Côr Meibion Dyffryn Nantlle

Hanes y Côr

 
 
 

Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Arfon ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.

Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.

Gwahoddwyd C. H. Leonard, brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i Ysgol Ramadeg Penygroes ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan anatod o fywyd Dyffryn Nantlle.

Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau faestroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg yn ogystal a rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad.

Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu, ac oddi ar hynny y mae ymron i 300 o ddarllediadau, yn ogystal a thelediadau a chyngerddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr y tu cefn iddynt.

Wyneba'r côr y dyfodol yn hyderus. Deil yr aelodau i ymarfer unwaith neu ddwywaith yr wythnos fel bu'r galw, ac ar waethaf ansicrwydd gwaith a dirwasgiad arall, a mae teyrngarwch a fIyddlondeb y côr i'w harweinydd mor ddiffuant ac erioed. Trylwyredd yr arweinydd, a theyrngarwch yr aelodau yw cyfrinach y llwyddiant.

Hywel Parry, Rhagfyr 1969


Dyma'r llun clawr o record gyntaf y côr:

Clawr record gyntaf Cor Meibion Dyffryn Nantlle

Mrs. Megan Davies - Alawes Llyfnwy oedd y gyfeilyddes ar ei gyfer.

Manylion a ddangosir ar gefn y clawr
(Y manylion ar gefn y clawr)

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys