Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Eglwys Beuno Sant

Pentref bychan hanner y ffordd rhwng Pwllheli a Chaernarfon yw Clynnog Fawr. 130 oedd y boblogaeth yn 1991 a 867 yn y plwyf. Mae’r eglwys hardd sydd yno yn un o’r rhai pwysicaf yng Ngogledd Cymru.

Eglwys Beuno Sant
Llun: Evan Williams, Siop Newydd, yn edrych ar bentref Clynnog o’r Allt yn y 1950au.
Gwelir to Ebeneser yn y coed ar y dde.

Gweld yr eglwys hon a barodd i Syr Clough Williams-Ellis benderfynu mynd yn bensaer. Mae rhai o’r teulu wedi eu claddu yn y fynwent.

Map yn dangod lleoliad Clynnog FawrMae Clynnog o fewn yr ardal a ddynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (yn ymestyn o Aberdesach i Wlad Llyn.)

Beuno Sant

Sefydlwyd yr Eglwys gan Beuno Sant yn y seithfed ganrif.

Clas a Chanolfan Dysg

Ymhen amser daeth yr eglwys yn Glas (mynachlog Geltaidd gynnar a olygai fod yno Abad a mynachod). Mae sôn am Glas Clynnog yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y ddegfed ganrif a bod gan Abad Clynnog sedd yn Uchel Lys Brenin Gwynedd.

Llosgwyd yr Eglwys gan forladron Llychlyn yn y flwyddyn 978 ac yn ddiweddarach gan y Normaniaid.

Cafodd y Normaniaid wared â Chlas Clynnog a daeth yn "eglwys gyfranddaliadol", sef eglwys efo llawer iawn o diroedd yn perthyn iddi. [Rhoddid tir i’r mynachlogydd gan wahanol dywysogion. Roedd gan Llywelyn Y Llyw Olaf dir yn y plwyf a dyna oedd achos Brwydr Bryn Derwin (Bwlchderwin, Clynnog) yn 1255 rhyngddo ef a’i frodyr Owain a Dafydd. Trosglwyddodd ei dir ym Mhennarth i Briordy Beddgelert yn 1269.]

Erbyn diwedd y 15fed ganrif roedd Eglwys Clynnog yn Eglwys Golegol a theitl y pennaeth oedd "profost". Chwech Eglwys Golegol oedd yng Nghymru gyfan - Tyddewi, Abergwili, Llanddewibrefi, Caergybi, Clynnog Fawr a Rhuthun - ond roedd eglwysi Clynnog a Rhuthun yn llai pwysig na’r pedair arall a’r ddwy wedi dod i berthyn i’r Goron.

Golygai hyn mai Saeson oedd penaethiaid yr Eglwys. Pennaeth Eglwys Clynnog yn 1512 oedd Yr Esgob Skevyngton o Hampshire ac enw’r Canon yma oedd John Draper (cymydog iddo). Nid oedd pobl Clynnog yn eu deall o gwbl ac roedden nhw’n byw yn rhy bell i ddod yma, beth bynnag.

Y Brenin yn disodli’r Pab fel pennaeth Eglwys Loegr

Yn 1558 penodwyd Morys Clynnog yn Esgob Bangor ond pan waharddwyd Pabyddiaeth ar ôl marw’r Frenhines Mari, dihangodd i Rufain. Bu’n bennaeth y Coleg Saesneg yno a phwrpas y Coleg hwnnw oedd paratoi pobl i ddychwelyd i Brydain i adennill y grefydd Babyddol. Yn 1575 awgrymodd i’r Pab anfon 6,000 o wŷr i oresgyn Cymru a diorseddu’r Frenhines Elisabeth 1.* [* t. 89 Enid Pierce Roberts (Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol. Gol. W.P Griffith, Gwasg John Penri, 1999)]. Trefnodd ef ac eraill ymgyrch i lanio ar arfordir Arfon yn y cyfnod hwn.

Yn 1559 carcharwyd Siôn Gwynedd (Profost Eglwys Clynnog) am wrthod troi ei gefn ar Babyddiaeth. (Nid oes dim o’i hanes ar ôl 1562. Roedd y Brenin Harri 8 wedi marw erbyn hynny a’r Frenhines Elisabeth 1 ar yr orsedd.)

Gwrthododd John Jones o Glynnog yn yr un modd a chafodd ei grogi yn Lloegr ar Orffennaf 12 1598. Fe’i canoneiddiwyd gan y Pab Pawl VI yn 1970.

Maesog oedd y lle olaf yng Nghlynnog i droi at y Protestaniaid. Cynhelid gwasanaethau Pabyddol yn y dirgel yno am gyfnod pan fyddai’n anghyfreithlon i wneud hynny.

Eiddo i Goleg Magdalen, Rhydychen oedd y pedair ffarm ganlynol pan werthwyd hwy yn 1922: Maesog, Bryn Ifan, Bryn Hafod a Phantafon. (h.y. pan ddaeth Eglwys Beuno i berthyn i’r Eglwys yng Nghymru).

Yr Eglwys Bresennol

"Y mae’n bosibl y gwerthwyd yr holl diroedd yn ail hanner y bymthegfed ganrif; defnyddiwyd yr elw a chyfraniadau pererinion i godi’r eglwys harddaf a mwyaf urddasol yng Ngwynedd."** [** t. 67 A.D. Carr (Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol. Gol. W.P Griffith, Gwasg John Penri, 1999)] c. 1480 i ddechrau’r 16g. y bu’r ehangu a chodi’r eglwys fawr bresennol.

Y mae tebygrwydd tyrau gorllewinol Bangor, Clynnog a Llanengan yn awgrymu bod pensaer arbennig yn gyfrifol am ryw gymaint o’r adeiladu yn yr esgobaeth.*** [*** t. 82 Enid Pierce Roberts (Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol. Gol. W.P Griffith, Gwasg John Penri, 1999)].

Cafwyd cyfnodau eraill o atgyweirio, e.e. 1848-1856.

Y pethau hynotaf yw Maen Beuno (mae ôl bys Beuno arno), gefail gwn, ystafell wahanglwyfion, cloc haul (yn y fynwent) y credir ei fod yn dyddio o tua’r ddegfed ganrif (yr unig un cyffelyb ym Mhrydain yw’r un yn Eglwys Tywyn, ond ceir rhai yn Iwerddon); o amgylch y Gangell y mae pedair ar ddeg o hen eisteddleoedd mynachaidd a llun wyneb defosiynol wedi ei gerfio rhwng pob eisteddle; rhwng Eglwys y Bedd a’r Eglwys Fawr ceir rheinws - lle y cedwid drwgweithredwyr dros nos; cwpan fasarn (c.1480-90 sef cyfnod Pabyddiaeth) a blychau elusen (a gedwir mewn banc).

Eglwys Beuno Sant
Llun: Eglwys Beuno Sant (gan Eric Jones).

Enwogion a gladdwyd yn yr Eglwys ac yn y fynwent:

Beuno Sant. (Yng Nghapel Y Bedd).

Hywel y Fwyall (1300? - 1381?) (Syr Hywel ap Gruffydd) Bron-y-foel, Moel-y-Gest. Dywedir iddo dorri pen ceffyl brenin Ffrainc efo’i fwyall ym mrwydr Poitiers yn 1356. Fe’i penodwyd yn gwnstabl Castell Cricieth.

William Glynn, Lleuar, m. 1609 [mab William Glynne ab Robert ab Meredydd ab Hwlcyn Llwyd o Glynllifon, Rhingyll dan Arfau ("Serjeant at Arms") i Harri VIII, a briododd ferch Syr Rowland Velville - mab anghyfreithlon i Harri VII - cwnstabl Castell Biwmares a.y.b. Bu farw yn 1556. Gw. Caernarfonshire Cyf. II HMSO 1960] Claddwyd nifer o’i ddisgynyddion yn yr eglwys.

George Twistleton. (1618-1667) Swyddog ym myddin y Senedd. O Sir Efrog. Priododd â Mari Glynn, merch William Glynn, Lleuar. Fo a gymerodd Syr John Owen o’r Clennenau yn garcharor pan ymosodwyd arno yn Llandygai. Roedd yn aelod o’r Uchel Lys a nodwyd i brofi’r Brenin Siarl a daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Fôn.

Richard Nanney (1691-1767) Graddiodd yn M.A. yn Rhydychen. Ficer Clynnog o 1714 hyd at ei farw. Un o brif gefnogwyr ysgolion Griffith Jones. Daeth yn bregethwr enwog a deuai tyrfaoedd i wrando arno’n pregethu yn Eglwys Clynnog.

Robert Roberts "Y Seraff Bregethwr". Gweinidog cyntaf y Capel Uchaf.

Eben Fardd (1802-1863) Un o brif feirdd Cymru. Dyddiadurwr pwysig y cyhoeddwyd detholiad ohonynt gan Wasg Prifysgol Cymru. Daeth i gadw ysgol yng Nghapel Beuno yn 1827. Priododd yn 1830 â Mary Williams, Caepwsan. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop ac yntau’n rhwymo llyfrau ac yn ddiweddarach yn cadw post.

Eglwys a Mynwent Clynnog Fawr
Llun: Yr Eglwys a'r Fynwent

Chwedlau

Llwyn y Nef

Aeth un o’r mynachod am dro a chlywodd aderyn yn canu mewn llwyn. Eisteddodd i wrando arno a syrthiodd i gysgu. Pan ddeffrôdd roedd ganddo locsyn hir ac roedd coed wedi tyfu o’i gwmpas. Dychwelodd i’r eglwys. Gwelodd fynachod ar y ffordd ond nid adwaenai neb. Pan gyrhaeddodd yr eglwys, dieithriaid oedd yno. O’r diwedd, daethpwyd o hyd i’w enw ar y gofrestr. Yr oedd wedi cysgu am 300 mlynedd. Byth er hynny galwyd y lle yn Llwyn-y-Nef. Mae 28 o dai yno heddiw a’u henwau yw Llwyn-y-Ne'.

Ffynnon BeunoFfynnon Beuno

Llun: Ffynnon Beuno (c. 200 llath o’r Eglwys ar y lôn bost yr ochr draw i’r Modurdy i gyfeiriad Pwllheli).

Mae’r ffynnon hon ar y ffordd bost i gyfeiriad Pwllheli ac ychydig ymhellach na’r modurdy, Plas Beuno ("Gwesty Clynnog" erbyn hyn) a’r Maes Glas. Fe’i gwarchodir gan CADW.

Byddai plant a fyddai’n llewygu ac yn dioddef o nychdod yn cael eu trochi yn Ffynnon Beuno. Yna gosodid brwyn ar fedd Beuno yn yr Eglwys a rhoddid y plant i orwedd yno drwy’r nos. Byddent wedi gwella erbyn y bore.

Y Gylfinir

Y mae traddodiad y gellid cerdded o Glynnog Fawr yn Arfon i Glynnog Fechan ym Môn gynt, ar dir sych amser trai. Pan aeth Beuno i bregethu i Sir Fôn un tro ar hyd y ffordd hon fe ollyngodd ei lyfr pregethau i’r dŵr. Daeth gylfinir heibio a chodi’r llyfr o’r dŵr. (pig yw "gylfin", ac o’r gair gylfin + hir y tarddodd y gair gylfinir). Am iddo arbed y llyfr talodd Beuno yn ôl i’r aderyn trwy ei gwneud yn anodd i bobl ddod o hyd i’w nyth.

Eben Fardd, Cyff Beuno, t. 58

Ffynnon Ddigwg

Aeth un o’r gweision yn Llys Aberffraw i Lys Ynyr Gwent. Roedd yn nodedig o hardd. Roedd gan Ynyr Gwent ferch o’r enw Digwg a chyn gynted ag y gwelodd y gwas fe syrthiodd mewn cariad ag ef ac ni allai fyw hebddo. Cytunodd Ynyr Gwent iddi ei briodi. Ymhen amser penderfynodd y gwr ifanc ddychwelyd i’w wlad ei hun efo’i wraig. Ar y ffordd daethant i le o’r enw Pennarth yn Arfon ac aros noson yno. Yr oedd y dywysoges mor flinedig fel y cysgodd yn drwm ar unwaith a thra oedd hi’n cysgu daeth cywilydd mawr ar y gwr ifanc iddo fynd â gwraig mor bendefigaidd i’w wlad ei hun heb le cymwys iddi ac yntau mor dlawd. Daeth rhywbeth drosto, torrodd ei phen a dianc efo’r meirch gwerthfawr a’r aur a’r arian, i Aberffraw, a chafodd swydd gan y brenin i fod yn oruchwyliwr iddo. Pwy a ddaeth heibio ond Bugeiliaid Beuno a phan welsant y corff rhedasant i chwilio am Beuno. Pan gyrhaeddodd gosododd ei phen yn ei ôl ar ei chorff a gweddïodd ar Dduw i’w gwella. Tarddodd ffynnon o’r ddaear lle y disgynnodd ei gwaed ac fe’i galwyd yn Ffynnon Ddigwg. Gwellhaodd Digwg yn llwyr ac arhosodd yng Nghlynnog am weddill ei hoes.

Mae’r ffynnon i’w gweld heddiw ar lechwedd Mynydd Bychan rhwng Pennarth a Capel Uchaf.

Cyff Beuno, t. 59

Porth y Casul

Yr oedd porthladd bychan o’r enw Porth y Casul gerllaw Bachwen. Enw Lladin ar fantell yw casul ac ystyr Bachwen yw darn o dir cysegredig sydd â siâp bachyn iddo. I’r porth hwn bob blwyddyn deuai mantell newydd i Beuno oddi wrth ei nith Gwenfrewi am iddo ei chodi o farw’n fyw (wedi iddi gael torri ei phen). Byddai’r fantell yn cyrraedd dros y môr a byddai’n sych bob tro.

E.Fardd, Y Gwladgarwr VI, 1838

[Nid oes digon o le yma i adrodd chwedl Gwenfrewi ond mae arwyddocad arbennig i’r ffaith fod Beuno yn meddu ar y ddawn i atgyfodi pobl a gafodd dorri eu pennau trwy ailosod eu pennau yn eu cyrff (heblaw Digwg a Gwenfrewi dywedir i Beuno atgyfodi hefyd: Aelhaearn, Deiniolfab, Deiniol a Llorcan Wyddel). Yr oedd arwyddocad arbennig i bennau yn y cyfnod Cyn-Gristnogol (e.e. pen Bendigeidfran yn y Mabinogi). I’r hen Geltiaid yn y pen yr oedd enaid a nerth rhywun a phan fyddai’r arwyr yn torri pen byddent yn medru meddiannu ei enaid ac atgyfnerthu eu grym ysbrydol, a gorau oll os llwyddent i gael pen brenin neu dywysog. Mewn cyfnodau diweddarach parheid i gasglu pennau i brofi gwrhydri yn unig (ac i’w harddangos fel rhyw fath o gofrodd) - e.e. dyna a wnaeth y Saeson efo pen Llywelyn.]

Ynys yr Arch, Bwlchderwin

Pan fu farw Beuno hawliai tri lle ei gorff i’w gladdu: Beddgelert, Clynnog ac Enlli. Pan oedd y cynhebrwng ar ei ffordd rhoddwyd y corff i lawr er mwyn i’r cludwyr gael gorffwys. Syrthiasant i drwmgwsg. Erbyn iddynt ddeffro gwelsant fod yno dair arch a bod y sant, i fodloni’r tri lle, wedi ymluosogi yn dri chorff - un i bob un o’r tair arch; a galwyd y llecyn o achos hynny yn Ynys yr Eirch, ond a aeth ymhen amser yn Ynys Yr Arch.

Llên Gwerin Sir Gaernarfon, t. 219

Cyff BeunoCyff Beuno

Cist dderw wedi ei naddu o un boncyff yw Cyff Beuno. Mae iddi dri chlo - un i’r Person a dau i’r Wardeiniaid. Byddai’n rhaid i’r tri fod yn bresennol i’w hagor.

Yn y gist hon y rhoddai’r pererinion eu harian at yr Eglwys ac y rhoddid yr arian a dderbynnid am werthu anifeiliad â Nod Beuno arnynt (ystyrid lloi ac wyn a ddigwyddai gael eu geni â thoriad arbennig yn eu clustiau yn eiddo i’r eglwys: fe’u gwerthid ar Yr Wylmabsant (Ebrill 21) bob blwyddyn ac âi’r elw at yr eglwys).

'Cystal i chwi geisio torri Cyff Beuno' fyddai’r dywediad gynt yng Nghlynnog pan geisiai rhywun wneud rhywbeth hynod o anodd.

Cyff Beuno, t.63

Pant y Lladron

Yn un o gaeau uchaf Pennarth ar Y Mynydd Bychan (am y terfyn â Choed Tyno) ceir pant mawr yn y ddaear. Dim ond yr awyr a welir ohono. Mae’r un teulu wedi byw ym Mhennarth ers o leiaf y ddeunawfed ganrif a dyna yw’r enw a drosglwyddwyd i’r genhedlaeth bresennol am y lle. (Lowri Evans, Pennarth)

Gored Beuno

Dyna yw’r enw ar y carneddi o feini mawrion a welir ar drai yn agos i’r lan gerllaw Porth Cynnog. Yn y chweched ganrif yr oedd yma dir sych ar drai. Byddai Beuno yn pysgota yma. Dyma eglurhad Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yn Yn Ei Elfen, Gwasg Carreg Gwalch, 1992, tud. 57:

"Cored ydi’r gair yn Gymraeg am fath o drap mawr yr oedd hi’n arfer ei adeiladu i ddal pysgod. Gair benywaidd ydi cored, felly y gored a ddywedir - y gorad ar lafar...

Ar ddarn o draeth gweddol wastad, yr hen arfer oedd curo polion ar eu pennau i’r tywod neu’r mwd ac yna plethu gwiail rhyngddyn nhw i ffurfio argae ar hanner tro. Dyma oedd cored. Pan fyddai’r llanw i mewn yr oedd y gored o’r golwg a nofiai’r pysgod yn dalog braf i mewn drosti. Yna, wrth i’r llanw dreio, llifai’r môr allan drwy’r gwiail gan gaethiwo’r pysgod tu fewn i’r gored. Mater bach wedyn oedd eu casglu i fasgedi. Roedd amryw o’r coredau hyn ar lannau’r Fenai......"

Penwaig

Stori J.W. Cowrt Bach, 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gyrn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno. Byddent yn dal penwaig ac yn eu casgennu nhw a’u halltu. Ceid dwsin o benwaig am ddimai. Byddai llong yn perthyn i Capten Ifan Owen a’i wraig Nel a chanodd Eben Fardd gerdd iddi:

"King William wych, ei chorff a wlych
Yn llonwych yn y lli,
O wynt i wynt wrth hwylio’r hynt
Da bo ei helynt hi......"

Y Tiboeth neu’r Diboeth

Cedwid hen lyfr neu lawysgrifen yn yr Eglwys am ganrifoedd. Fe’i galwyd yn "Diboeth" am iddo gael ei ddiogelu rhag llosgi. Yr oedd cloriau haearn amdano. Ond aeth ar goll. Fe’i gwelwyd gan Dr Thomas Williams o Drefriw yn 1594 ac ni chlywyd dim amdano wedyn.

Ceubren y Pentref

Safai’r ceubren hyd y 1970au yn ymyl Y Tyrpeg ym mhentref Clynnog. Yn ôl traddodiad byddai’r pentref yn marw pe torrid y goeden. Ysgrifennodd Hywel Tudur ac eraill gerddi i’r ceubren.

(gw. Hywel Tudur Gol.t. 32, gan Catrin Parri Huws, 1993).

Rhys a Meinir

Yn Eglwys Clynnog y trefnwyd priodas Rhys a Meinir, Nantgwrtheyrn.

(gw. Priodas yn Nant Gwrtheyrn, tt 210-226. gan Glasynys yn Cymru Fu, 1862.)

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys