Hanes Dyffryn Nantlle

Llanllyfni

 
 
 

Y Bwytawr Pechodau

Y bwytawr pechodauDros Gymru gyfan, a'r Gororau hefyd, fe gafodd y bwytawyr pechodau rôl amlwg yn nefodau angladdol ond prin iawn yw'r tystiolaeth ysgrifenedig amdanynt. Yn ystod y 19fed a'r 20fed ganrif, tueddau'r rhan fwyaf o'n haneswyr wadu bodolaeth y fath berson. Fel arfer, cafodd y buddugwyr ysgrifennu’r hanes, gan fynnu bod hyd yn oed y syniad yn dystiolaeth glir o amwybyddiaeth y werin bobol. Sut fedrai neb gredu yn y syniad neu hyd yn oed gymeryd rhan yn y defod yn eu hoes fodern oleuedig? Yn arbennig, dan ddylanwad yr Ymneilltuwyr, nid oedd gwrthod yr hen gredodau yn ddigon. Er mwyn creu delwedd ddelfrydol i'r Cymry yn ôl safonau'r oes, gwadasant fodolaeth cynifer o'n hen arferiadau neu'n waeth byth, peidient siarad o gwbl amdanynt (yn bennaf mewn ymateb i'r awgrymiadau sarhaus a alwyd yn "Brad y Llyfrau Gleision" roedd hyn: sef Adroddiadau’r Senedd yn y 1840au a roddodd arolwg anffafriol iawn am gyflwr Cymru).

Yr oedd gwahanol defodau ym mhob ardal:

Ymhlith y straeon lleol am y Goeden Bechod, ym Mhlwyf Llanllyfni, arferai teulu'r ymadawedig osod taten neu cacen oedd newydd ddod o’r popty, ar frest y corff marw a'i adael nes iddo oeri. Credai'r bobl bod holl bechodau'r ymadawedig yn cael eu sugno gan y bwyd. Gosodid y bwyd hwn dan y Goeden Bechod, lle, ym mhen amser, bwytid i gyd gan y bwytawr pechodau, wrth iddo gymryd arno holl bechodau'r ymadawedig. Rhoddai'r teulu ddarn o arian i'r bwytawr pechodau a oedd, fel arfer, yn ddyn tu hwnt i gymdeithas parchus.

Mewn ardaoedd eraill yng Nghymru a'r Gororau, arferai'r bwytawr pechodau ddod i dy'r ymadawedig a bwyta'r gacen a baratowyd ar ei gyfer ger yr arch a derbyn yr arian. Rhaid oedd iddo wedyn ymadael ar unwaith wrth gael ei felltithio gan y galarwyr.

Yr oedd yn bwysig dros ben roi bwyd wedi ei wneud o'r cynhwysion gorau, er mwyn sicrhau fod pob tamaid yn cael ei fwyta. Felly roedd yr arfer yma yn Llanllyfni o gynnig taten yn ei chroen yn sicrhau cyfanrwydd y rhodd a'i gynhwysion melltigedig.

Mae’r arferiad yn parhau, medd rhai...

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys