Hanes Dyffryn Nantlle

Gyrn Goch

 
 
 

Dod i’r lan yng Ngyrn Goch - Llongddrylliad Y Fortuna (Hydref 1927)

Wedi cadarnhau’r trydydd gwelliant ar ddeg i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn 1865, rhyddhawyd mwyafrif y caethweision. Gwrthododd llawer ohonynt aros i weithio yng nghaeau siwgr a chotwm taleithiau’r de ac Ynysoedd India’r Gorllewin. Aeth rhai cannoedd ohonynt yn ôl i Affrica, ac o’r herwydd, recriwtiwyd gweithwyr o India a China i ddod i weithio yn eu lle ar gontract pum mlynedd am gyflog a chludiant. Gwnâi cwmnïau llongau Prydain arian da wrth gario’r rhain o India – Cunard yn un. O 1820 ymlaen, datblygwyd llongau stêm, yn enwedig llongau rhodli y Mississippi a’r Missouri, a cheid moethusrwydd mawr arnynt.Y Fortuna a ddaeth i'r lan yng Ngyrn Goch Yn 1819 croesodd y Savannah Fôr Iwerydd mewn saith niwrnod ar hugain, ond yr agerlong gyntaf i groesi o Brydain i’r America oedd llong rodli Brunel, (gyda chymorth hwyliau hefyd), sef y Great Western.

Llun: Y Fortuna.

Cant a hanner oedd ar fwrdd y Great Western ar ei mordaith gyntaf o Fryste i Efrog Newydd – taith pythefnos. Gyda datblygiad sgriwyriant, daeth teithio gyda stemars yn rhatach, a gellid arbed tanwydd. Daethant yn llawer mwy eu maint hefyd erbyn diwedd yr 19 ganrif, a daeth cystadleuaeth fawr am deithwyr. Ni allai’r llongau hwylio gystadlu bellach â’r leinars, ac er pwyslais y teithwyr cyfoethog hyn ar bwer a chyflymder, daliai’r llongau i gario pobl dlawd a mewnfudwyr i’r America.

Gwr o’r enw Connell adeiladodd yr Ems, llong hwylio 1829 tunnell, gyda chorff dur a ddylunwyd ar gyfer cario gweithwyr o India a China (a elwid yn cwlis ar y pryd) i gwmni James Nourse. Hwyliai’n rheolaidd o Galcutta i borthladdoedd fel Dieppe, cyn trosglwyddo’r teithwyr i liner i groesi’r Iwerydd. Adeiladwyd yr RMS Titanic ar gyfer dau beth – moethusrwydd mawr i’r teithwyr cyfoethog, gyda rhannau eraill dipyn llai moethus i’r mewnfudwyr tlawd. Galwodd yn Dieppe ar ei mordaith gyntaf anffodus o Southampton i Efrog Newydd. Arni yr oedd mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop, China, India a’r Lefant. Hwyliai’r Ems yn syth o India i Efrog Newydd, gan gario glo a bwyd yn ôl i Galcutta bob tro. Yr oedd cryn gystadleuaeth rhwng y llongau; yn 1898 bu’r Ems yn rasio’r clipar gyflym Brenda i Galcutta. Cyrhaeddodd y ddwy ar yr 2il o Fai – y Brenda 84 niwrnod o’r Sianel, a’r EMS 87 Niwrnod o Fryste.Y rhai a achubwyd oddi ar y Fortuna Ar y 30ain o Orffennaf 1902 cyrhaeddodd yr Ems Galcutta, 103 niwrnod o Efrog Newydd, un o’r mordeithiau cyflymaf o’r America i Galcutta y flwyddyn honno.

Llun: Y rhai a achubwyd, yng ngerddi gwesty’r Sant Beuno yng Nglynnog.
Mae Capten Larsen yn eistedd wrth ochr y wraig yn y ffwr.

Ar ei mordaith cario cwlis olaf, gadawodd yr Ems Galcutta ar y trydydd o Orffennaf 1908 gan gario mewnfudwyr dan faner Norwy. Yr oedd yn Dieppe erbyn y 13eg o Hydref ac fe’i towiwyd i Hamburg lle’r aeth ar werth. Yn 1909 gwerthwyd hi i gwmni Tonsberg Whaling a’i hailwerthu drachefn yn 1912 i Sandefjord a’i haddasu fel llong forfila a chario guano ar gyfer gwrtaith. Gwerthwyd hi eto yn 1916 i Gwmni Morfila Argentine, ac ailfedyddwyd hi Y Fortuna. Er hyn arhosodd ei chapten a’i chriw o Norwy gyda hi, ac am un mlynedd ar ddeg olaf ei hoes bu’n teithio’n rheolaidd i Ynysoedd De Georgia dan y Capten Olaf Larsen. Ar ei ffordd yno, cariai fwyd, glo a thuniau gwag i gario olew morfil; ac ar y ffordd adref, olew a guano. Fel arfer, cymerai rhwng 60 a 70 niwrnod o’r Sianel i Dde Georgia, gan wneud y siwrnai unwaith mewn 57 niwrnod. Yn Hydref 1927 daeth y Fortuna i’r Afon Merswy gyda 11,400 casgen o olew morfil, a mawr oedd diddordeb hen longwyr Lerpwl ynddi. Norwyaid oedd yr holl griw, ar wahân i’r mêt, oedd o Sweden. Pum niwrnod yn ddiweddarach daeth y newyddion iddi suddo, ar dân, mewn storm ger glannau deheuol Iwerddon a bod pump o’r criw ar goll.

Dyma ddywedodd Capten Larsen yn ddiweddarach:

‘Pan oeddem tua deng milltir i’r de o’r Iwerddon bu ffrwydriad yn un o’r cabanau, darniwyd y starn, lluchiwyd y drysau’n agored, gwnaethpwyd twll anferth yn nenfwd yr ystafell fwyta ac aeth y llong ar dân. Does gen i ddim syniad beth achosodd y ffrwydriad – cariai un o’r criw flwch carbeid dan ei gesail, ond hyd yn oed petai’r blwch wedi syrthio, does bosib y byddai’r ffrwydriad mor sydyn ac mor anferth. Roedd yn debycach i fom na dim arall.’

Mae calsiwm carbeid yn gemegyn llosgadwy iawn a ddefnyddid i greu nwy i lampau asetylen drwy ollwng diferion o ddŵr yn araf arno, mewn llestr, dan bwysedd. Cedwid y carbein dan sêl fel arfer mewn tuniau a agorid â chun a morthwyl, a chedwid y tuniau mewn blychau pren. A allsai gwreichionyn o’r cun fod wedi rhoi mymryn o’r asetylen ar dân? A oedd dŵr wedi mynd i mewn i’r tun carbeid, gan lifo’r ystafell fwyta ddi-awyr, glos â’r asetylen? A roddodd gwreichion wedyn y nwy ar dân?Cwch y Fortuna ar y Grafog Digon yw dweud y bu ffrwydriad asetylen fawr yn yr ystafell. Ni allwn ond ceisio dyfalu sut. A chan mai ystafell fwyta’r morwyr oedd, yna mae’n sicr fod y tân coginio yn bur agos!

Llun: Cwch y Fortuna ar y Grafog.

Ar y dec, torrwyd ffêr yr Is-Gapten oedd ar wyliadwraeth, gan goedyn luchiwyd ato. Pan welwyd nad oedd yn bosibl diffodd y tân, gollyngwyd dwy gwch i’r môr er mwyn dianc. Erbyn tua deg o’r gloch, gwelwyd nad oedd gobaith achub y llong, gan iddi droi yn y dŵr a dechrau suddo yn y tonnau cryfion. Aeth un o’r cychod i lawr gyda’r llong, yn sownd yn ei chamlath o hyd. Boddodd rhai o’r criw, ond daeth y Capten a’r Is-Gapten i’r wyneb a chodwyd hwy i’r cwch arall. Collwyd y steward, bachgen a weithiai yn y gegin, un decmon a dau longwr arall.

Y bobl leol fu o gymorth i’r criw. O’r chwith: Robert Hughes, Richard Thomas, Miss Thomas, Mrs Thomas a William Thomas, o Dyddyn Hen Llun: Y bobl leol fu o gymorth i’r criw. O’r chwith: Robert Hughes, Richard Thomas, Miss Thomas, Mrs Thomas a William Thomas, o Dyddyn Hen.

Lluchiwyd y cwch, gyda Chapten Larsen ac ugain arall ynddi, o don i don mewn tywydd ofnadwy drwy’r nos, y nos Wener honno. Erbyn y pnawn Sadwrn roedd y cwch wedi ei chwythu ar draws Môr Iwerddon i’r lan ger Clynnog Fawr. Daeth y criw i’r lan ar lanfa’r Grafog, dan fferm Tyddyn Hen, Gyrn Goch, yn y môr egr. Defnyddid glanfa’r Grafog gan longau’n cario cerrig calch a glo i’r odyn gerllaw. Wedi bod yn y cwch am ddeunaw awr, a’u cario dros ddau gant a hanner cilomedr, o’r Iwerddon i Fae Caernarfon, chwythwyd hwy i’r lan. Yr oedd dau wedi torri eu coesau a phob un ohonynt wedi hen ymlâdd. Cawsant groeso gan drigolion Gyrn Goch a Chlynnog. Arhosodd y criw gyda Wiliam Roberts a’i deulu yn Nhyddyn Hen, nes i W.S. Jones, ysrgrifennydd lleol Cymdeithas Llongddrylliad Morwyr drefnu iddynt fynd adref i Norwy.

gan Dafydd Williams, Llafar Gwlad Rhif 84, Tud 19-20.
Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys