreau Coffi, Llyfrgell Llys Llywelyn, Clwb Diddordebau Hamdden, Partïon Penblwydd, Dosbarthiadau Ioga, Tê P’nawn ( a gweithgareddau eraill Blodeuwedd – diolch yn fawr iddyn nhw), Clwb yr Iard, Ffair Hydref, Cyfarfod Cyhoeddus, Brecwast Priodas, Ffair Nadolig, Dosbarth Trefnu Blodau, Noson o Garolau. Bu rhain i gyd yn llwyddiannus iawn, ac mae’n rhyfeddol bod pentref mor fychan a Nantlle yn medru cynnal cymaint o weithgareddau. Mae pentrefi llawer iawn mwy gyda Neuadd Bentre fwy o lawer, sy’n methu cynnal hanner cymaint o weithgareddau. Diolch i bawb fu’n cefnogi.

Yn y flwyddyn newydd rydan ni’n bwriadu ehangu ein gweithgareddau. Cofiwch y bydd Byrddau Gwerthu Dan Do yn dechra mis Ionawr. Hefyd, mae Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn awyddus i gynnal cyrsiau yma. Dyma’r math o gyrsiau mae nhw’n eu rhedeg mewn pentrefi eraill: Arlunio i Bawb, Sbaeneg, Ffrangeg, Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr, Cymraeg i Rieni, Ffotograffiaeth Digidol, Celf, a beth wmbredd o rai eraill. Mae rhai o’r rhain yn digwydd yn y bore, eraill yn y p’nawn, a rhai eraill gyda’r nos. Bydd yr arian rydan ni wedi ei sicrhau yn ddiweddar i brynu cyfrifiaduron ac offer technolegol eraill yn gymorth i gynnal rhai cyrsiau o’r math yma.

[ Yn ôl i'r Top ]

Cyfarfod Cyhoeddus Cymunedau'n Gyntaf

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus llwyddiannus iawn yn Llys Llywelyn nos Lun 14 Tachwedd 2005.

Ar ôl cyflwyniad y Cadeirydd a’r Cydlynydd yn adrodd yn ôl i’r gymuned am yr hyn sydd wedi datblygu dros y chwe mis diwethaf aeth y cyfarfod ymlaen trwy ddilyn yr agenda.

[ Yn ôl i'r Top ]

Pobl Ifanc

Pobl ifanc wedi gosod arddangosfa lluniau o weithgareddau pobl ifanc sydd wedi datblygu yn yr ardal gyda chefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf.
Cafwyd cyflwyniad gan Darryl Hughes o’r hyn sy’n digwydd i roi cyfle i bobl ifanc yn yr ardal.

Trwy ddefnyddio "Power Point" ar gyfrifiadur, cawsom weld beth mae Clwb yr Iard wedi datblygu.

[ Yn ôl i'r Top ]

Datblygiad y Barics

Manteisiodd Antur Nantlle ar y noson i geisio casglu gwybodaeth a chefnogaeth y gymuned gyda’u hymdrechion i ddatblygu’r Barics fel atyniad.
Roedd mwyafrif yn cefnogi datblygu y safle fel atyniad ar sail themau penodol. Beth mae’r darllenwyr yn feddwl?

Cysylltwch â Dafydd Glyn Owen ar 01286 882688 neu galwch yn swyddfa Antur Nantlle ym Mhenygroes / Swyddfa’r Bartneriaeth yn Nhalysarn.

[ Yn ôl i'r Top ]

Heddlu Gogledd Cymru

Roeddym yn ddiolchgar dros ben o glywed gan Inspector Gareth Roberts bod newidiadau ar y gweill ym mhlismona ein cymunedau. Yn ôl Inspector Roberts bydd plismon yn cael ei benodi i fod yn gyfrifol am bob ardal yn y Dyffryn gyda Dylan Owen a Stephen Nesfield yn gyfrifol am Talysarn a Nantlle.

Bydd yr heddlu yn anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd y Bartneriaeth er mwyn i’r gymuned gael y cyfle i leisio barn a chydweithio.

[ Yn ôl i'r Top ]

Ethol Aelodau

Etholwyd 2 aelod newydd ar y Bartneriaeth sef Julie Rathbone a Peter Barnes, a 3 person ifanc ar Is-Grwp Pobl Ifanc y Bartneriaeth.

[ Yn ôl i'r Top ]

Gwerthusiad Lleol

Adroddodd Catrin Meirion yn ôl i’r gymuned y canlyniadau o’r holiaduron a ddosbarthwyd yn yr ardal yn ddiweddar. Roedd y wybodaeth a gasglwyd yn rhoi arweiniad a phenawdau pendant mae’r gymuned yn awyddus i weld datblygiad. Mwy o wybodaeth am hyn gan Catrin Meirion yn swyddfa’r Bartneriaeth neu cysylltwch ar 01286 881103.

Ennillwyr y gwobrau am lenwi’r holiaduron oedd:

1. £50 - 409 Mr B Jones 13 Bro Silyn, a roddodd rodd i Ysgol Feithrin Talysarn.
2. £30 - 510 Mr S Owens 12 Maes Llyfnwy
3. £20 - 495 Mr D G Owen 10 Ffordd Coedmadog Talysarn, a roddodd ei enillion i Glwb Silyn.

[ Yn ôl i'r Top ]

Canolfan Gymdeithasol Talysarn

Mae Canolfan Gymdeithasol Talysarn newydd dderbyn £63,000 o arian Cymunedau’n Gyntaf er mwyn rhedeg y Ganolfan hyd at Mawrth 2008.
Yr ydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Partneriaeth Talysarn a Nantlle am sicrhau’r arian yma ar ein rhan. Fe fydd yr arian yn ein gallu i gyflogi dau berson rhan amser i redeg y ganolfan, talu costau rhedeg am y blynyddoedd nesaf a hyrwyddo a datblygu gweithgareddau ar gael i’r gymuned.

Dywedodd Tom Coleman, aelod o’r pwyllgor "mae’r adeilad yn cymeryd siap erbyn hyn a’n gobaith yw y bydd yn barod i bobl ei ddefnyddio erbyn diwedd Chwefror 2006". Mae’r adeilad wedi ei gynllunio gyda mynediad a thoiledau anabl.

[ Yn ôl i'r Top ]

Clwb Silyn

Ar Ragfyr 13 fe aeth yr aelodau i Meifod, Bontnewydd i gael cinio Twrci blasus a Pwdin Nadolig. Fe roddwyd anrheg bach i’r aelodau dros sgwrs, paned a mins peis.

Ar Ragfyr 16 bws yn gadael y ganolfan am 10 o’r gloch i Landudno, cyrraedd tua 11.30, rhai yn mynd i siopa a chael cinio, ac eraill yn mynd i Asda am baned a sgwrs. Pawb yn cyfarfod am 12.15 yn Theatr Gogledd Cymru i weld pantomeim "Jack and the Beanstalk" a chyrraedd adref tua 6 o’r gloch.

Trist iawn ydym fel Clwb o golli aelod ffyddlon sef Mrs Anna Williams. Hoffem ddatgan ein cydymdeimlad â’r teulu.

[ Yn ôl i'r Top ]

Hyfforddiant

Os ydych chi fel grwp neu unigolyn â diddordeb mewn derbyn hyfforddiant gan ddarparwyr yna cysylltwch â Wena neu Dafydd yn swyddfa’r Bartneriaeth.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth - 2006

Ionawr 9: Canolfan Llys Llywelyn Nantlle
Chwefror 6:
Talysarn
Mawrth 6:
Canolfan Llys Llywelyn Nantlle
Ebrill 3
: Talysarn
Mai 8:
Canolfan Llys Llywelyn Nantlle
Mehefin 5:
Talysarn
Gorffennaf 3:
Canolfan Llys Llywelyn Nantlle
Medi 4:
Talysarn
Hydref 2:
Canolfan Llys Llywelyn Nantlle
Tachwedd 6:
Talysarn
Rhagfyr 4:
Canolfan Llys Llywelyn Nantlle

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys