Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Pentref Clynnog ar droad yr ugeinfed ganrif

Byddai pedair tafarn yma tua dechrau 1900:

  •  New Inn. Tyfai coeden fasarn uwchben y drws. Gwylltiodd y wraig oedd yn byw yno un diwrnod gan fod cymaint o bobl yn dod i’w gweld a phenderfynodd dorri’r goeden.

New Inn, Clynnog Fawr

Ewch dros y llun gyda'ch llygoden i gael gweld y New Inn ddoe a heddiw

Ond pan roddwyd y gorau i gadw tŷ tafarn aeth yn Bodfasarn. Er hynny, i hen drigolion Clynnog, New Inn ydoedd, hyd yn oed yn y 1970au.

Y tafarnau eraill oedd:

  •  Tŷ Isaf
  •  Plas (daeth yn westy yn 1912
  •  Newborough Arms - ond yn ‘Coach Inn’ erbyn 2000)

a hefyd:

  •  Tŷ Cerrig (mae tŷ o'r un enw - tŷ tafarn oedd un a’r llall yn stablau y drws nesaf iddo)

Siopau:

  •  Bodfasarn
  •  Bodgybi
  •  Siop Evan Williams
  •  Stôr
  •  ‘Siop Cewch’
  •  Y Llythyrdy
  •  Siop Richard Hughes (cludo blawdiau a.y.b. i'r ffermydd efo’r mul)
  •  Gweithdy’r Crydd
  •  Yr Efail
  •  Lladd-dŷ

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys