Hanes Dyffryn Nantlle

Nantlle

 
 
 

Atgofion am y Baracs a Siopau Nantlle, gan Thomas Alun Williams

Pleser mawr i mi, fel un sydd wedi ei eni a’i fagu ym mhentref Nantlle, oedd canfod llun o’r Baracs ar eu newydd wedd yn rhifyn Mai 2004 o Lleu.

Cymeraf y cyfle hwn i wireddu un ffaith, sef fy mod wedi gweithio am bedair blynedd yn Chwarel Penyrorsedd cyn cael galwad i’r gad yn 1940, ac yn ddiweddarach ailgychwyn taith bywyd yn fy hen gartref ar ôl fy ymddeoliad yn 1977 o Ysgol Gyfun John Bright, Llandudno, fel athro celf a chrefft a gwaith metel.

Erbyn heddiw, credaf mai myfi yw’r unig ddyn yn byw yn Nantlle ac yn nesau at 90 oed, sydd wedi cael y fraint o gydweithio a’m hen gyfoedion yn chwarel Penyrorsedd.

Daw 'oriau bore bywyd' yn felys iawn i’m cof am y cyfnod pan nad oedd ond un Saesnes yn byw yn Nantlle, sef Mrs Evan William Evans, gwraig diweddar 'store-keeper' y chwarel. Bellach daeth llawer tro ar fyd, 'mae cenhedlaeth wedi mynd, a chenhedlaeth wedi dod,' ysywaeth, gyda llanw o estroniaid; ac erbyn heddiw mae pentref Nantlle wedi ei Seisnigeiddio, fel llawer pentref arall yn y Dyffryn, a rhamant yr hen chwarelwyr wedi diflannu a darfod; ond mae ysbryd Lleu yn parhau yma o hyd ymysg disgynyddion a gwehelyth yr hen gyndadau, ac mi rydym yn ddyledus iddynt am gadw fflam yr achos crefyddol yn fyw.

Rhaid dychwelyd at hanes y Baracs, ac os yw rhywun yn berchen ar fy llyfr 'Atgofion Uncle Tomos', rwyf wedi sôn am drigolion y Baracs eisoes.

Codwyd y Baracs ar ddarn o dir oedd yn perthyn i iard ffarm yr hen Dŷ Mawr. Cyfeirid at y lle fel 'Baracs yr Iard' ers talwm: roedd yn eiddo i Ystad Kinmel, ynghyd â chwmni chwarel Penyrorsedd.

Yn y fangre hon y gwersyllodd Iorwerth Iaf, ystablu ei feirch, a chynnal ei dwrnameint ar y dolydd gwastad ger y ddau lyn, cyn bod sôn am chwareli Dyffryn Nantlle.

Roedd pum tŷ bychan yn perthyn i Resdai y Baracs, ac yn eu cefnau roedd ystablau a beudái ffarm Tŷ Mawr, heibio iddynt roedd ffordd bach Tŷ Mawr yn arwain o’r ffordd bost i ffarm Y Ffridd Baladeulyn, ac yn ymestyn fel llwybr troed cyhoeddus drwy iard Y Ffridd hyd yr ochr ddeheuol i Lyn Uchaf Nantlle, ac ymlaen drwy iard ffarm Talymignedd Isaf i Ddrws-y-Coed a Gwaith Copr a Phlwm Y Benallt.

Yn Rhif 2 Y Baracs cofiaf deulu John Jones Y Crydd yn byw, sef hen gartref Mrs Lilian Eddy a’i brodyr, Llewelyn a Roland Jones, ac yn ystod blwyddyn cadoediad 1918 dychwelodd Mrs Eddy a’i phlant, Nellie a Harry, o Gernyw i fyw am gyfnod byr, nes symud i Rif 5 Rhesdai Baladeulyn. Cefais fy nghydfagu gyda’r plant a chanlyn meithrinfa addysg elfennol yn Ysgol Nantlle, ac, wrth gwrs, ar fronnau Ysgol Sul Baladeulyn lle’m derbyniwyd yn gyflawn aelod yn yr Eglwys M.C. yno, 75 mlynedd yn ôl.

Yn Rhif 3 Y Baracs roedd John Jones Y Bugail yn byw gyda’i adar bach amrywiol, mewn cewyll cymwys a diddos ar y pared ger y simdde, ar wahân i’r nicos, y caneris a’r llinos. Roedd gwely wrth y pentan i’w ddaeargast fach, Nel, 'black and tan'; roedd yn amddifad o ddant neu ddau yn ei henoed oherwydd llawer o ymrysfa efo aml i lwynog wrth iddi hela efo Wil Y Ffridd a Dei Pen-ddol. Pan ddeuai’r bardd G.W. Francis heibio i’r Baracs a gweld Nel yn ymborthi ger y drws ar ysbarion cinio dydd Sul yr Hen Fugail, fe gyfansoddodd yn y fan y cwpled, 'Duw Annwyl, nid daioni, rhoi 'roast beef' i’r ast bach'. Lawer tro y cofiaf y Bugail yn cyfarch rhywun drwy ddweud 'Helo, deulu bach', pe na byddai dim ond un person yno; ond cawsom lawer i chwe cheiniog ganddo am redeg i Siop Y Felin i ymofyn tybaco siag, iddo gael mwynhau ei getyn pridd, gan roddi ei bwys ar y wal o flaen ei dŷ a syllu tua’r mynyddoedd.

Rhif 4 Y Baracs. Dyma gartref diwedd oes Ann Roberts, 'Nantw', cymeriad diddorol dros ben, roedd hi’n chwaer i Jane Jones, Corn Mawr, sef gwraig hen arweinydd Band Deulyn, wedi i William Darby a’r teulu ymfudo i Seland Newydd yn 1881.

Gan fod nam ar law chwith Nantw fe wisgai ddarn o hosan wlanog i’w gorchuddio, roedd yn enwog iawn am ei gallu i grasu bara ceirch ar y radell ar y pentan, a hefyd gallai wau a gwnïo a chynnal ei hun mewn gwaith tŷ; ond roedd iddi un gwendid, roedd yn arferiad ganddi sefyll ar ben-drws Rhif 3 Rhesdai Nantlle, cyn symud i’r Baracs, rêl 'busy body' ar lafar gwlad. Nid oedd Nantw am golli dim a ddigwyddai yn y ffordd fawr, ac un tro, pan oedd Josi’r Gof yn cerdded heibio i’w thy am gyfeiriad Talysarn, gwelodd Nantw ar bwys y drws a gofynnodd iddi:

'Welsoch chi fochyn yn pasio yma, Ann Robaits?'
'Naddo wir', 'Josaph Jones', meddai, ac atebodd Joseph:
'Wel ar i blydi pen i chi, Ann Robaits, phasiodd o ddim ynteu.'

Rhif 5 Y Baracs. Roedd gennyf gof byr am yr Hen Wmffras, roedd ganddo lediaith Canolbarth Cymru, ac yn gweithio yn y 'machine' pwyso llechi, ar waelod Inclên Y Stablau, yn chwarel Penyrorsedd. Roedd ganddo gwch ar Lyn Nantlle Uchaf i bysgota, a phan fyddai’n arfer mynd i bysgota, fe ddywedai ei fod yn mynd i roi’r 'bad yn dŵr'. Cafodd y pleser o bardneriaeth Josi’r Gof wrth fynd a dod i Dalysarn i dorri ei syched ar nos Wener tâl, ac wrth i’r ddau ddychwelyd fraich ym mraich ar noson rewllyd oer i Nantlle, pan oeddynt ar ben Allt Temperance, lle roedd cafnau dŵr, yn arwain uwchben y ffordd o ffarm Pen-y-Bryn i Chwarel Dorothea, roedd dafnau dŵr o’r cafnau wedi rhewi ar y ffordd ar noson dywyll, ac yn sydyn cwympodd Wmffras ar ei bengliniau a throi at Joseph gan ddweud:

'Pam ddiawl na fuaset ti wedi dweud bod yma rew tew?' ac ar amrantiad atebodd Joseph:
'Pam ddiawl na fuaset ti wedi deud dy fod yn mynd i syrthio!'

Y Siopau

Yn gynnar yn nauddegau'r ugeinfed ganrif, fe agorwyd siop yn Rhif 12 y Baracs ar ôl i deulu John Jones y Crydd ymadael. Ei pherchennog oedd William John Jones mab di-briod William G Jones, Corn Mawr, ac enw'r siop oedd American Stores oherwydd fod ei frawd yng nghyfraith William Morris Jones, alias 'Moi Yankee' yn adnabyddus i'w gydweithwyr ar ôl iddo ddychwelyd o'r America i weithio yn y chwarel. Roedd y chwarelwyr yn nodedig am las enwau.

Y siop gyntaf i mi ei chofio yn fy mhlentyndod oedd Siop Anne Henderson yn 1-2 Rhesdai Nantlle. Cymeriad unigryw a ffraeth ei thafod, hi hefyd oedd bydwraig y pentref a daeth a llawer plentyn i'r byd yn ystod ei hoes! Roedd Anne Henderson yn enwog am ei dawn o goginio cacennau amrywiol a llawer tro pan oeddwn yn blentyn bach yn ystod y rhyfel byd cyntaf, byddwn yn mynd i Siop Anne Henderson hefo dimai neu geiniog yn fy llaw i brynu teisen bwdin, tafell o deisen afal, llus, cyraints duon neu fwyar duon ayb. Roedd hi hefyd yn enwog am ei 'lemonade' a'i diod dail (dandelion and burdock). Roedd Jack ei mab yn gweithio yn y chwarel ac roedd hi yn cadw lletywr o Sais o'r enw Laurence. Roedd hwn yn gweithio yn y chwarel ar oriau gwahanol i Jack (fe elwid yr oriau hyn yn 'stemio') ac roedd Jack yn dechrau am 8 o'r gloch y bore tan bump a Laurence am 12 o'r gloch tan 8 y nos. Meddai'r hen wraig wrth Jack pan yn gadael y tŷ yn y bore:

"fedrai byth gofio enw'r lodjiwr yma Jack er mwyn ei godi at hanner dydd".
"Wel cofiwch orens mam" meddai Jack.
Daeth yn 11.30 ac yn amser i alw ar Laurence i godi o'i wely a'r hen Anne yn dechrau mynd i banics. Aeth at droed y grisiau a gwaeddi - "Cod y lemon diawl!"

Rwyn siwr fod Laurence wedi codi ar frys pan glywodd yr hen wraig yn gwaeddi'n groch!

Wedi marw Anne Henderson, fe gymerwyd y siop drosodd am gyfnod byr gan ddau frawd, sef Robert Hughes Jones ac Evan Jones o Dalymignedd Isaf. Roedd R H Jones wedi ei brentisio'n siopwr ym Mhentrefoelas cyn ei alw i ymuno â'r fyddin yn y Rhyfel Cyntaf. Yn y cyfamser aeth Siop-y Felin yn wag ar ôl ymddeoliad John Morris Griffith, blaenor a thrysorydd Eglwys MC Baladeulyn am flynyddoedd. Priodi wnaeth John Morris Griffith a symud i fyw i Roslan a chollodd y pentref a'r eglwys ŵr oedd yn boblogaidd a mawr ei barch tra bu yn Siop y Felin. Roedd becws Y Felin yn boblogaidd hefyd a deuai gwragedd Rhesdai Nantlle â'u toes yno i'w bobi'n fara. Joni'r Felin fyddai'n cario'r nwyddau allan hefo'r gert a'r ferlen hyd yn oed i bentref Drws y Coed. Bu cyfnod llewyrchus am rai blynyddoedd ar Siop y Felin ac yno y dechreuodd R Hughes Jones fusnes tacsi cyntaf yn Nantlle hefo'i Fordyn, wedyn yr 'Overland', ac Evan ei frawd oedd y gyrrwr nes gwahanodd y ddau ar ôl iddynt briodi.

Dechreuodd Beatrice Roberts fusnes cigydd yn hen Siop Anne Henderson ar ôl i R H Jones fynd i'r Felin. Merch Evan Jones Butcher Talysarn oedd hi ond ni fu fawr lewyrch ar y siop gig gan fod cigyddion eraill yn dod yn eu cerbydau o bentrefi cyfagos i werthu cig wrth y drysau i deuluoedd y pentref.

Yn 1926 agorwyd ffordd newydd rhwng Nantlle a Thalysarn a daeth trafnidiaeth yn ôl i'r pentref. Da oedd gweld bwsiau Jim Jones a Mrs Evans, Leod, Caernarfon yn cario teithwyr unwaith yn rhagor. Bu farw trigolion y Baracs ond roedd y American Stores yn dal mewn busnes a daeth Griff Pritchard y 'Crydd Bach' i gynnal ei weithdy yn Rhif 3 Y Baracs, hen gartref John Jones Bugail. Un yn hanu o Fethesda oedd Griff ac yn anabl oherwydd ei droes 'clwb' a gwisgai esgid bwrpasol am ei droed chwith. Lletyodd ym Mhenygroes a marchogaeth ei feic ar bob tywydd at ei waith a chafodd dderbyniad croesawus iawn yn enwedig gan y llanciau ifanc. Diddorol oedd ei weld yn gallu gyrru ei feic gan roddi mwy o bwysau ar ei goes dde a chlymu cortyn dros ei esgid drom i badlen ei feic a'i chodi yn ôl a blaen drwy gymorth y cortyn. Roedd hyn yn golygu cryn ymdrech iddo reidio ei feic os byddai'r gwynt yn ei erbyn. Roedd yn gymeriad poblogaidd, awyddus a siriol a byddem yn cyrchu i'w weithdy yn yr hwyrnos, yn enwedig ym misoedd oer y gaeaf ac yntau yn dal i golbio'r esgidiau i'w gwsmeriaid. Wedi iddo gwblhau ei lafur am y diwrnod byddai'n ymuno â ni i chwarae cardiau, lluchio 'rings' at y bwrdd bachau ar y wal, chwarae draffts a 'tidli wincs'. Byddai'n trwsio a phwytho ein pêl droed yn aml ac yn gosod styds ar ein esgidiau pêl droed yn rhad ac am ddim. Un noson daeth un o'r bechgyn a phâr o fenyg bocsio i'r gweithdy a bu gryn hwyl a miri yn ystod y paffio a'r 'Crydd Bach' yn ymuno i mewn yn yr hwyl gan hopian ar ei untroed. Nid oedd mynediad i'r genethod i'r fangre dim ond pan oedd angen gwadnu neu sodlu esgidiau a hwyrach fod rhyw gymaint bach o eiddigedd yn codi eu gwrychyn. Daeth cwyn i glustiau blaenoriaid y sêt fawr ac o ganlyniad daeth dyddiau adloniant y bechgyn i ben, a'u dinas noddfa hefyd! Gorfodwyd i'r Crydd Bach roddi allwedd ei weithdy yn ôl i oruchwyliaeth chwarel Penyrorsedd. Roedd hyn o beth yn destun rhagfarnllyd yn erbyn hapusrwydd y to ifanc ac yn anfaddeuol yn eu meddwl am gyfnod maith.

Ail agorwyd Siop Newydd, hen siop Evan Jones pan gymerodd William Jones a Mrs Jones y busnes drosodd. Daethant i fyw o Garmel i Llys Alaw a chyfnewid tŷ drachefn hefo William a Margaret Davies rhif 13 Penyrorsedd Terrace er mwyn cysylltu'r tŷ â'r siop a sefydlu Post Office yno.

Cyn hyn roedd y Post Office cyntaf yn Nantlle yn cael ei gadw gan Hannah Williams yn rhif 9 Penyrorsedd Terrace ond bu farw Hannah Williams drwy ddamwain angeuol ar yr Allt Goch pan dorrodd y bit yng ngheg y ceffyl ar ei ffordd i Dinas Dinlle yn 1908. O ganlyniad agorwyd Post Office dros dro ynglwm wrth dalcen tŷ Rhif 1 gan John William Roberts, Blaen y Garth, tad Mrs Williams Gwynfa Penygroes gynt. Cofiaf fynd yno yn llaw fy hen daid Owen John Hughes blaenor a hynafiaethydd ei oes, iddo gael y pensiwn cyntaf o 5 swllt trwy annogaeth deddf gwlad y Prif Weinidog David Lloyd George. Cofiaf mai Enid Jones chwaer Gwilym Glyn ac Alwyn Jones oedd yn gwasanaethu yn y post newydd bryd hynny sef plant i David a Mrs Samuel Jones, ymfudodd ef i Awstralia cyn hyn.

Y Siop Bach, Rhif 6 Baladeulyn Terrace, Nantlle

Hon oedd siop Catrin Williams, a'i mab Robert Williams - yr hwn oedd yn hollol ddall ar ôl damwain yn y chwarel pan ffrwydrodd boiler injan stêm i'w wyneb. Pan fu farw ei fam, fe gariodd Robert Williams y busnes ymlaen am flynyddoedd, drwy iddo gyflogi morwynion ifanc i wasanaethu yn y tŷ a'r siop, ac yn ddiweddarach yn ei fywyd fe ail-briododd a'i housekeeper, ac ar ôl ei farwolaeth daeth ei fab John Williams a'r teulu i fyw i Rhif 6, a chadw'r busnes i fynd am ychydig o fisoedd, ac yna cau oherwydd ei ymddeoliad.

Dyma siop oedd yn agored o 8 o'r gloch y bore hyd 10 o'r gloch yr hwyr, heblaw ar ddydd Sul, ac yr oedd yn boblogaidd iawn gan blant ac oedolion, ac yn enwedig gan y chwarelwyr, i brynu eu sigarets, tybaco a matsis, hefyd lemonade neu sasparilla ar ganol dydd crasboeth yn yr haf. Roedd Robert Williams yn cadw pob math o gyffuriau at yr annwyd, neu at unrhyw anhwylderau corfforol, nid oedd raid i'r pentrefwyr alw meddyg, os oedd meddyginiaeth wrth law gan Siop Bach. Roedd yn gwerthu pob math o felysion, 8 am geiniog, o'r Caramels a'r Red Seal Toffies i'r plant, cyn mynd i'r Gobeithlu neu'r Cyfarfodydd Mawr elusennol, a gynhelid ar y llwyfan uchel yn y Festri.

Nid oedd cerdded rhyw chwarter milltir o'r tŷ, ar bob tywydd, i Fferm y Bryn, Rhesdai Victoria, yn rhwystr o gwbwl i Roberts Williams i gyrchu ei beint llefrith; ei ffon oedd ei gyfarwyddwr, gwyddai am bob bwlch, a rhif pob clwyd, wrth deimlo curiad ei ffon. Wrth deithio 'mlaen yn y dydd neu'r nos, fe glywech swn ei ffon yn taro'n ysgafn ar y clwydi pan fyddai'n cerdded yn yr hwyrnos.

Roedd yn ddyn diwylliedig a deallus iawn, ac yn ei ddydd roedd yn athro Ysgol Sul. Cofiaf imi weld llun ohono gyda'i ddosbarth pan yn ddyn ifanc, cyn ei ddamwain; a phan fyddwn yn galw yn y siop, fe adwaenai fy llais, fel pawb cyfarwydd; dywedai wrth fy nghyfarch:

"Y llonaf o'r llinach, yw Alun Bach".

Cymeriad unigryw oedd y dyn dall, ac fe'i cofir am byth gan ei gyfoedion a phlant y pentref.

Agorodd y Baracs i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai 2004 a phe gallai’r muriau draddodi eu hatgofion mae’n debyg y byddai ganddynt gyfrolau o hanesion am hen deuluoedd a fagwyd oddi fewn tafliad carreg iddynt. Mae eu hepillion wedi chwalu fel mân us drwy'r dyffryn, a thu draw, erbyn hyn ac ac fel y dywedodd un alltud o'i fro, sef y diweddar R.O Hughes yn ei delyneg hiraethus am Nantlle:

"Y Chwarel a chwerwodd, a'r efail arafodd,
A'r bechgyn a'i carodd, a fudodd o'r fan.
Mae gweithfa y cannoedd o bennau teuluoedd
Ardaloedd, yn lleoedd dylluan."

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys