Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Hywel Tudur ~ 1840 - 1922

Hywel Tudur (yr ail o'r chwith yn y rhes flaen)
Hywel Tudur (yr ail o'r chwith yn y rhes flaen).

Bardd, pregethwr, dyfeisydd. O Bandy Tudur yn wreiddiol. Adeiladydd oedd ei dad. Cafodd hyfforddiant athro yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon a dod yn athro i Glynnog am ei fod eisiau bod o fewn cyrraedd i’w eilun, Eben Fardd. Y mae ei enw fel athro ar lyfr cofnodion Ysgol Clynnog yn 1863 (blwyddyn marw Eben Fardd) a phriododd ferch Hafod-y-Wern, Clynnog. Wedyn bu’n brifathro yn Ysgol Llanllyfni. Gadawodd yn 1874 am nad oedd yr arolygwr yn fodlon ar ganlyniadau’r ysgol. (Penodwyd Sais yn ei le ond cododd y pentrefwyr yn erbyn hwnnw.) Aeth i ffarmio Hafod-y-Wern a dechreuodd bregethu ar y Suliau. Erbyn 1879 roedd yn gofalu am eglwys Capel Uchaf.

Yn 1873 golygodd ef a William Jones, Bryngwydion, y llyfr 'Casgliad o Weithiau Barddonol Eben Fardd'.

Bu’n fuddugol ar y bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 1897. Ysgrifennodd lawer o englynion i gofio am yr ymadawedig yn yr ardal.

Rhoddasai ei fryd ar ddau beth: llunio llong awyr a gwneud peiriant yn seiliedig ar egwyddor hunan-symud - dyna fel y disgrifiai ef 'perpetual motion'. Dyfeisiodd amryw o beiriannau gyda chymorth seiri coed a gofaint. Ond ei brif ddiddordeb oedd gwyddor hedfan. Bu wrthi am dros chwarter canrif yn pendroni uwchben y broblem a threulio misoedd bwygilydd ymhlith adar, chwilod a gwenyn yn dyfal wylio eu symudiadau trwy ddefnyddio chwyddwydr. Y broblem a’i hwynebai oedd - pam fod ganddynt gyrff mor drwm ac adenydd mor fychain?

Cafodd y syniad o ddyfeisio propelar ac aeth ati i osod y cynllun ar bapur a'i anfon i’r Swyddfa Batent yn Llundain. Daeth ateb yn dweud iddynt dderbyn ei gynlluniau cyntaf ar gyfer 'A propellor or Driving Wheel to put in motion vehicles, boats and flying machines' ar Hydref 14 1916.

Roedd yn fwriad ganddo i gynllunio awyren (gleidar) ond o ddiffyg cefnogaeth ariannol, ni wireddwyd hyn. (gw. tt 12-13 Hywel Tudur 1840-1922. Golygwyd gan Catrin Parri Huws, 1993).

Bryn Eisteddfod (tua 1918-1920) Llun: Bryn Eisteddfod (tua 1918-1920).

Yr oedd yn bensaer. Ef a gynlluniodd Bryn Eisteddfod ac aeth ef a’r teulu yno i fyw o Hafod-y-Wern. Ef hefyd a gynlluniodd drydydd adeilad Capel Uchaf (ond fe’i dymchwelwyd yn 2002). Dywedir iddo seilio cynllun Capel Uchaf ar gapel Gwytherin - y seddau canol ar yr un gwastad a llwybr o’u cwmpas (tebyg i ynys). Ar gyrion y llwybr roedd y seddau ochr a’r seddau cefn y codi ar oleddf. Golygai cynllun o’r fath fod y capel yn un hawdd i bregethu ynddo gan y byddai’r aelodau yn eistedd gyda’i gilydd yn y canol.

Pan fu farw Hywel Tudur fis Mehefin 1922, ymddangosodd y paragraff hwn amdano ym Mlwyddiadur y M.C. gan y Parchedig John Owen:

Anfynych y ceid neb diogelach ei gyngor dan bob amgylchiadau. Os byddai eisiau gwneud ewyllys - Hywel Tudur. Os byddai angen cyfarwyddyd cyfreithiol heb fynd i’r "dref" a thalu i dwrnai - Hywel Tudur. Os byddai galw am gymorth i lunio tŷ neu fesur tir - Hywel Tudur. Os byddai eisiau englyn ar gerdyn cof neu garreg fedd - Hywel Tudur. Os byddai eisiau erthygl i’r Drysorfa i anfarwoli blaenor - Hywel Tudur. Os byddai eisiau beirniadu pryddest neu awdl - Hywel Tudur. A phe na byddai ar neb eisiau dim, cymerai Hywel ei hamdden i berffeithio ei long awyr, i nyddu cywydd, neu i wneud pregeth.

Fe’i claddwyd ym mynwent Clynnog ond nid oes carreg i nodi’r fan er i Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pwllheli 1925, osod cystadleuaeth i lunio englyn beddargraff iddo. D. Jones o Benrhyndeudraeth oedd yn fuddugol.

Diolch o galon i Sally Davies, gorwyres Hywel Tudur, am y lluniau.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys