Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Morys Clynnog (MAURICE CLENOCKE) ~ c. 1525 - 1581

Yn 1558 fe’i penodwyd yn Esgob Bangor ond pan waharddwyd Pabyddiaeth ar ôl marw’r Frenhines Mari, dihangodd i Rufain. Bu’n bennaeth y Coleg Saesneg yno a phwrpas y Coleg hwnnw oedd paratoi pobl i ddychwelyd i Brydain i adennill y ffydd Babyddol. Yn 1575 awgrymodd i’r Pab anfon 6,000 o wyr i ddiorseddu’r Frenhines Elisabeth I. Cynllwyniodd ef ac eraill ymgyrch i lanio ar arfordir Arfon ond methiant fu'r ymgyrch. (Gwybodaeth a ganfuwyd yn ddiweddar yw hon.)

Dyfyniad o'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940:

CLYNNOG, MORYS (neu MAURICE CLENOCKE) (c. 1525-81), diwinydd Catholig; hanoedd, yn ddiau, o Glynnog, sir Gaernarfon. Ymaelododd â Choleg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio yn B.C.L. yn 1548. Bu’n gaplan i’r Cardinal Reginald Pole, ac wedi cyfnod yn rheithor Orpington, Caint, ac yn ddeon Shoreham a Croydon, rhoddwyd iddo, yn 1556, gan esgob Goldwell, Llanelwy, reithoriaeth Corwen.

Yn 1558, ar farw Dr William Glyn, dyrchafwyd ef yn esgob Bangor. Ond cyn iddo gael ei gysegru, bu farw’r frenhines Mari, a dewisodd yntau alltudiaeth yn hytrach na chydymffurfio â’r drefn newydd o dan Elisabeth.

Gyda’r esgob Goldwell a Gruffudd Roberts, archddiacon Môn, cyrhaeddodd Rufain yn 1561. Apwyntiwyd Goldwell yn warden yr Ysbyty Seisnig yno, Gruffudd Robert, yn 1564, yn gaplan, a Morys Clynnog, yn 1567, yn ‘Camerarius.’ Yn 1577 gwnaed ef yn warden.

Y flwyddyn ddilynol llwyddodd Owen Lewis, archddiacon Hainault, ac yn ddiweddarach esgob Cassano [q.v.], i sefydlu coleg Seisnig yn Rhufain, a dewiswyd Morys Clynnog yn rheithor gyda thri Jesiwit i’w gynorthwyo i hyfforddi’r myfyrwyr, yn Gymry ac yn Saeson. Dywedid bod Clynnog yn ffafrio’r Cymry, a bu terfysg. Ond tybir bod a wnâi’r ffaith fod y Jesiwitiaid yn dymuno cael llwyr reolaeth ar y coleg â hyn. Fodd bynnag, bu raid iddo ymddeol yn 1579, wedi i’r Saeson, a oedd yn bygwth ymado â’r coleg, oni weithredid, gyflwyno deiseb i’r Cardinal Morone yn protestio yn erbyn rheolaeth Morys Clynnog a danfon dirprwyaeth i’r pab yn mynnu ei ddiswyddo.

Apwyntiwyd y Tad Agazzari, Jesiwit, i’r swydd. Yn y flwyddyn 1580 cawn Morys Clynnog yn byrddio llong yn Rouen. Credir iddo foddi yn gynnar yn 1581, ar ei ffordd i Sbaen.

Cyhoeddodd Morys Clynnog lyfryn bychan ar lun catecism yn 1568, sef Athrawiaeth Gristnogawl. Gruffudd Robert a luniodd y rhagymadrodd, ac ym Milan, yr Eidal, yr argraffwyd ef.

D.N.B.; Alumni Oxon.; Trans. Cymm., 1903; Hist. Of the Venerable English College, Rome; G.J. Williams (gol.), Gramadeg Gruffydd Robert; gw. hefyd C. 1/1342/26 (P.R.O.).

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys