Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

1,500 Cyn Crist

Un o'r tair wrn a ddarganfyddwyd mewn beddau ger ClynnogDarganfuwyd tair wrn mewn beddau ger Clynnog y tybir eu bod wedi eu gosod yno 2,000 o flynyddoedd Cyn Crist - un ym Mhennarth yn 1910 (Pennardd y Mabinogi) a dwy ym Mryn Ifan yn 1876.

Pennarth

Ar Chwefror 17 1910 daeth Hugh Owen Pennarth o hyd i fedd llathen o hyd, 20 modfedd o led a 18 modfedd o ddyfnder yng nghae Bryncastell, Pennarth. Roedd carreg fawr arno ac roedd y rhai o’i gwmpas wedi dod o fynydd Bwlch Mawr. Ar droed y bedd yr oedd pot pridd (sef wrn) wyth modfedd o uchder ac roedd llwch mân ynddo. Yn y pridd yr oedd tameidiau o fân esgyrn.

Dyma a ddywed David Fraser yn ‘Y Goresgynwyr’ am feddau tebyg:

"O Sbaen y cychwynnodd pobl y Bicer (yr Oes Bres Gynnar - 1,800-1,400 Cyn Crist). Yno fe ddatblygasant yr arfer o gladdu eu meirw mewn beddau unigol gan osod gyda hwy bob amser bot pridd neu ficer.

Cleddid pennaeth, yn grwm ei hunan bach, mewn cist faen, a honno wedi ei gorchuddio â thomen gron o bridd, ac wrth ei ochr rai o’i arfau hoff ac addurniadau ac yn aml ficer yn llawn efallai o gwrw o ryw fath, i’w lonni ar ei daith i’r byd arall..."

Yn ôl yr arbenigwyr, yr oedd y dull hwn o gladdu ychydig yn ddiweddarach na dulliau claddu pobl y cromlechi.

Bryn Ifan

Daethpwyd o hyd i fedd a dau bot pridd tebyg i un Pennarth ym Mryn Ifan yn 1876 (sydd ryw hanner milltir o Capel Uchaf) ond torrwyd y potiau hynny wrth eu codi o’r pridd.

Arolwg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Bwlch Mawr - Gyrn Goch

Yn 1997 gwnaeth yr Ymddiriedolaeth uchod arolwg o safleoedd o ddiddordeb archaeolegol yn y Bwlch Mawr a’r Gyrn Goch. Cyn dechrau ar y gwaith yr oeddynt yn ymwybodol o 25 o safleoedd ond o ganlyniad i’r arolwg hwn cofnodwyd 375 o safleoedd ganddynt.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys