Friends of Welsh Cottages, Delta, Pennsylvania, UDA

 
 
Hysbyseb  
 
 
 

Llinell Gyswllt Dyffryn Nantlle a Delta PA

Diolch i Pam Myers o Delta, Pennsylvania, Unol Daleithiau America, am gysylltu â nantlle.com ar ôl darllen am lwyddiant cynllun i adfer hen adeiladau chwarel Pen-yr-Orsedd. Daeth y cynllun i’r brig drwy Gymru ar raglen deledu ‘Restoration Village’. Diolch hefyd am anfon y lluniau o hen dai’r chwarelwyr a welir isod.

Manylion adfer hen adeiladau chwarel Pen-yr-Orsedd a welodd Pam Myers ar wefan y BBC
Llun: Manylion adfer hen adeiladau chwarel Pen-yr-Orsedd a welodd Pam Myers ar wefan y BBC.

Ysgrifennodd Pamela Myers:

‘Rwyf wedi bod yn mwynhau gwefan nantlle.com ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hanes un cynllun a welais arni sef cynllun adfer adeiladau Pen-yr-Orsedd.

Rwyf yn byw yn Delta, Pennsylvania ac yn aelod o Gapel Cymraeg Rehoboth yn y dref ac yn cael gwersi Cymraeg yno bob wythnos. Mae Côr Rehoboth wedi ymweld â Chymru ddwywaith ac wedi ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1998.

Carreg Fedd mewn mynwent yn Delta, PAHen ardal chwarelyddol yw Delta ac yn ystod yr 1800au fe ymfudodd nifer fawr o bobl o ardal Blaenau Ffestiniog yma i weithio yn y chwareli llechi. Mae diddordeb yma o hyd yn hanes y chwarelwyr er bod y rhan fwyaf o’r chwareli wedi cau ers y 1940au.

Llun: Carreg Fedd mewn mynwent yn Delta, PA. Mae'r ysgrif arni yn darllen: "Er Cof am William mab Robert ac Eleanor Lloyd, yr hwn a fu farw Gorphenaf 17, AD 1859 yn 1 flwydd 9 mis a 14 diwrnod oed. Mewn bwthyn clud fe'i ganwyd,
Yn nghaliffornia dir,
Yn Havre de grace bu farw,
Yn dawel rol cyrhaedd tir,
Ac yma mae o yn gorphwys,
Yn dawel yn y bedd,
Hyd foreu fe'i hadferir,
I fyw i wlad yr hedd
."

Mae’n bwysig fod plant heddiw yn cael cyfle i ddysgu am hanes cyfoethog eu hardal. Felly fe gynhaliwyd diwrnod treftadaeth arbennig ar Hydref 25 2006 er mwyn i blant ysgolion lleol gael cyfle i ddysgu am gefndir yr ardal – cafodd y plant gyfle i hollti llechi, ymweld a’r capel, ‘darllen’ yr englynion a’r penillion Cymraeg sydd i’w gweld ar y cerrig yn y fynwent a hefyd cawsant gyfle i flasu teisennau cri!

Carreg Fedd mewn mynwent yn Delta, PALlun: Carreg Fedd mewn mynwent yn Delta, PA. Mae'r ysgrif arni yn darllen:
"Er Cof Am Jane J.Jones. Cynt o Festiniog.G.C. Bu farw Awst 22, 1872.
Oed, 61 mlwydd.
Gorphwysaf yma yn dawel,
Yn mhlith y pryfed man;
Can's Crist, fy mrawd,a [chymrodd?] [drefnodd?] [ddymunodd?];
Y gwely pridd o'm blaen.
Does yma son am rhyfel,
Na therfysg o un rhyw;
Ond pawb yn llechu'n dawel,
Nes cenir Udgorn Duw
."

Adfer

Mae rhai o’r hen fythynnod a adeiladwyd gan y mewnfudwyr o Gymru yn dal i sefyll ac maent dros 150 o flynyddoedd oed erbyn hyn. Mae nifer wrth gwrs yn dai preifat ond mae eraill yn wag ac mewn cyflwr digon bregus. Mae amgueddfa ‘The Old Line Museum’ wedi prynu dau o’r bythynnod sydd wedi eu hadeiladu o garreg ‘Cardiff Conglomorate’ gyda tho llechi, a byddant yn chwilio am grantiau i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o’u hadfer i’w cyflwr gwreiddiol. Yr ydym wedi sefydlu grwp o’r enw ‘Friends of Welsh Cottages’ i helpu gyda’r gwaith.

Y bythynnod sydd wedi eu prynu gan amgueddfa ‘The Old Line Museum’

Y bythynnod sydd wedi eu prynu gan amgueddfa ‘The Old Line Museum’

Y bythynnod sydd wedi eu prynu gan amgueddfa ‘The Old Line Museum’
Lluniau:
Y bythynnod sydd wedi eu prynu gan amgueddfa ‘The Old Line Museum’ ac a fydd yn cael eu hadfer gan grwp ‘Friends of Welsh Cottages’.

Arddangosfa trin llechi yn y gweithdyByddwn yn dal i edrych ar eich gwefan ac yn gobeithio y bydd cynllun Pen-yr-Orsedd yn datblygu ac yn llwyddo yn y dyfodol.

Gwybodaeth ychwanegol

  »»  Chwarel Pen yr Orsedd, Nantlle, ar wefan Restoration Village y BBC Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd (yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol, oriel luniau a 'virtual tour')

  »»  Archif Fideo Pen yr Orsedd Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd (mae plant o ysgol Nantlle wedi ymuno a'r grwp treftadaeth lleol er mwyn mynd am dro i chwarel Pen yr Orsedd)

  »»  Pen yr Orsedd ar wefan Restoration Village y BBC - Datganiad i'r Wasg ar 01-09-2006 Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys