Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Sefydlu'r Ganolfan Hanes

Yn Hydref 2002 sefydlwyd pwyllgor i geisio prynu dau adeilad hanesyddol (Graddfa II CADW) yng Nghlynnog Fawr, sef yr Ysgoldy a Thŷ’r Capel, a hysbysebwyd yn y papurau lleol am y swm o £90,000.

Trwy gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru llwyddwyd i brynu’r ddau adeilad gan Gapel Ebeneser a Henaduriaeth Arfon yn 2004. Gobeithir yn awr sicrhau digon o arian i sefydlu Canolfan Hanes arloesol a fydd yn gwasanaethu nid yn unig bentref Clynnog ond hen gwmwd Uwchgwyrfai - o Bontnewydd yn y gogledd hyd at Nefyn yn y de, gan gynnwys Dyffryn Nantlle. (Nid oedd ardal Nefyn a Llithfaen yn yr hen gwmwd ond maent yn y dalgylch hwn am resymau hanesyddol a chwedlonol).

Mae’r manylion a gynhwysir dan bentref Clynnog Fawr yn gyfrwng i agor cîl y drws ar gyfoeth dihysbydd yr ardal hon, yn chwedlonol, hanesyddol, diwylliannol, ac o safbwynt byd natur. Un o brif amcanion y Ganolfan fydd ennyn diddordeb ieuenctid Uwchgwyrfai yn y cyfoeth sydd wrth eu traed trwy weld a gwneud pethau diddorol.

Gweler hefyd:

  »»  Agor Canolfan Hanes Uwchgwyrfai (Mehefin 2006) Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  »»  Bywyd newydd i adeiladau hanesyddol Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  »»  Gwefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys