Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr

Diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru mae dau adeilad hanesyddol wedi eu diogelu yng Nghlynnog a cham cyntaf cynllun Canolfan Hanes Uwchgwyrfai bellach wedi ei wireddu. Y ddau adeilad yw’r Ysgoldy (a fu gynt yn ysgol ragbaratoawl i weinidogion ac a ddatblygodd o Ysgol enwog Eben Fardd) a Thy’r Capel.

I ddathlu'r cam cyntaf hwn traddodwyd darlith gan Emlyn Richards ar Fai 12 2004 ar Ysgol yr Ail Gyfle. Yr oedd y cyfarfod yn llwyddiant ysgubol, Emlyn Richards ar ei orau, yn hwyliog fel arfer, y Cadeirydd yn feistrolgar, ac yna ar y diwedd, pawb yn oedi i sgwrsio’n hamddenol braf y tu allan cyn troi am adref.

Y cam nesaf fydd gwneud cais am arian Amcan Un i adfer yr adeiladau a sefydlu cynlluniau cyffrous, o drefnu gweithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r Haf a’r Pasg i ddarparu cylchgrawn llafar i’r deillion, sefydlu archif ddigidol, gwasanaeth hel achau, gardd berlysiau, ac yn y blaen.

Sefydlir y Ganolfan ar gyfer hen gwmwd Uwchgwyrfai ac ychydig bach y tu hwnt – i gynnwys ardal Nefyn yn y de hyd at y Bontnewydd yn y gogledd a Dyffryn Nantlle.

Yr Ysgoldy, Afallon a Chapel Ebeneser
Llun: Yr Ysgoldy ar y chwith yna Afallon a Chapel Ebeneser. Mae Tŷ’r Capel yn rhan o’r Capel ond o’r golwg yn y llun hwn.

Tw'r Capel, Clynnog Fawr
Llun: Tŷ'r Capel, Clynnog Fawr

Ar ddiwedd y ddarlith uchod apeliodd Geraint Jones, y Cadeirydd, am luniau a hen lythyrau a phapurau gan bobl gan fod llawer o ddisgynyddion yn y gorffennol wedi gwneud coelcerthi o drysorau o’r fath.

Talodd deyrnged i’r diweddar Huw Pritchard gynt o Gamfa’r Bwth a fu farw’n ddisymwth ar Fai 8 a chafwyd munud o dawelwch er cof amdano. Bu Camfa’r Bwth yn llety i nifer fawr o fyfyrwyr ar hyd y blynyddoedd ac roedd ei fam yn nodedig am ei charedigrwydd dihafal. Derbyniwyd lluniau o fyfyrwyr Coleg Clynnog ganddo i’r Ganolfan ac roedd wedi edrych ymlaen at ddod i arddangos ei gasgliad mawr o offer gofaint i’r Ganolfan a sgwrsio am ei waith fel gof yng ngefail y pentref, a hefyd yn Llanaelhaearn, lle bu gyda’i dad, Evan Pritchard, yn pedoli ceffylau gwedd y ffermydd cyfagos ac yn gwneud ac yn trwsio pob mathau o offer. Yr oedd yn 78 mlwydd oed.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys