Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Tan-y-Bwlch, Capel Uchaf

Hen, hen dŷ bach, bach:

Hen, hen dy bach, bachHen, hen dy bach, bach

 

Hen, hen dy bach, bach

 

Trefn Lluniau:

1      2

3

Llun 1: Y lle tân a welir yma. Dwy garreg lefn sydd ar y to a thywyrch arnynt

Llun 2: Ceir cwt bach yn y talcen

Llun 3: Y fynedfa o'r tu allan. Tywyrch sydd ar y to.

 

Rhywun neu rywrai bychan oedd yn byw yno!

 

 

Byd Natur

O gaeau Tan y Bwlch, ar lethrau Gogleddol Bwlch Mawr, mae modd gweld yn bell dros Fae Caernarfon a tu hwnt draw i Sir Fôn. Dyma rai o'r caeau traddodiadol olaf sydd ar ôl yn Llŷn ac mae'r cloddiau'n atgoffa rhywun o ddolydd lliwgar y gorffennol. Ar un adeg byddai'r caeau hyn yn cynnal y teulu lleol a oedd yn byw ym mwthyn Tan y Bwlch. Bellach mae'n ffynhonnell blodau gwyllt prin a gwych. Maent bellach yn cael eu gwarchod diolch i bartneriaeth rhwng Plantlife, yr elusen sy'n ymgyrchu i ddiogelu planhigion gwyllt, Shampw Timotei a Chymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru.

Map Byd Natur

Yn y caeau uchaf gwelir y Bengaled Benddu, Pys y Ceirw, Mantell Fair, Tafod y Neidr, Tegeirian y Rhos a'r Tegeirian Brych. Mae'r Tegeirian Llydanwyrdd yn blodeuo ym mis Gorffennaf gan lenwi'r awyr a'u haroglau melys, tra bo'r gwyfyn lludw yn bwydo ar y neithdar llifeirol. Ar y llethrau is, llaith, gwelir amrywiaeth o redyn, hesg a phlanhigion eraill sy'n hoff o ddŵr megis Rhawn y Coed, Fioled y Gors, Ffa'r Gors Teirdalen, Blodyn y Gog, a Thamaid y Cythraul yn ffynnu. Mae'r Troellwr Bach a'r Llwydfron yn yr Helyg yma a thraw.

Mae anifeiliaid yn pori ar y caeau rhwng mis Medi a mis Ebrill bob blwyddyn, felly mae'r planhigion sy'n tyfu'n gyflym ac yn gryf yn cael eu bwyta ac felly nid ydynt yn gormesu'r lleill. Medir rhai o'r caeau sychaf i gael gwair ddiwedd yr haf ac mae hyn yn golygu bod planhigion yn blodeuo ac yn hadu. Heb wrtaith, chwynladdwyr a phlaladdwyr mae byd natur y caeau hyn yn dilyn rhythmau'r tymhorau. Yng nghaeau Tan y Bwlch y gwelir rhai o'r enghreifftiau olaf o sut mae dulliau ffarmio traddodiadol a phrosesau naturiol yn cyfuno i greu enghreifftiau gwych o fyd natur ar ei orau yng nghefn gwlad.

Caeau Tan y BwlchMae Plantlife a Timotei yn bartneriaid mewn ymgyrch i warchod dolydd sy'n gyfoeth o flodau. Bydd Cymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru'n rheoli'r caeau hyn i ddiogelu dyfodol Caeau Tan y Bwlch a gofalu amdanynt. Os hoffech chi gael gwybod mwy am Plantlife, cysylltwch â Chymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru ar 01248 351541.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys