Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Clynnog yn ein Llenyddiaeth Gynharaf Un

Y Gododdin

Yn y canu cynharaf un yn y Gymraeg ceir cyfeiriad at Tal Hen Bann, sef Henbant Mawr, Capel Uchaf - yn ymyl yr hen ffordd o Arfon i Eifionydd meddai Syr Ifor Williams, Canu Aneirin, t. 354. Y cyfnod y cyfeirir ato yw hanner olaf y chweched ganrif.

Y Mabinogi

Enwir y canlynol yn y Mabinogi: (y rhyddiaith gynharaf yn y Gymraeg):

  •  Pennardd - Pennarth, Aberdesach
  •  Dylan - Maen Dylan, Aberdesach
  •  Gwydion - Bryn Gwydion, Pontlyfni
  •  Y Bwlch Mawr
  •  Brynaerau
  •  Lleu
  •  Arianrhod - Caer Arianrhod
  •  Cefn Clun Tyno (Tybiai Syr Ifor Williams mai yng Nghapel Uchaf yr oedd y lle hwn. (Cae yw clun a phant yw tyno). Ceir Coedtyno yn enw ar ffarm yno heddiw.

Ceir ychydig bach o "Englynion Beddau" hefyd ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Cyfeirir yn un ohonynt at fedd Dylan yn Llanfeuno (sef Clynnog).

Breinniau Arfon

Hen siarter oedd hon a welir yng Nghyfreithiau Hywel Dda a chyfeiria at y ffaith fod Elidir Mwynfawr (o’r Hen Ogledd, sef Yr Alban heddiw) wedi ei ladd gan wyr Arfon yn Aber Menweddus. (Enw arall ar Afon Rhyd Beirion - sef Aber Rheon, yr afon sydd yn Nhai’n Lôn, Clynnog).Yr oedd Elidir Mwynfawr yn gymaint o arwr fel yr anfonwyd negeseuwyr i’r Hen Ogledd i beri iddynt anfon llu o wyr arfog i ddial ar wyr Arfon am ei ladd (yn cynnwys y tywysog Clydno Eiddyn). Yr un a gafodd y fraint o arwain gwyr Arfon yn eu herbyn oedd Maeldaf Hen, Pendefig Pennarth. Lladdwyd rhai o wyr yr Hen Ogledd, yn cynnwys Cynon ap Clydno Eiddyn. Yn ôl Syr Ifor Williams, tud. 175 Canu Aneirin, yr oedd Cynon ap Clydno Eiddyn yn perthyn i hanner olaf y chweched neu ddechrau y seithfed ganrif.

Dyma enghraifft o gerdd o Englynion y Beddau a ddiweddarwyd gan Yr Athro Gwyn Thomas yn cyfeirio at Rheon Ryd lle y claddwyd Cynon ap Clydno Eiddyn:

Bedd Rhun fab Pyd ger ymdaflyd afon:
Mewn oerfel mewn gweryd
Bedd Cynon yn Rheon Ryd.

Brwydr Bron yr Erw (Capel Uchaf)

"Gan fod hen ffordd y De yn dyfod o gyfeiriad Nancall hyd lethr y Bwlch Mawr, dyna pam yr ymladdwyd brwydr Bron yr Erw yn yr ardal hon. Wedi colli’r dydd, ciliodd Gruffudd ap Cynan yn ôl i Aber Menai, ar hyd y ffordd y deuai Gwydion yn awr. (HGC 120). Gallasai hwnnw adael yr arfordir wrth Fryn Gwydion, cyn cyrraedd Pontlyfni; wedyn rhydio Llyfni lle mae Pont y Cim bellach."

(Nodyn gan Syr Ifor Williams, PKM, t. 280).

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys