Hanes Dyffryn Nantlle

Nantlle

 
 
 

Baladeulyn Ddoe a Heddiw

gan Thomas Alun Williams

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Rhagair
2.   Baladeulyn
3.   Cyn dyfodiad Iorwerth(Edward) 1af i'r fro
4.   Edward 1af yn Nantlle
5.   Mynyddoedd Nant Nantlle
6.   Llynnoedd Nantlle
7.   Afonydd Nantlle
8.   Ffermydd Nantlle
9.   Rhos Pawl
10. Margaret Evans (Marged Fwyn Uch Ifan)
11. Talymignedd Isaf
12. Ffridd Baladeulyn
13. Yr Hen Dŷ Mawr
14. Castell Caernowy
15. Gwernoer
16. Tŷ'n y Nant, Nantlle
17. Yr Ysgol Sul gyntaf ym Maladeulyn
18. Addasu'r Festri yn Gapel
19. Y Cyfnod Rhwng Rhyfeloedd
20. Band Deulyn 1880
21. Y Brodyr Francis 1876-1936
22. Dim Trafnidiaeth 1925-27
23. Adloniant cyn 1939
24. Papur Wythnosol Clwb Ieuenctid Nantlle
25. Dyddiadur y Clwb
26. Nodion o'r Nant
27. Colofn y Beirdd
28. Y Clwb Ieuenctid
29. Eto o'r Gorffennol
30. Hynafiaethwyr
31. Baladeulyn, Nant Nantlle Heddiw
32. Rhestr o enwau'r Chwareli


Rhagair

Nantlle (Nant Lleu)

O ddyffryn hedd, O ddyffryn hardd
Wyt Eden Ardd i fardd i fyw;
Wyt bur baradwys mab a merch
A’r llannerch dlysa’ greodd Duw.

Griffith W Francis

Dyfynnaf eto farddoniaeth y Prifardd R Williams Parry; fel y disgrifiai ef ymgom ar ddull soned rhwng "Ymwelydd" a "Brodor" yn Nyffryn Nantlle "Ddoe a Heddiw":

Ymwelydd: Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy
A beth a ddaeth o’r ddâr oedd ar y ddôl?
Brodor : Daeth dau wareiddiad newydd i’n dau blwy,
Ac ni ddaw Lleu i Ddyffryn Nantlle’n ôl.
Ymwelydd: Pwy yw rhain sy’n disgyn hyd ysgolion cul
Dros erchyll drothwy chwarel Dorothea?
Brodor: Y maent yr un mor selog ar y Sul
Yn Saron, Nasareth a Cesarea.
Ymwelydd: A glywsant hanes Math yn diwyd weu
Deunydd breuddwydion yn y broydd hyn?
A glywsant hanes Gwydion yntau’n creu
Dyn o aderyn yma rhwng dau lyn?
Brodor: Clywsant am ferch a wnaeth o flodau’r banadl
Heb fawr gydwybod ganddi, dim ond anadl.

R Williams Parry

Awn yn ôl i "Ddoe" y Mabinogion, lle cawn hanes Lleu ym mhedwaredd gainc y Mabinogion, ynghyd â Math fab Mathonwy a Gwydion. Erlidiwyd Lleu gan ei elynion ar gais ei wraig, a throdd ei hun yn eryr gan ffoi i ddiogelwch canghennau’r dderwen fawr ar lan llyn Nantlle, lle daeth yr hwch i wledda ar y darnau cig a ddisgynnai oddi wrth Lleu, nes i Gwydion ddod heibio a’i droi’n ôl i’w fodolaeth naturiol.

[ Yn ôl i'r Top ]

Baladeulyn

Ystyr y gair "bala" yw lle'r ymarllwys afon sy'n cysylltu rhan o dir rhwng dau lyn, sef yn y cyswllt hwn, Llyn Uchaf a Llyn Isaf Nantlle, ond ysywaeth, "Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy", lle rhedai Afon Llyfni ar ei chwrs trwy'r Dyffryn i'r môr.

Buan y'n dysgodd bywyd
Athrawiaeth llanw a thrai,
Rhyngom a'r ddôl ddihalog
Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.

R. Williams Parry

Y ddôl ddihalog hon oedd Dôl Pebin y Mabinogion, cyn i rwbel chwarel y Gloddfa Glai gael ei ymarllwys arni a'i hagru. Mae sôn y bu i Iorwerth 1af gynnal ei dwrnameint arni, ond yn sicr bu rhan ohoni yn faes pêl-droed i dîm y Talysarn Celts am flynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond ar arferion Cymru fad
Newid ddaeth o rod i rod,
Mae cenhedlaeth wedi mynd
A chenhedlaeth wedi dod.

yn ôl Ceiriog

[ Yn ôl i'r Top ]

Cyn dyfodiad Iorwerth (Edward) 1af i'r fro

Arglwydd Baladeulyn oedd Tudur ab Engan, (neu Einion), disgynydd i'r tywysog Owain Gwynedd o Eifionydd. Chwaer Engan oedd Sena neu Senena a briododd Gruffydd ab Llywelyn, a oedd yn fam i Llywelyn ab Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, a mab Engan oedd Tudur ab Engan.

Pan ddaeth Iorwerth 1af i aros ym Maladeulyn, ysbeiliwyd Tudur o'i holl diroedd trwy drachwant y frenhines Matilda, gwraig Iorwerth 1af. Ond trwy sefydlu heddwch rhwng Cymru a Lloegr fe anfonwyd deiseb wedi ei hysgrifennu yn Lladin at y Brenin Iorwerth yn erfyn am y tiroedd yn ôl. Fe ganiatawyd hynny ac fe'i harwyddwyd gan Tudur ab Engan, a'i chwaer Gwerfyl - yn ôl ysgrif William Ambrose ar hanes Dyffryn Nantlle.

Dywedir mai Tŷ'n y Nant oedd cartref Tudur ab Engan pan arhosodd Iorwerth 1af ym Maladeulyn, ac yno yn ôl y traddodiad y ganwyd Tywysog Cymru a'i gymryd yn ddirgel i Gastell Caernarfon, ond nid oes sicrwydd na sail i'r hysbysrwydd hwn.

Yng nghyfnod Iorwerth 3ydd sefydlodd hiliogaeth Cilmin Droed-ddu yn gynnar yn Nantlle. Disgynyddion Cilmin oedd Ednowen a Philip, y naill yn etifeddu Bodfan gerllaw Dinlle, a’r llall Lynllifon. Yn ôl William Ambrose, gor-ŵyr Ednowen oedd Ieuan, i’r hwn oedd mab o'r enw Einion, a mab Einion oedd Gronw yr hwn oedd yn dad i Tudur Goch, Nantlle. Roedd yn enwog fel rhyfelwr ym myddin Edward 3ydd, ac ymladdodd o dan ei faner ym mrwydr Cressey 1346, a thrachefn ym myddinoedd Iorwerth y Tywysog Du yn Poitiers yn 1356 pan garcharwyd brenin Ffrainc, ac fel ffafr i Tudur Goch fe roddodd Iorwerth 3 ydd dir iddo yn y Nant, neu Baladeulyn, ac adeiladodd Blas yn Nantlle.

[ Yn ôl i'r Top ]

Edward 1af yn Nantlle

Lleolwyd pentref Nantlle yn y pen dwyreiniol i’r Dyffryn, yn terfynu â phentref Drws-y-Coed, ac yn y lle hwn y dywedir i’r Rhufeiniaid ddechrau mwyngloddio am gopr. Ar y pryd fforestydd trwchus oedd y Nant lle y llechai anifeiliaid gwylltion, megis ceirw, bleiddiaid a llwynogod a baeddod gwylltion.

Gorchfygodd Edward 1af y tywysogion Cymreig, a chychwyn ei ymgyrch gyda’i farchogion a’i luoedd drwy ddyffryn Betws Garmon i Ryd-Ddu, heibio i Lyn Cwellyn. Fe wersyllodd ger Llyn y Dywarchen am rai dyddiau oherwydd ei fod wedi mwynhau'r tawelwch a’r golygfeydd godidog o’r Wyddfa a mynyddoedd Eryri.

Mae rhamant hefyd yn draddodiadol gysylltiol â’r fangre hon rhwng Llyn Bwlch-y-Moch a Llyn y Dywarchen, lle syrthiodd mab fferm Drws y Coed Uchaf mewn cariad ag un o ferched y Tylwyth Teg, a magu teulu yma. 'Does ryfedd i rai o’r bythynnod gael enwau fel Llwyn y Forwyn, a’r Foty, er côf am ‘Penelope’ y ferch brydferthaf o’r Tylwyth Teg. Ond diflannodd yn ôl at ei phobl pan fu ei gŵr mor anffodus â’i tharo â haearn oedd yn gysylltiol â ffrwyn yr ebol y ceisient ei ddal i’w werthu yn y farchnad yng Nghaer-yn-Arfon.

Hanes arall y dywedir ei bod yn gysylltiol â’r fangre hon yw’r stori honno am filwyr arfog Edward 1af ym marchogaeth heibio i Lyn y Dywarchen. Fe ffodd yr hen wraig, mam Howel ac Ifor gyda’i meibion am eu bywyd ar draws y llyn yn eu cwch a safodd yr hen wraig â’i breichiau i fyny gan felltithio’r gelyn yn ei chynddaredd a’i digofaint danllyd wrth ddianc o’r golwg yn y cwch.

Teithiodd Edward 1af fel y soniwyd eisoes i lawr y dyffryn, ac aros am ychydig i adgyflenwi ei osgorddlu, ac yna ymlaen i ystablu ei feirch yn yr Hen Dŷ Mawr Nantlle, gan gynnal ei dwrnament ar wastadeddau Dôl Pebin, yna cyhoeddodd enedigaeth ei fab cyntaf, a'i drosglwyddo i'r werin Gymreig fel Tywysog Cyntaf Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1282.

Cyn dyfodiad Iorwerth 1af i Eryri roedd y cymoedd hyn ym meddiant y Tywysogion Cymreig o amser Owain Gwynedd 1137, pryd oeddynt yn berchen ar balasdai a llysoedd. Roeddynt yn hoff o hela yn Fforestydd Brenhinol yr Wyddfa, a gelwid y tywysogion yn Arglwyddi yr Wyddfa. O ganlyniad i hyn roedd yn rhaid i helwyr cyffredin gael trwydded i hela wedi ei harwyddo gan y brenin neu'r tywysog. Un o Lysoedd yr Wyddfa oedd Llys Llywelyn ym Maladeulyn, Nant, Nantlle. Tystir bod olion sylfeini'r llys hwn yn awr o dan domennydd rwbel chwarel Pen yr Orsedd yng Ngheunant Tŷ'n Nant Uchaf, a bod cegin yn y cae ger y llyn yn perthyn i'r llys, erbyn heddiw mae cae ger Plas Baladeulyn ger y llyn yn dwyn yr enw 'Cae Gegin Bach'.

[ Yn ôl i'r Top ]

Mynyddoedd Nant Nantlle

Dechreuwn enwi'r mynyddoedd o'r pen dwyreiniol i'r Nant. Yn y canol, rhwng y Mynydd Mawr a Craig y Bere, a'r Garn Farchog saif 'Y Garreg', sydd yn ymestyn i'r Bwlch Cyfyng ar ben allt serth Drws-y-Coed, ac wrth odre Cwm Meredydd sydd yn wynebu'r Benallt a Rhos Pawl ar dir y Gelli Ffrydiau.

Rhwng Rhos Pawl a chesail y Mynydd Mawr fe gawn Cwm Cerwin; lle traddodiadol ei hanes yn yr hen amser. Dywedir mai yn y cwm yma y cosbid troseddwyr, drwy eu rhoddi mewn casgen gauedig a hoelion wedi eu curo iddi, ac yna gollwng y troseddwr i lawr y cwm yn y gasgen, i'w drancedigaeth.

Os canlynwn yr ochr ogleddol i'r Dyffryn fe gyfyd y tir yn uchel uwchben Ceunant Tŷ'n Nant gan ymestyn tua'r gorllewin i Fynydd y Cilgwyn, heibio i Barc y Fodlas Talysarn a'r Clogwyn Melyn.

Mae mwy o gymoedd ar yr ochr ddeheuol i'r dyffryn, yn dwyn yr enwau, Cwm Talymignedd Uchaf, Bwlch Whiscin, Crib y Ddysgl, Cwm Talymignedd Isaf, Bwlch Tros Bera, Cwm Silyn, neu'r Graig Las yn lleol, Clogwyn Mawr a Chraig yr Ogof, ac yn gysylltiol â'r Graig Goch a Chwm Dulyn uwchben pentrefi Tan-y-rallt, Llanllyfni, Nebo a Nasareth.

[ Yn ôl i'r Top ]

Llynnoedd Nantlle

Roedd dau lyn yn Nantlle yn yr hen amser ond wedi dyfodiad y diwydiant cynhyrchu llechi-toi a datblygu chwareli ar hyd a lled y dyffryn, roedd yn orfodol newid cwrs afon Llyfni a gwacau y dŵr o'r Llyn Isaf Nantlle. Cyn hyn roedd cwrs yr afon yn arwain i ochr dde y dyffryn heibio i odre Pen-y-Bryn, lle roedd Sarn-Wyth-Dwr, lle roedd llwybr i groesi'r afon drwy gamu ar yr wyth maen yn yr afon fesul un, ond o ganlyniad i agor gwely newydd i'r afon a'i gwneud ar ddull camlas yn syth drwy ganol y dyffryn hyd Llanllyfni i'r môr, bu dylif i dwll Dorothea yn 1891 ac fe gladdwyd y pentref bach o'r enw Tre-grwyn o dan domennydd rwbel y chwareli, ac hefyd y Sarn-Wyth-Dwr, ac mae'n debyg mai'r enw a roddwyd i'r pentref chwarelyddol oedd Talysarn (Talysarn). Digwyddodd i'r dŵr dorri i mewn i'r twll chwarel am yr eildro yn y dau ddegau, ac fe fu angen injian bwrpasol i godi'r dŵr o'r twll rhag iddo foddi, ond erbyn heddiw mae'r twll yn llawn dŵr, a'r injian yn segur ers rhai blynyddoedd.

Mae dau lyn arall o olwg pentref Nantlle, sef llynnoedd Cwm Silyn a Llyn Dulyn ger y Graig Goch. Un llyn sydd ar yr ochr ogleddol i Nantlle, hwnnw yw Llyn Ffynhonnau, wrth odrau'r Mynydd Mawr yn agos i bentref Y Fron.

Yn y ddeunawfed ganrif daeth amryw o arlunwyr enwog o Loegr i ddarlunio yr Wyddfa a Llynnoedd Nantlle, megis Richard Wilson RA 1714-1782, John Warwick Smith 1797 a Cornelius Varley 1781-1873, hefyd Turner. Mae'r llun o waith yr enwog Richard Wilson RA yn crogi ar fur y Walkers Art Gallery yn Llynlleifiad (Liverpool).

[ Yn ôl i'r Top ]

Afonydd Nantlle

Y brif afon sydd yn rhedeg drwy'r dyffryn yw Afon Llyfnwy neu Llyfni, a'i tharddiad yn y pen dwyreiniol i'r dyffryn o Lyn Bwlch-y-Moch uwchlaw pentref Drws-y-Coed. Rhed i Lyn Uchaf Nantlle, ond yr enw cyntefig ar y darn yma o'r afon yw Afon Gopr am fod y dwfr yn llifo oddi ar y mwynfeydd copr a phlwm, oedd yn amharu ar burder y dŵr, ac nid oedd yr un brithyll yn gallu byw yn y dŵr, oedd wedi ei ddifwyno gan waith copr Drws y Coed. Cawn wedyn yr afon yn cysylltu dau lyn, sef Afon Bala, lle byddem fel plant yn ymdrochi yn y trobwll cyn i'r dŵr ddiflannu drwy wely'r hen Lyn Isaf i lawr y dyffryn drwy Dalysarn.

Fe arllwys mân afonydd eraill eu dyfroedd i Afon Llyfnwy. Yn gyntaf, ar y dde i'r dyffryn, rhed Afon Gelli Dywyll o dir Talymignedd Uchaf i Afon Gopr, ac yna Afon Talymignedd Isaf, a'r nesaf wedyn yw Afon Rhydus yn nhir y Ffridd ac yn derfyn i'r ddwy fferm. Y nesaf yw Afon Bach y Ffridd ac Afon Tŷ Coch, a Gwernoer ar derfyn ardal Nantlle.

Ar yr chwith i'r Dyffryn, cawn Afon Gelli Ffrydiau ac Afon Pontygelynnen, Afon Bach yr Ysgol ac Afon Caeronwy sydd yn llifo trwy Ceunant Tŷ'n Nant cyn llithro o'r golwg o dan domen rwbel chwarel Penyrorsedd gan ymddangos fel Afon Garth, cyn troi o dan y brif ffordd trwy ardd Plas Baladeulyn, ynghyd â'r rhai a enwyd, i ddyfroedd Llyn Uchaf Nantlle. Roedd un afon bach arall yn rhedeg drwy chwarel Penyrorsedd i dorri syched ceffylau a gwartheg fferm yr Ystablau, ac i droi yr olwyn ddŵr oedd yno, nes llifo yn ei blaen i gyflawni yr un broses o droi'r olwyn ddŵr yn y Felin, pan oedd y felin yn ei bri, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedyn am ychydig flynyddoedd.

[ Yn ôl i'r Top ]

Ffermydd Nantlle

Y ffermydd sydd yn amgylchynu'r llynnoedd a phentref Nantlle, i ddechrau o'r dwyrain, yw: Drws y Coed Isaf, Gelli Ffrydiau, Talymignedd Isaf, a'r Uchaf ac yn terfynu â Ffridd Baladeulyn, Tŷ Coch a Gwernoer ar yr ochr ddeheuol, ac ar yr ochr ogleddol cawn y Geulan, Yr Ysgubor a Chaeronwy, Blaen-y-Garth a Phen-y-Garth, yna Y Bryn, Plas Baladeulyn a Tŷ Mawr a Phen-y-Bryn. Y rhai hynaf o'r rhain yw yr Hen Dŷ Mawr, Gelli Ffrydiau, Ffridd Baladeulyn, Caeronwy (Caer Goronwy), y Talmigneddoedd, Y Geulan a Thiriogaeth Baladeulyn.

Yn yr olaf pan oedd Mr W A Darbyshire yn preswylio yno, fe gynaeafwyd silwair yn y dyffryn am y tro cyntaf trwy adeiladu lle pwrpasol i ddelio â'r broses. Roedd y gwair yn cael ei roi dan bwysau trwm yn yr adeilad, a'r pwysau'n cael ei godi a'i ostwng gan gadwyn a 'pulleys' gan wasgu'r silwair nes byddai 'r hylif neu'r sugiad yn ymarllwys a llifo allan drwy bibellau yng ngwaelod waliau'r ystafell, ac fel y byddai'r silwair yn poethi, ac yn cyneuafu byddai ei sawr fel tybaco yn ymledu oddeutu'r fangre, yn barod i'w falu, i gafnau'r anifeiliaid.

Mae hanes diddorol i hen Dŷ Gelli Ffrydiau, lle bu Angharad James yn byw; merch ydoedd i James Davies ac Angharad Humphreys ac yn ôl yr arferiad teuluol Cymreig, cymerwyd enwau cyntaf ei mam a'i thad yn enw cyflawn iddi hithau.

Breintiwyd Angharad James ag amryw dalentau, roedd yn gallu barddoni, ac yn hynod athrylithgar, wedi derbyn addysg uchel iawn, oherwydd bod ei rhieni mewn safon ariannol uwch na'r cyffredin ac wedi gofalu fod eu merch yn derbyn addysg o'r radd flaenaf a hynny yn fanteisiol iddi feistroli ieithoedd eraill, hefyd fe drwythodd ei hun yn yr iaith Ladin a dod yn hyddysg yng nghyfreithiau'r deyrnas.

Roedd gan Angharad delyn, ac yn ôl ei harferiad defosiynol, roedd yn dymuno ar ei theulu, ynghyd â'r gweision a'r morynion ddod at ei gilydd i ddawnsio cyn noswylio, yn swn y delyn. Clywsom yn yr ysgol, pan oeddem yn blant bach yn Nantlle, am hanes Angharad James, Gelli Ffrydiau, fel y seriwyd y geiriau hyn ar ein côf

"Mae tinc y delyn ar Glwt y Ddawns
Clywch Angharad yn tiwnio"

Pan gyrhaeddodd ei 20ain oed, fe ymfudodd ei theulu i'r Parlwr Panaman, Dolwyddelan, ac yno hefyd barhau i gadw'r hen ddefosiynau gyda'r delyn. Un o ddisgynyddion y teulu hwn oedd y Parchedig John Jones, Talysarn a bu ei frawd Parch David Jones yn pregethu yn y Gelli Ffrydiau yn ôl cofiant y Parch William Hobley yn Hanes Methodistiaeth Arfon. Fe fu William Hobley hefyd yn byw yn y Gelli ar un adeg ac mae marc y llythyren H ar ochr pob dafad yno ar ôl cyfenw Holby hyd heddiw.

[ Yn ôl i'r Top ]

Rhos Pawl

Rhan o dir Gelli Ffrydiau yw Rhos Pawl yn wynebu ar y Talmigneddoedd, ar yr ochr ddeheuol i'r dyffryn, ac yn terfynnu ar gesail y Mynydd Mawr. Mae rhamant yn perthyn i'r enw Rhos Pawl a dyma'r traddodiad a berthyn i'r enw. Dywedir fod llanc ifanc o fferm y Gelli wedi syrthio mewn cariad a merch Talymignedd Uchaf, ond fod tad y ferch yn anfodlon iddi hi ei briodi. Erfyniodd y llanc ar y tad, yn daer, am law y ferch nes cytunodd y tad o'r diwedd ar un amod, sef ei fod i fynd i fyny i ben Rhos Pawl yn noeth ar noson rewllyd ac aros yno hyd y bore. Yna disgwyliai'r tad i'r mab ifanc roddi i fyny ei gais os byddai'n fyw yn y bore. Derbyniodd y llanc yr her a'r amod, ac aeth a pawl gydag ef a bwyll a gordd er mwyn dyrnu'r pawl i'r ddaear a chadw ei gorff yn gynnes, tra cadwai'r gariadferch oleuni ei llusern yn ffenestr ei hystafell drwy'r nos. Fe lwyddodd y llanc i gadw ei waed yn gynnes drwy ddyrnu'r pawl i'r ddaear drwy'r nos, nes daeth y bore a phresennoli ei hun i'r ferch er mawr syndod i'r tad. Felly enillodd law ei gariadferch, a'i phriodi, ac anfarwoli'r enw Rhos y Pawl.

[ Yn ôl i'r Top ]

Margaret Evans (Marged Fwyn Uch Ifan)

Dywedir y ganwyd Margaret Evans, neu'n hytrach Marged Fwyn Uch Ifan yn Nhalymignedd Uchaf, Nantlle. Roedd yn enwog iwan am ei gwahanol dalentau, ac fe gadwodd dafarndy o'r enw Talernia islaw i Dyrpeg y Gelli, lle deuai mwynwyr Drws y Coed i ganu a thorri eu syched. Enw ei gwr oedd William ab Rhisiard.

Roedd ganddi ddwy delyn, ac yn swn y delyn byddai'r canu a'r dawnsio'n cymeryd lle. Roedd Marged yn berchen cwn hela, medrai wneud ei chwch ei hun a physgota ar Lyn Nantlle, hefyd roedd yn bencampwraig ar ymdaflu codwm ymysg y dynion, a gallai farddoni hefyd.

Cyfeirir at gae ger y Tyrpeg o hyd fel y Telerni. Ymfudodd ymhen amser i fyw i Nant Peris lle bu yn difyrru trigolion am gryn amser a rhoddwyd ei gweddillion i orffwys yn dawel yng ngweryd y fynwent yno.

Mae'r penillion cofiant canlynol iddi yn un o'r Cymru Fu:-

Mae gan Marged mwyn Uch Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan
Un i ganu'n nhre Caernarfon
A'r llall i gadw'r gwr yn fodlon
Mae gan Marged mwyn Uch Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan
Un i dynu'r cwn o'r gongl
A'r llall i dorri esgyrn pobol.

[ Yn ôl i'r Top ]

Talymignedd Isaf

Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnon y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Roedd bwthyn arall, sydd â'i adfeilion i'w gweled heddiw rhwng y ddau Dalymignedd, a elwid yn Nhalymignedd Ganol a llwybr yn cysylltu'r cyfan i gyd. Ymfudodd teulu Talymignedd Ganol i fyw i bentref Nantlle er mwyn canlyn eu bywoliaeth yn Chwarel Penyrorsedd. Cyfeiriwyd at y ddau frawd fel Dafydd Williams a Robert Williams, Talymignedd Ganol.

Mae perchenogion presennol y ddau Dalymignedd yn ddisgynyddion o ddau linach enwog, yng nghymdogaeth Arfon, sef llinach Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionydd 1544-1623 a changen enwog Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon yn Eifionydd.

Rhaid cofnodi yma fel y bu yr hen frawd Hugh Jones, Talymignedd Isaf yn flaenllaw iawn, yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o fynydd Meredydd yn 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r amgylchiad difrifol hwn ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel yn 1836. Rhaid rhoddi teyrnged o ddiolchgarwch a chlod i Hugh Jones am deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i ymofyn coed i adeiladu'r capel newydd. Fe lwyddodd hefyd i gael llechi toi yn rhad ac am ddim gan y boneddwr Mr W A Darbyshire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr chwarel Penyrorsedd.

[ Yn ôl i'r Top ]

Ffridd Baladeulyn

Mae adeilad newydd yn Ffridd Baladeulyn er pan ddaeth y chwareli llechi i'r dyffryn, oedd ar un amser yn perthyn i ystad Dorothea. Yma y magwyd dau o bregethwyr amlycaf eu hoes, sef John Roberts a Robert Roberts meibion Robert Thomas a Catrin Jones; ganwyd John Roberts ym 1752 a bu yn fugail ym Mlaenygarth, bu farw yn 82 oed yn 1834 a mab iddo oedd Michael Roberts. Mae llawer o'i hiliogaeth yn Unol Dalieithau'r America.

Arddelwyd Robert Roberts yn seraff ar lafar gwlad, nid oedd o gorffolaeth yn ddyn cryf, roedd nam ar ei iechyd, ond daeth yn enwog fel pregethwr ymysg y Methodistiaid Calfinaidd ac fe gyfeiriwyd ato fel Robert Roberts, Clynnog. Daeth ei frawd John Roberts hefyd yn enwog fel pregethwr ac fe'i gelwid yn John Roberts, Llangwm am mai yno y preswyliodd y rhan fwyaf o'i oes. Dychwelai rhai o'i ddisgynyddion o'r America i ymweld â Ffridd Baladeulyn, ac i dynnu llun y fferm lle magwyd eu hynafiaid. Bum mewn cysylltiad â rhai ohonynt pan alwasant yma a gadael copi o'u coeden deuluol gyda mi. Llawenydd i'r naill a'r llall oedd dilyn cysylltiadau teuluol ei gilydd, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.

Yn 1854 deuwyd o hyd i hen bwlpud carrreg a chanhwyllbren haearn yng nghyffiniau'r Ffridd. Aeth y ganhwyllbren i feddiant y Parch D O'Brien Owen ond nis gwyddis beth ddigwyddodd i'r hen bulpud cerrig.

[ Yn ôl i'r Top ]

Yr Hen Dŷ Mawr

Dyma un o'r tai hynaf ym mhentref Nantlle a'i hanes yn mynd yn ôl i amser Iorwerth 1af ac mae rhan o'i furiau yn mesur rhyw bedair troedfedd o led. Dywedir for Iorwerth 1af wedi aros yma am rai dyddiau ac wedi stablu ei feirch yn y stabl a chynnal ei dwrnament ar y dolydd cyfagos yn Baladeulyn a Dôl Pebin cyn dyfodiad oes y chwareli llechi.

Yn y flwyddyn 1826 yn agos i'r Hen Dŷ Mawr cafwyd dau fathodyn neu 'coin' o aur, ac ar un ochr iddynt roedd argraffiad o ddelw Iorwerth 1af yn eistedd mewn llong, a chleddyf yn ei law ac o'i amgylch yn argraffedig mewn hen lythrennau Lladin' EDWARD, DEI, GRA, REX ANGL, DAS HYB DAQUI'. Ar yr ochr arall roedd argraffiad o bedwar llew a phedair coron gyda'r geiriau canlynol 'ipse, aniem, Transienu, per, medium, morwm ibat'.

[ Yn ôl i'r Top ]

Castell Caeronwy

Yn y flwyddyn 1847 gerllaw Castell Caeronwy, daethpwyd o hyd i nifer o sylltau o ddathliad Harri'r 8fed, ac yn agos i'r un lle, cafwyd darn trwm o gopr toddedig a ddaeth yn eiddo i John Lloyd Jones, Baladeulyn, mab yr enwog Barchedig John Jones Talysarn.

[ Yn ôl i'r Top ]

Gwernoer

'Roedd Plas Gwernoer yn yr hen amser yn terfynnu ar fferm Tŷ Coch, oedd ar lan Llyn Isaf Nantlle, hen gartref y Parchedig David Hughes, dyn diwylliedig iawn a fu yn ddarlithydd Coleg Caergrawnt, lle arhosodd ar hyd ei oes. Mae cofeb iddo yn y coleg enwog hwn i gofio am ei ysbryd haelionus a haelfrydig. Rhannodd ei holl eiddo rhwng ei berthnasau a thlodion Cymreig ei oes.

[ Yn ôl i'r Top ]

Tŷ'n y Nant, Nantlle

Soniwyd eisoes am Tŷ'n y Nant lle bu gynt blasty gan y pendefigion, ond sydd bellach o dan gladd tomenydd rwbel Chwarel Penyrorsedd. Yno roedd Llys a Gorsedd y Tywysogion Cymreig. Cloddiwyd yn y garnedd fawr oedd yma a daethpwyd o hyd i ysten bridd yn llawn lludw a golosg a'i hwyneb i waered. Barnai y Parchedig John Jones mai yma y claddwyd Mabon ab Maldron oherwydd yn ôl englyn y beddau, fod ei fedd yn ucheldir y Nant Lleu, sef yr un lle â Nantlle.

[ Yn ôl i'r Top ]

Yr Ysgol Sul gyntaf ym Maladeulyn

Yn ôl cofiant y Parchedig Williams Hobley, a thrwy gymorth cofiant fy hen daid Owen J Hughes, Y Grafog, fe ddywedir fod y Methodistiaid wedi cynnal pregethu a hefyd sefydlu ysgolion Sul cyntaf yn Gelli Ffrydiau a Ffridd Baladeulyn. Pan ddaeth y diwydiant llechi i'w lawn fri yn Nyffryn Nantlle, dywed Owen J Hughes mai yn Hen Dŷ'r Felin tua 1857 y dechreuwyd cynnal Ysgol Sul am encyd o amser. Cynorthwyid y sefydliad gan John Robinson, Talysarn, yr hwn oedd yn flaenor, ac yn dylanwadu ar John Lloyd Jones yn y Plas i'w gynorthwyo. Roedd yno bedwar ar bymtheg o aelodau yn bresennol ac fe symudwyd drachefn i'r Hen Dŷ Mawr Arhoswyd yno am ddwy flynedd gan gynyddu mewn aelodaeth i 80 neu 100 o nifer.

Yn 1859 casglwyd £87 i adgyweiriwyd ac addasu'r Hen Ysgubor yn Hen Dŷ Mawr, a chafwyd cyfarfod pregethu ar Lun y Pasg dilynol pryd y gwasanaethpwyd gan Robert Hughes Uwchlaw'r Ffynnon, J Jones Brynrodyn ac Edward Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhalysarn.

Erbyn 1862 roedd yr Hen Ysgubor lle'r oedd 134 o eisteddleoedd, yn dechrau mynd yn rhy fychan i'r aelodaeth ac fe godwyd pris eisteddle i 6c y chwarter.

Hwyrfrydig fu i'r cyfarfod misol sefydlu achos ym Maladeulyn, ond trwy gymorth John Lloyd Jones cafwyd darn o dir i godi capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn 1865, a thynwyd y brydles allan yn 1866, am 60 mlynedd, gyda £1 y flwyddyn o rent i'w dalu i stad Hughes Kinmel. Yn 1895 fe gyflwynwyd tir 1540 llathen sgwâr ynghyd â'r adeiladau, i'r cyfundeb.

Yn yr amser hwn nid oedd ond rhyw 20 o dai yng nghymdogaeth y capel a phobl ifanc yn dechrau sefydlu yn y pentref.

Arweinydd yr achos oedd J Robinson ond J Lloyd Jones oedd yr arweinydd naturiol, David Davies yn Ysgrifennydd ac O J Hughes yn Arolygwr cyntaf yr Ysgol Sul.

Richard Davies Caernarfon oedd yr adeiladydd, a'r to yn dri math o lechi o liw glas a choch, seddau o ffawydd coch heb ddorau, y pulpud o binwydd pyg cyrliog, a'r llawr o deils amryliw, nenfwd hanner crwn tair ar ddeg o ffenestri, pedair o lampau pres gyda thair cainc i bob un.

Codwyd hefyd dŷ capel yr un pryd, ac ar Chwefror 27 1865 traddodwyd y ddarlith gyntaf yn y capel gan David Saunders ar Lywodraeth y Pab. Cafwyd elw o £20, a'r dyddiau canlynol fe bregethwyd gan Owen Jones, Plas Gwyn; John Griffiths Bethesda a David Saunders.

Yn 1867 dewisiwyd William Thomas a J Michael Owen i'r swyddogaeth, ac yn 1872 rhoddwyd galwad i Evan Owen i fugeilio'r eglwys ac arhosodd am 14 o flynyddoedd. Ymfudodd J Lloyd Jones o'r Baladeulyn i fyw i'r Bontnewydd yn 1874 ac yn 1876 dewiswyd Edward Davies yn drysorydd.

Yn 1884 dewisiwyd blaenoriaid newydd sef Thomas Roberts, Caeronwy, yn 1887 John Jones y Geulan, Thomas Evans a Richard Morris Griffiths, ac yn 1893 rhoddwyd galwad i'r Parchedig Morris Williams o Langwm i ddod yn weinidog i Baladeulyn MC.

Yn 1900 tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd capel newydd. Y pensaer oedd R Lloyd Jones Caernarfon, a'r adeiladydd oedd Richard Jones Llanwnda. Yr ymgymeriad oedd £2,700 a'r draul i gyd dros £3,000. Roedd dyled y capel cyntaf wedi ei dileu erbyn 1884 a'r ddyled ar y capel newydd erbyn diwedd 1900 yn £1,946. Roedd rhif yr eglwys ar y pryd yn 195 a'r plant yn 142.

Tynwyd yr ail gapel i lawr yn 1985 ac addaswyd y Festri yn Gapel.

[ Yn ôl i'r Top ]

Addasu'r Festri yn Gapel

Oherwydd cyflwr difrifol yr ail gapel nid oedd digon o arian wrth law i dalu'r gost o'i atgyweirio. Roedd tamprwydd mawr yn ei waliau, a'i goed yn ei furiau wedi eu hysu gan y pydredd sych a'r gwlyb, fel y bu raid i Bwyllgor yr Adeiladau, o dan lywyddiaeth y Gweinidog y Parchedig Brian M Griffith, fynd ar ofyn y Bwrdd Ariannol a Chronfa Fenthyg y Cyfundeb, a derbyniwyd £36,000 ganddynt. Derbyniwyd £1,000 gan gronfa Syr David James Pantyfedwen a £1,000 yn rhodd gan y Pwyllgor Gwaith. Rhwng rhoddion yr aelodau a charedigion yr eglwys a gwerthiant eiddo, seddau a llog y banc, cafwyd cyfanswm o £48,234. 38.

Y Penseiri oedd Robert Davies Partnership, a'r cwmni a ymgymerodd â'r gwaith dymchwel ac addasu oedd cwmni Brecon. Llwyddwyd i gadw pulpud, ffenestri lliw, cerrig ffrynt, a drysau yr hen gapel.

Yn y cyfamser bu'r eglwys yn cynnal oedfaon y Sul yng Nghapel Drws y Coed, gyda mawr ddiolch i garedigrwydd yr aelodau yno, o Ionawr 1985 hyd Dachwedd 1985 pryd y cafwyd Cyfarfod Agoriadol arbennig ar nos Wener Tachwedd 8fed gyda'r Parchedig Brian M Griffith yn ôl o Gapel Tegid a Llanfor, y Bala, i roddi ei anerchiad a'i genadwri i'r eglwys.

Erbyn heddiw, mae Eglwys MC Baladeulyn heb weinidog, ond y mae paratoadau ar y gweill eto i dderbyn Bugail. Er i ni golli'r Parchedig Geraint Roberts a ddilynodd y Parchedig Brian M Griffith, mae'r eglwys yn dal i flodeuo ac yn ddi-ddyled ariannol, ond ysywaeth mae nifer yr aelodau wedi lleihau i 39 a dwy flaenores, nifer y plant yn 3 a'r Ysgol Sul yn 8.

Mae dwy gofeb yn y cynteddau i gofio'r bechgyn a syrthiodd yn y ddau Ryfel Byd, un oddi mewn i'r porth a'r llall yng ngardd y capel yn wynebu'r ffordd bost, ynghyd â cholofn ac enw'r capel.

[ Yn ôl i'r Top ]

Y Cyfnod Rhwng Rhyfeloedd

Y Blaenoriaid cyntaf i mi eu cofio yn y set fawr cyn fy arddegau oedd Thomas Roberts, Caeronwy a ddilynwyd gan ei fab William Thomas Roberts, Thomas John Davies, Prifathro yr Ysgol, Thomas Evans, chwarelwr ac amaethwr, Evan Thomas Hughes, swyddog yn y chwarel, John Edward Roberts Blaenygarth, Owen John Hughes (Y Grafog) taid fy mam, a fu yn flaenor am 40 mlynedd ac yn ddiweddarach Jonathan Parry Pritchard, prif beiriannydd y chwarel, Y gweinidog o 1893 - 1930 oedd y Parchedig Morris Williams gynt o Langwm ac a ymddeolodd i fyw i Lanwnda ynghyd â Miss Richards ei warchodwraig. Roedd y cyn drysorydd Richard Morris Jones wedi ymddeol o Siop y Felin i fyw gyda'i briod i Roslan, Cricieth, yn 1914.

Yn nechrau'r 30au derbyniwyd y Parchedig R J Powell yn Weinidog yr Eglwys. Brodor o Drawsfynydd oedd ef a chartrefodd yn Nantlle gyda'i wraig Mrs E Powell a Mair ym Mronallt (Tŷ'r Capel) am rai blynyddoedd, cyn ymddeol i Lerpwl. Roedd bri mawr ar y Gobeithlu a'r cyfarfodydd darllen a'r cyfarfodydd gweddi. Fe weithiodd yn ddiflino hefo pobl ifanc yr eglwys ac yn yr Ysgol Sul yn y Capel, a'r Festri nes torrodd yr Ail Ryfel Byd allan yn 1939. Dyna ddechrau y gostyngiad yn nifer yr aelodaeth, fe ddistawodd y gân i raddau yn y set fawr, fe chwalwyd y bechgyn ifainc fel mân us i bedwar ban y byd. Ond fe ddaliodd Mr Powell i ysgrifennu a chysylltu â'r bechgyn, ynghyd â rhai o'r blaenoriaid oedd gynt yn athrawon ysgol Sul. Gofalwyd fod gan bob un o'r bechgyn Destament Newydd yn anrheg gan yr eglwys ym Maladeulyn, a bu hwn yn crwydro'r byd gyda mi drwy chwe blynedd alaethus yr heldrin.

Fe etholwyd pwyllgor "Cysuron y Milwyr" yn y pentref ac agorwyd cronfa gogyfer â hyn i'r milwyr gan y pwyllgor. Y Trysorydd oedd Harry Lloyd Roberts, a'r Ysgrifenyddes oedd fy chwaer Ella Williams, roedd ei swydd hefyd fel clerc i Adran Filwrol y Barics yn Nhref Caernarfon. Cafodd lawer o gymorth drwy law y Brodyr Pritchard, Y Porth, Caernarfon yn aml yn rhad ac am ddim, i gludo pebyll a chelfi ayb, i gynnal ymrysonfa cwn defaid, dawnsfeydd a chyngherddau i chwyddo cronfa Cysuron y Milwyr.

Daeth gorfoledd a thristwch yn 1945 i'r pentref, pan ddaeth dydd Cadoediad yr Ail Ryfel Byd yn 1945. Collwyd 4 o'r bechgyn, rhoddwyd gollyngdod (discharge) i 10 a'r nifer a ddychwelodd yn rhydd ar ôl gwasanaethu'r Brenin Siôr a'r wlad oedd 33, y cyfanswm yn 47.

Daeth Pwyllgor Cysuron y Milwyr i'r penderfyniad beth i'w wneud â'r gronfa oedd ar eu llaw, ac anfonwyd llythyr at bob un o'r milwyr yn cynnig un o dri chynnig iddynt i bleidleisio arno. Dyma'r tri chynnig ond un i'w ddewis:-

Cael llwybr cyhoeddus i amgylchu Llyn Nantlle, gan fod y ffermydd yn cytuno i'r cais;
Codi Neuadd Bentref ar dir y Chwarel;
Rhannu'r arian rhwng y cyn filwyr.

Pleidleisiodd y mwyafrif ar y trydydd cynnig sef rhannu'r arian a rhoddwyd £6 i bob un o'r 47 cyn filwyr. Deuddeg ohonynt a ddewisodd y cynnig cyntaf. Roedd arian y milwyr mor brin a rhai yn briod ac angen cychwyn bywoliaeth o'r newydd, fel y gorfodwyd pawb i grwydro o'u bro i ddilyn galwedigaeth newydd a chodi cartref dros y ffin yn Lloegr. Nid oedd y chwareli mwyach yn eu denu, a dyfynaf eiriau un o gyn filwyr y Rhyfel Gyntaf oedd yn amserol iawn ar ôl yr Ail Ryfel Byd:

"Y chwarel a chwerwodd, a'r efail arafodd,
A'r bechgyn, a'u carodd, a fudodd o'r fan,
Mae gweithfa y cannoedd o bennau teuluoedd
Ardaloedd, yn lleoedd dylluan".

R O Hughes, Nantlle

[ Yn ôl i'r Top ]

Band Deulyn 1880

Yn ystod chwarter olaf y 19eg ganrif, pan oedd y chwareli llechi yn llawn bri, fe ddaeth Band Deulyn i fodolaeth dan faton William Derby, goruchwyliwr Gwaith Plwm a Chopr Simdde'r Ddylluan, Drws y Coed. Un o Gernyw oedd ef yn enedigol, ac fe ddysgodd ychydig o Gymraeg drwy droi i mewn i oedfaon y Sul ym Maladeulyn, ac yno fe ymbriododd ag Ann Hughes, merch hynaf yr hynafieithydd Owen J Hughes, Grafog, taid fy mam.

Ymfudodd y teulu o Nantlle i Seland Newydd yn 1881 gydag un ferch fach, Matilda, pedwar mis ar ddeg oed.

Noddwyd y Band gan y boneddwr William A Derbyshire, Plas Baladeulyn, trwy roddi iddynt yr offerynnau yn rhad ac am ddim trwy gwmni Chwarel Penyrorsedd, Nantlle. Enillodd y Band amryw o gystadlaethau ac fe'u hanrhegwyd a medalau wedi iddynt ennill mewn cysatadleuaeth yn y Rhyl.

Ar ôl ymadawiad William Derby a'r teulu i Seland Newydd, fe drosglwyddwyd arweiniad Band Deulyn i ddwylo William G Jones (Corn Mawr) . Roedd pedwar o'i feibion, a'i wyr Willie J Jones, yn aelodau o'r Seindorf. Soniodd Richard W Jones, mab hynaf W G Jones, am ei brofiad fel aelod o'r band pan nad oedd ond yn 9 oed a rhai bandiau lleol wedi ymgynnull yn Llandudno i ddathlu agoriad swyddogol y Pier. Yntau yn sefyll yn y rhes uchaf o'r llwyfan pan darawodd y bandiau y nodyn cyntaf mor darawiadol fel y cwympodd y llwyfan sigledig dan y cynhyrfiad ysgubol, nes gadael Richard ac eraill ar y sedd uchaf un oedd heb lithro ar y llwyfan. Fe'i hachubwyd o'i uchelfan gan ei gyd offerynwyr.

Ymunwyd Band Deulyn ymhellach ymlaen â Band Talysarn a'i enwi yn Nantlle Vale Band, o dan arweiniad William G Jones, a chawsant y fraint o berfformio yn y Palas Grisial, Llundain, ac ychwanegu y 'Royal' at yr enw, serch y Nantlle Vale Royal Silver Band.

Mynych y deuai'r Band o gylch y pentrefi i godi arian ar gyfer cystadlu yn y Belle Vue, Manceinion. Ar un achlysur roeddynt wedi dod i Blas Baladeulyn i wasanaethu Mr a Mrs Stonor, o flaen eu harweinydd hwyrol Johnnie Evans, Penygroes. Brysiodd yntau ar gefn ei feic trwy'r hen ffordd bryd hynny, rhwng Talysarn a Nantlle, pan ddigwyddodd iddo gael damwain angheuol ar allt Bryn Gopr ger Pen y Bryn. Arswydwyd yr holl Ddyffryn gan y newydd trychinebus hwn ac fe arwyddwyd y fangre dwyllodrus hon â chroes wen ar ymyl y wal, gan Owen Jones, Hen Blas Nantlle, er cof am yr arweinydd medrus Johnnie Evans.

[ Yn ôl i'r Top ]

Y Brodyr Francis 1876 - 1936

Dau frawd a roddodd Baladeulyn, Nantlle, ar y map, yn y dauddegau, oedd y Brodyr Francis, pencampwyr canu penillion. Bardd oedd William G Francis a'i gyfraniad o farddoniaeth ardderchog a gyflwynodd i'w fro a'i gydoeswyr yn ei lyfr Telyn Eryri. Owen William Francis, ei frawd, oedd yn gerddor, a gyfansoddodd donau i emynau'r gwahanol enwadau yn y Dyffryn trwy eu galw yn Nantlle, Glyn a Meira, (dau o'i blant); eu cyfeilydd dilys a chlodwiw oedd Robert Owen, Drws y Coed, a grwydrodd Gymru benbaladr i'w cynnal yn eu deuawdau enwog trwy Gymru, Lloegr ac Iwerddon.

Yn 1927 darlledodd y Brodyr, o dan nawdd y BBC, o Ddulyn, a chlywsom eu lleisiau gwefreiddiol dros y donfedd o Iwerddon. Eu hoff ganeuon oedd Y Border Bach, Pentref Bach Drws y Coed, Caru Cymru, Gwerfyl Arfon, Cyn Gollwng Cwn y Gelli, Melin Trefin, Stella, a'r emyn Carcharorion Angau. Bu eu henwau yn addurno ochrau pebyll mawr yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 20au cyn bod pafiliwn symudol, ynghyd ag enwau prifeirdd enwog Cymru cynt a phresennol yr oes. Colled fawr iawn i Nantlle a Chymru fu eu harwyl pan alwyd y ddau i'w hir hedd yn 1936.

Yn ystod yr un cyfnod â'r Brodyr Francis, roedd yn Nantlle dalentau o adroddwyr gwych iawn, ac wedi ennill clod a gwobrwyon mewn gwahanol eisteddfodau yng Nghymru. Un o rai blaenllaw ei oes oedd Llew Deulyn, sef Isaac Benjamin Williams, Tŷ Capel Nantlle a enillodd gadair gerfiedig o dderw du yn Eisteddfod Tywyn 1901 ac a fu yn hyfforddi rhai eraill fel Lizzie Jones (LJ) ac Eillion, D O Jones ei phriod, hefyd Robert Owen (RO) a gafodd yr un hyfforddiant gan Llew Deulyn. Byddem ni'r plant yn gwrando'n astud ar RO yn adrodd Mab y Bwthyn gan Cynan, ac yn mwynhau ei ddehongliad gwefreiddiol mewn ambell gyfarfod elusennol yn y festri.

Roedd yma dalentau ymysg y plant hefyd, ac fe berfformiwyd Cantata'r Adar, o dan nawdd y Gobeithlu a'i hyfforddi gan Evan John Hughes ac Evan Parry, goruchwyliwr y chwarel yn y 30au.

Yn ddiweddarach ar ôl yr Ail Ryfel Byd llwyddodd triawd o dair chwaer i gipio'r wobr o dan yr enw Brethyn Cartref yn yr Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965 sef Eryl, Marian a Heulwen Morris. Roeddynt yn haeddu clod bythgofiadwy yn hanes plant Baladeulyn yn y 50au.

Fel y dywed y Sais, 'self praise is no recommendation', caf gyfle i roddi pwt bach o'm llwyddiant fy hunan yma, wrth sôn am eisteddfodau, daeth tair gwahanol wobr gyntaf i'm rhan mewn gwaith metel yn eisteddfodau Llanrwst 1951, Rhyl 1953, Ystrad Gynlais 1954 ac yn ail mewn cytadleuaeth Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Caernarfon 1959, ac yn 1956 daeth yr anrhydedd o ennill y 'Messenger's Award' i'm rhan pan oeddwn yn dilyn cwrs hyfforddiant yn Ysgol Gofaint Arian a Gemwaith yn Hockley, Birmingham.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dim Trafnidiaeth 1925-27

Achlysur bythgofiadwy oedd cwymp y Ffordd Bost rhwng Nantlle a Thalysarn yn 1925 i Dwll Chwarel Dorothea. Digwyddodd hyn ddwywaith, er gwneud ffordd drwy Blasdy Talysarn i osgoi y man gwan yn ymyl y twll. Diflannodd y darn newydd hwn o'r ffordd i mewn i'r twll ar ôl i fws naw o'r gloch yr hwyr, o eiddo Jim Jones Caernarfon, fynd dros y fangre, er mawr waredigaeth i'r cyfryw rai oedd ynddo ar eu taith yn ôl am Gaernarfon. Testun diolchgarwch mawr iawn i ragluniaeth fu hyn am amser maith wedyn i drigolion yr ardal.

O hyn ymlaen rhaid oedd i bob teithiwr o Nantlle, os oedd am fynd o Nantlle i Gaernarfon, gerdded dwy filltir i gwrdd â bws Jim Jones, neu un Mrs Evans, Liod, i'r man terfynnol ger Pen y Bont Talysarn; ac os oedd am deithio ar y trên, rhaid oedd cerdded chwarter milltir ymhellach i orsaf rheilffordd Nantlle yn Nhalysarn.

Roedd pedair siop yn dibynnu ar eu nwyddau ar y pryd, ynghyd â swyddfa'r post. Gallai'r postmon ddod ar ei feic fel pawb arall a thramwy ar hyd y lein bach oedd yn rhedeg y wageni llechi o chwareli Penyrorsedd, Pen y Bryn a Dorothea a'u tynnu gan geffylau. Fe arhosai'r postmon ym mhentref Drws y Coed yn ystod y dydd ar ôl dosbarthu llythyrau yn y bore yn Nantlle ac yna eu casglu o'r blwch post yn yr hwyr drwy'r pentref i Benygroes.

Cyfnod anhwylus oedd hwn i achosion cynhebryngau, a digwyddodd amgylchiadau fel hyn ryw bedair gwaith pan fu raid i'r cerbydau droi o Nantlle drwy Ddrws y Coed, Betws Garmon, Waunfawr, Caeathro, Pontllyfni, i gyrraedd mynwentydd Macpela, Penygroes a rhai Llanllyfni yn ôl ac ymlaen fel bo'r angen.

Roedd yn ofynnol i ni fel disgyblion yn mynychu ysgol y Cownti, Penygroes, gael beic i fynd a dod, neu gerdded tair milltir a hanner, fel y byddai disgyblion yr oes o'r blaen yn gorfod teithio ar bob tywydd. Bum am ddwy flynedd yn beicio nes gwneud ffordd newydd trwy ochr ddeheuol y Dyffryn, a chodwyd tair pont i groesi'r afonydd rhwng y ddau bentref.

Rhaid oedd profi grym a chymhwyster y pontydd i ddal y pwysau a ddisgwylid gan drafnidiaeth ar y pryd. Rhoddwyd tair injian 'steam roller' arnynt i brofi nerth y pontydd cyn gollwng trafnidiaeth drostynt. Ymhen blynyddoedd wedyn roedd yn ofynnol cael eu hadgyfnerthu ymhellach gan fod pwysau lorïau a bysiau wedi trymhau a'u cyfyngu yn eu pwysau i nifer o dunelli.

[ Yn ôl i'r Top ]

Adloniant cyn 1939

Ar ddechrau'r 30au dechreuodd y dirwasgiad diwydiannol drwy'r wlad yn gyffredinol, a chododd nifer y di-waith i 2,000,000 yn ystod 1931 - 35; daeth partïon o lowyr o dde Cymru i gasglu arian at eu bywoliaeth i Nantlle a phentrefi eraill o'r Dyffryn. Cawsant wely a brecwast mewn llawer cartref chwarelwr ac ynghanol nosweithiau oer y Gaeaf roeddynt yn dal i ganu a chasglu y ceiniogau yn eu capiau. Roedd rhai yn aelodau o Eglwys y Parchedig Tom Nefyn yn y De ac yn fawr eu parch ohono.

Cyflog wythnosol y chwarelwr ar y pryd oedd £1.18.0 ac i ddyn wrth y dydd £1.15.0, efallai y codai'r cyflog ar ddiwedd y mis i'r chwarelwr oedd yn trin y llechi, i ryw £3 - £4, buan iawn y diflannai'r bonws hwn rhwng teulu o 6 neu ragor.

Ond er yr holl dlodi roedd bechgyn ifanc Nantlle yn creu eu hadloniant eu hunain. Y prif chwaraeon oedd dewis timau pêl droed, criced a choetio, yn yr haf roedd mynd mawr ar ddysgu nofio yn Llyn Nantlle, a mwynheid y mabolgampau trwy gystadlu, rhedeg a neidio a thaflu pwysau 14lb.

Diflannodd y cyfan erbyn heddiw, nid oes yma fechgyn ifanc yn ymddiddori yn hyn o adloniant, ond hwyrach fod cyfle i rai ohonynt berthyn i glwb pêl droed a chael cyflog a chostau teithio.

Cofiaf fel y byddai'r Pasg yn dynesu fel y byddai'r hysbysebion allan yn hysbysebu gornestion pêl droed yn Nhalysarn, Penygroes a Rhos Isaf ac fel y byddai'r timau yn talu swllt y pen o'u pocedi eu hunain am gael ymuno. Daeth y Gwpan un tro i dîm Nantlle, dan arweiniad y Capten Hywel Hughes (chwarelwr a ddaeth yn weinidog Egwlys yr MC ar ôl gyrfa yn y Coleg), gorchfygom dîm pêl droed ysgol ganolraddol Penygroes yn y ffeinal ar gae Alun, Tal y Maes a chawsom fedalau i bob un o chwaraewyr y tîm.

Ar ddydd Llun Diolchgarwch byddai'r bechgyn wedi casglu eu ceiniogau i brynu pêl droed ledr newydd yn siop Dafydd Sadler Penygroes a chael tun o 'dubbin' gan Dafydd i'w daenu dros y lledr i'w ystwytho a'i gadw rhag ofer lychu, y pleser mwyaf oedd cael mynd i'r cae pêl droed a chael gêm rhwng y moddion pnawn a'r hwyr.

Dewisiwyd tîm o'r bechgyn unwaith i gynrychioli Chwarel Penyrorsedd i chwarae mewn twrnameint cystadleuol oddi mewn i furiau Plas Glynllifon. Roedd hyn ar ôl diwrnod caled o waith yn y chwarel ac roeddym yn cystadlu yn erbyn tîm Emlyn Jones o'r Bontnewydd, ond colli 1 - 0 a wnaethom ysywaeth a chael ein taflu allan o'r ornest, er ein siom.

Fel y soniais eisoes roedd pob bachgen bron yn Nantlle wedi dysgu nofio, nid oedd angen gwell pwll nofio na Llyn Nantlle a deuai chwarelwyr hŷn i ymuno â ni ar ôl gorffen eu diwrnod gwaith. Unwaith ar brynhawn Sadwrn roedd tyrfa fawr wedi ymgasglu ar lan y Llyn i groesawu a chynorthwyo Twm Ddall o'r Fron, oedd am nofio ar draws Llyn Nantlle yng nghwmni'r ddau frawd Harry Lloyd a Bob Rees Roberts oedd eisoes yn hen gyfarwydd â mwynhau yr orchest hon. Roedd hefyd gwch wrth law i ddilyn y nofwyr ar brynhawn tesog ym mis Gorffennaf a thyrfa fawr o ddynion, merched a phlant wedi mwynhau yr amgylchiad bythgofiadwy ym mywyd un mor boblogaidd â Twm Ddall.

[ Yn ôl i'r Top ]

Papur Wythnosol Clwb Ieuenctid Nantlle

Y Cyfnodydd
Pris 1c
Golygydd: Owen M Roberts

Ar ôl dychwelyd yn ôl i'w gynefin fro yn Nantlle, a'i iechyd yn fregus ar ôl gwasanaethu ei wlad hefo'r llu awyr yn y wlad hon a thramor yn India, fe apwyntwyd fy nghefnder Owen Myfyr Roberts yn flaenor yn Eglwys MC Baladeulyn, ac fe fu yn gefn a chymorth mawr i'r achos yn y pentref nes daeth amser iddo ymfudo i gymeryd gofal un neu ddau o gapeli eraill yn ystod ei yrfa.

Roedd to o bobl ifanc newydd wedi codi erbyn hyn yn Nantlle, wedi eu geni a'u magu yn ystod yr ail ryfel byd ac ymgymerodd Myfyr â'r dasg o ffurfio Clwb Ieuenctid Nantlle, gan olygu a chyhoeddi'n wythnosol newyddion a gweithgareddau'r Clwb am 1c a rhifo'r tudalennau a'u dyddio. Dyfynnaf o un copi o'm heiddo, Rhif 7 Dydd Mercher Tachwedd 24 1954. Deallaf fod digon o newyddion i wneud taflen. Mae'n ofidus na fuasai'r taflenni hyn ar gof a chadw heddiw i glodfori'r diweddar Myfyr am ei holl ymdrech a'i weithgarwch gyda'r Clwb Ieuenctid yn Nantlle.

'Trech Gwlad nac Arglwydd'
Golygydd OM Roberts, Cynlas, Nantlle.

Dalen Ddyddiadur Chwefror 18fed 1951

Tywydd oer iawn er fod y gwynt o'r môr. Eira ar ben y mynyddoedd. Sylwi ar y gwellt yn glasu a'r catkins ar y Cyll, ychydig o'r adar yn canu. Rhaeadr y Rhydur yn llathr arian, y papurau newydd yn sôn am y tywydd anarferol o wlyb a gawn. Dau amaethwr yn teilo a codi rwdins. Y Llyn yn wyllt iawn gyda cnotiau o ewyn gwyn ar frig y tonnau ac un iâr ddŵr yn plymio ac yn codi o hyd ac o hyd. Yr Wyddfa yn wen o'i choryn i'w sawdl, dau wedi eu lladd wrth ei dringo yr wythnos diwethaf.

Chwefror 19 1951

Eira oer drwy'r bore a chenllysg yn y pnawn ond cliriodd yn gynnar a daeth yr haul i wenu. Roedd yr olygfa o Bont y Bala yn debyg i ryw olygfa yn yr Yswistir. Y Llyn yn lled dawel ac yn las, a'r mynyddoedd penau gwynion yn edrych ar eu llun o gylch y glannau oherwydd nad oedd y gwynt yn cyrchu cyrion y cylch.

Lliw arall oedd aur yr hesg ac fel y machludai'r haul, cochai'r eira ar y mynyddoedd. Daeth biolidowcar ar ei adain ddu, ryw hanner can troedfedd uwchben, gan hedeg yn hamddenol tua'r llyn isa ac fel yn synhwyro fy mod i odano, cyn cymeryd tro sydyn a newid ei gwrs. Roedd yr afon yn llif mawr a'r dŵr yn aros ar y caeau.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dyddiadur y Clwb

  • Rhagfyr 3ydd Ymweliad Clwb y Capel Waunfawr
  • Rhagfyr 9fed Gyrfa Chwist

[ Yn ôl i'r Top ]

Nodion o'r Nant

Nos Iau diwethaf, dan nawdd y Clwb Ieuenctid, cafwyd darlith gan Mr W J Davies, (Gwilym Peris) Caernarfon. Ei destun oedd Darluniau Llenyddol a'i amcan oedd creu diddordeb yn yr ifanc at lenyddiaeth glasurol. Ymdriniodd â gweithiau Thomas Hardy, Kate Roberts a'r Parchedig D Tegla Davies ymysg eraill gan egluro yr hyn a geisiau yr awduron ei gyfleu yn eu storïau. Yr oedd yn feistr ar ei bwnc, a hyderwn iddo greu awydd yn rhai o'i wrandawyr i ddarllen y llyfrau a ddarluniodd mor fyw iddynt.

Ymwelwyd â'r Clwb nos Wener gan aelodau o Glwb Ieuenctid Bethel a chafwyd noson hynod o ddifyr. Clwb Bethel a orfu yn y cwis, a hynny o hanner marc. Yn dilyn y lluniaeth a baratowyd gan enethod y Clwb yn Nantlle, cafwyd chwaraeon a dawnsio.

Yn yr oedfa nos Sul amlygodd yr Eglwys ei chydymdeimlad â Mr David J Williams, 4 Glan Rhonwy, yn ei brofedigaeth o golli ei chwaer.

Trist iawn gennym gofnodi marwolaeth sydyn Mrs T S Jones, 3 Victoria Terrace. Gwraig annwyl gyfeillgar a boneddigaidd oedd Mrs Jones, ac yn caru yr achos ym Maladeulyn yn fawr. Un o ffyddloniaid oedfa bore Sul a chwith fydd gweld ei sedd yn wag.

Swper blasus a gafwyd i agor y Gymdeithas Lenyddol Nos Fawrth, Tachwedd 16 1951 gyda chyfarfod amrywiaethol yn dilyn. Cafwyd unawdau gan Glenys P Jones a Mr Huw Jones ac adroddiadau gan Mr G O Jones. A mae cant namyn un wedi ymaelodi yn y Gymdeithas eleni.

Ychydig a wyr fod i Eisteddfod Baladeulyn hanes sydd yn mynd yn ôl i hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Mae yn ein meddiant dôn wedi ei gwneud erbyn cyfarfod cystadleuol Capel Baladeulyn ym mis Mawrth 1874. Hefyd y mae adroddiad o gyfarfod llenyddol Baladeulyn 1877 yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda beirniadaethau y Parchedig Evan Jones Caernarfon ar y gwahanol gystadlaethau.

[ Yn ôl i'r Top ]

Colofn y Beirdd

Wrth fynd drwy hen bapurau mewn llawysgrif deuthum ar draws sypyn o englynion gyda beirniadaeth arnynt gan Ioan Arfon. Casglwn mai cynhyrchion eisteddfodol ydynt, a'u bod yn englynion bedd argraff i John neu Sion Hughes a'i wraig Ann. Mae ysgrifen Ioan Arfon yn bur aneglur mewn rhai mannau, ac felly ni fedrwn roi ei feirniadaeth ar yr englyn buddugol. Dywed ei fod yn goethach ei iaith heblaw fod ei syniadau yn fwy barddonol na'r gweddill. I 'BP', pwy bynnag oedd, dyfarnodd y wobr ar air a chydwybod.

Casglaf innau (TAW) erbyn heddiw, mai dyma'r englyn gan B.P ar ôl ymchwil i farwolaeth John Hughes ac Ann ei wraig, mai fy hen hen daid oedd John Hughes y Grafog, a brawd i Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon, o deulu Bod Angharad, Llanwnda. Dyma'r englyn gwreiddiol i goffau Ann Hughes:

O'r Grafog a gwir grefydd, - 'n llawn ei
Llon enaid, ysblennydd
Uwch ystŵr byd a chystudd
Hwyliodd Ann i oleu dydd B.P.
Ni anwyd dau mwy annwyl - o galon
I'w gilydd bob egwyl;
A'u horiau hyd eu harwyl
A gaed fel rhyw un dydd gŵyl

Tybed a wyr rhywun am englyn neu englynion i frodorion o'r fro, byddent yn ddiddorol dros ben a byddem yn falch o'u cyhoeddi yma. Dyma'r englynion o waith Carneddog i Owen Francis a Bob Owen:

Owen Francis

Un gŵyl a mwyna'i galon, - brawd i Griff
Brodia graffus geinion
Hwn â'i reddf ry'r lleddf a'r llon
I lewyrch hen alawon

Bob Owen

Tanio bro wna eco acen - odlau
Ei huawdledd llawen
Adlais dda o'r Wynfa Wen
Yw bywiol gainc Bob Owen.

[ Yn ôl i'r Top ]

Y Clwb Ieuenctid

Mae'r côr, dan arweiniad Mr Harry Eddy, wrthi yn prysur ddysgu darn o waith Syr Hugh Roberton 'All in the April Evening' gogyfer ag Eisteddfod Baladeulyn. Hefyd mae'n ymarfer carolau, gan y bwriedir mynd o gwmpas y pentref oddeutu'r Nadolig i'w canu.

[ Yn ôl i'r Top ]

Eto o'r Gorffennol

Rwyf eisoes wedi dyfynnu y nodiadau a welwyd yn nyddiadur Y Clwb gan fy nghefnder Myfyr. Mae hanes y creiriau a'r hen arian yn ddiddorol dros ben yn hanes cylch Baladeulyn, a diolchwn i Myfyr am ein hatgoffa yn ei ymchwil i ddiogelu hanes ei ardal fabwysiedig.

Argraffwyd a chyhoeddwyd yn Swyddfa Addysg y Sir dros Glwb Ieuenctid Nantlle.

Y Golygydd: Owen Myfyr Roberts

[ Yn ôl i'r Top ]

Hynafiaethwyr

Rwyf wedi dyfynnu tipyn o waith y Parchedigion William Hobley, William R Ambrose a'm hen daid Owen J Hughes Y Grafog, yn yr ychydig sylwadau am hynafiaethau Baladeulyn, ond gan fod traethawd O J Hughes wedi mynd ar goll pan drosglwyddodd y Parchedig Owen Jones, Bryn Eisteddfod, Llandudno, ar Ebrill 6ed 1971, y cyfansoddiadau a'i feirniadaeth i law ei gyd feirniad Gwalchmai, y cwestiwn a ofynnaf wedyn yw i ble'r aeth yr ail draethawd, 'Un o Hil Rhodri' o law Gwalchmai? Mae hyn wedi bod o ddirgelwch mawr i'w deulu ers dros gan mlynedd a hanner o'r bron. Ceisiaf roddi penawdau ei ysgrif ar 'Hynafiaethau a Chofiannau Nant Nantlle' mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Gadeiriol Penygroes ar Lun y Pasg 1871 fel a ganlyn:-

  • Pennod 1. Rhagarweiniad Cyffredinol
  • Pennod 2. Darnodiad o'r Lle
  • Pennod 3. Enwau lleoedd o fewn y terfynau megis ffermydd, eu gwerth ardrethol, eu mesur a'u perchnogion
  • Pennod 4. Cofnodion am ddechreuad a chynnydd yr achos crefyddol ymysg yr amrywiol enwadau, atgofion am yr hen weinidogion
  • Pennod 5. Sylwadau ar natur creigiau a gweithied allan y cloddfeydd llechi, yr anturiaethwyr olynol yn y chwareli, a gwahanol fathau o lechi a neddir a'r gwerth a gynhyrchir
  • Pennod 6. Atgofion am enwogion Nant Nantlle
  • Pennod 7. Cloi a therfynnu y testun gyda hanesion yn codi oddi wrth y cysylltiadau blaenorol gan ymddyrchafu Nant Nantlle yn raddol nes cyrraedd y sefyllfa bresennol.

Hwyrach y daw y cyfan i'r amlwg rhyw ddydd, pwy a wyr?

[ Yn ôl i'r Top ]

Baladeulyn, Nant Nantlle Heddiw

Nid oes yr un chwarelwr yn byw ym mhentref Nantlle heddiw ond byddaf weithiau yn dychmygu clywed swn eu traed yn mynd a dod i Chwarel Penyrorsedd, yn fore a hwyr, lle treuliais bedair blynedd cynnar o'm hoes, cyn dyfodiad yr ail ryfel byd a'r wys i'r gad yn ei sgil fel llawer llencyn arall o'r pentref a gefnodd ar ei wlad am chwe blynedd o'u hoes, gan ddiolch i Ragluniaeth am waredigaeth, ac agor drws gobaith newydd i'r dyfodol.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf daeth mewnlifiad o'r Saeson i drigo yn y pentref. Yn gyntaf sicrhau tai haf oedd yr amcan, nes delo dydd eu hymddeoliad, ac erbyn heddiw nid oes llawer o Gymraeg i'w glywed ar y stryd fel cynt, ac nid oes ond cnewyllyn o blant yr hen wehelydd sydd yma'n awr a'u gwreiddiau yn yr achos crefyddol, mae'r estroniaid yn prysur or bwyso y Cymry Cymraeg.

Mae'r oes wedi newid yn gyfan gwbl ar ôl cyfnod yr Ail Ryfel Byd lle cynt dim ond rhyw dri neu bedwar oedd yn berchen ar gerbyd modur, ond heddiw mewn oes fwy goludog fe welir cerbyd modur yn y ffordd bron o flaen pob tŷ, ac mewn ambell dŷ, ddau neu dri gan yr un teulu. Cludir eu plant ieuengaf o bentrefi cyfagos i'r ysgol mewn cerbyd modur gan un o'r rhieni i wneud y nifer i fyny rhag ofn i'r ysgol gau, oherwydd nad oes digon o blant yn Nantlle i gadw'r ysgol yn agored. Maent heddiw yn ddwyieithog, fel mewn amryw o ysgolion sir. Cludir y plant hynaf yn rhad i ysgolion uwch, gan fod y Pwyllgor Addysg yn talu'r gost.

Mae nifer y pensiynwyr yn cynyddu, ac maent yn awr yn berchen cerdyn cludiad am ddim ar y bwsiau yng Nghymru, a chan fod costau byw yn uchel mae mwy ohonynt yn dibynnu ar y Weinyddiaeth Les i'w cynorthwyo.

Nid oes ym mhentref Nantlle yr un masnachdy na Swyddfa'r Post, lle gynt y cofiaf yn amser fy magwraeth bump o siopau a Phostfeistr, hefyd gwerthid glo, paraffin a phetrol yn Bryncir House. Daeth llawer tro ar fyd i hanes Plas Baladeulyn, lle newidiwyd perchnogion chwe gwaith er pan adawodd teulu Mr a Mrs Stonor yn y dauddegau. Erbyn heddiw, mae'r enw wedi newid i Trigonos, ac yn eiddo i Grwp Cymunedol, ond cyn i'r cwmni yma sefydlu yno fe adwaenid y Plas fel Canolfan Richard Wilson, i gofio am y llun enwog o'r Wyddfa gan yr arlunydd o Lyn Nantlle.

Mae 'Pwyllgor Newyddion Nantlle' wedi ei sefydlu yma i gydweithio gyda Trigonos, er mwyn trafod fel grwp gweithredu cymunedol Nantlle a chyhoeddant eu bwletin newyddion i'w rannu drwy'r pentref o bryd i'w gilydd. I ddeilliaw o hyn mae'r pwyllgor erbyn deall wedi partneru hefo'r un math o bwyllgor yn Nhalysarn ac fe elwir y ddau heddiw yn Bartneriaeth Talysarn a Nantlle. Disgwylir pethau gwych i ddyfod o'r Bartneriaeth hon sydd yn brysur iawn yn ymdrechu i ddatblygu adloniant y gymdogaeth. Hwyrach y daw bywyd newydd i'r ardal ac y bydd llwyddiant a llewyrch o'r newydd yn gwawrio ar y pentrefi yma sydd wedi bod mewn bri, er y tlodi a fu yn y gorffennol, er pan ddarfu oes y chwarelwr.

[ Yn ôl i'r Top ]

Rhestr o enwau'r Chwareli

Hoffwn restru yma enwau'r chwareli y byddem yn gwrando ar eu hytgyrn rhybudd tanio ar ben yr oriau, hynny pan fyddent mewn llawn oruchwyliaeth:

  •  Penyrorsedd
  •  Dorothea (a'r cloc mawr)
  •  Y Cilgwyn
  •  Y Fron a'r Foel
  •  Pen-y-Bryn
  •  Gallt Fedw
  •  Talysarn
  •  Nant y Fron
  •  Cors y Bryniau

Mae'r oll wedi distewi ers diwedd yr ail ryfel byd 1939 - 1945 'a'r bechgyn a'u carodd a fudodd o'r fan, ysywaeth.

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys