Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Eira Mawr ~ 11-02-1929

Y diwrnod cyn Dydd Mawrth Ynyd - bore rhewllyd efo gwynt llym o'r dwyrain ydoedd. Nid rhyfedd yw hyn ym mis Chwefror ac mi aeth bywyd ymlaen fel arfer - yn ddi-os edrychai'r plant ymlaen at y bore wedyn, pryd y caent gyfle i fynd o dŷ i dŷ i hel crempog, yn ôl yr hen arferiad.

Dechreuodd fwrw eira'n drwm tua deg o'r gloch, ac ni fedrai'r chwarelwyr ddal i weithio. Wedi'u siomi'n arw wrth golli eu cyflog ac yn poeni'n fawr am y difrod hir-dymor a wnâi'r rhew i'r creigiau a pheiriannau, yn anfodlon, dechreuasant eu taith dros Rhos Las tuag at Nebo a Nasareth.

Am ddau o'r gloch, rhybuddwyd Mr Griffith (y cyn brifathro) gan orymdaith gyn-amserol y dynion heibio siop Nebo lle roedd o'n byw. Aeth yn syth dros y Sgwâr i'r ysgol, wedi'i ei syfrdanu oherwydd bod y plant yn dal yno o hyd. Gan ei bod mor oer, anfonasai Mr Thomas (y prifathro, a mab-yng-nghyfraith Mr Griffiths) a'r ddwy athrawes y nifer fach o blant a ddaethent i'r Ysgol ar ddiwrnod mor aeafol i ystafell glyd y Babanod, lle roedd tanllwyth mawr o dân, a hwythau'n holloll anymwybodol am y tywydd a ddaliodd i waethygu.

Felly, heb oedi, gwisgodd y plant eu cotiau amdanynt, a threfnwyd nhw mewn grwpiau yn ôl lle roedden nhw'n byw, dan orchymyn i gerdded gyda'i gilydd mor hir ag oedd yn bosibl ar eu teithiau adref. Cyfarfuwyd rhai eraill o'r plant ar y ffordd gan eu rhieni.

*

Dyma un fersiwn o'r stori am Harri Wyn Williams, bachgen wyth mlwydd oed, sef yr unig blentyn o Nasareth i fentro allan y diwrnod hwn. Roedd taith hir o'i flaen yn ôl i Lwynbedw ac, yn sicr, roedd y cyfle i gael hwyl wrth gymryd llwybr tarw yn demtasiwn fawr iddo.

Yn yr achos hwn, camgymeriad difrifol oedd crwydro oddi ar y llwybr.

Yn hytrach na mynd heibio Goleufryn ac ar hyd Ffordd Nasareth, mi wnaeth o benderfynu mynd i lawr allt lithrig Pen Isa'r Lôn at Gerrig Mawr lle lluwchiai'r eira'n ddwfn dan gryfder Gwynt Traed y Meirw. O ganlyniad gorchuddiwyd olion ei draed yn llwyr mewn ychydig eiliadau.

Aeth ei dad i nôl Harri ar hyd y llwybr heibio Goleufryn i Nebo. Pan gyrhaeddodd yr ysgol, cafodd wybod gan yr athawon fod ei fab wedi gadael ers peth amser. Dechreuodd Mr Williams bryderu. Trodd yn ei ôl i lawr Ffordd Nebo, gan chwilio cyn drylwyred ag y gallai yn y lluwch. Heb os, cofiai Mr Williams am y pethau a ddywedasai ei fab am lwybrau hyfryd yr haf a âi heibio Bryn Melyn tuag at Nasareth. Gwelai'r anialwch gwyn o'i gwmpas ac ofnai'r gwaethaf. Neidiodd dros y wal gerrig gan suddo at ei bengliniau yn y lluwch eira; ond doedd ganddo ddim amser i'w golli.

Yn y cyfamser, cawsai Harri gryn dipyn o drafferth gan na allai yn ei fyw gerdded trwy'r eira a oedd yn prysur lenwi'r pant erbyn hynny. Ond er yr oerni a'r lludded, nid oedd am ildio. Tynnodd ei gôt, er mor oer ydoedd. Gosododd hi ar yr eira a llwyddo i gropian gam wrth gam, a dyna a wnaeth, drosodd a throsodd nes iddo gyrraedd lle diogel.

Pan gyrraeddodd Harri Lwynbedw ar ei ben ei hun, mi gafodd ei fam gryn ysgytwad o weld cyflwr truenus ei mab efo'i ddillad a'i wallt cyrliog wedi rhewi'n gorn. Dychwelodd ei dad yn fuan wedyn a golwg fel dyn eira arno. Gwnaethpwyd pob ymdrech i gynhesu'r bachgen, ond bu Harri'n dioddef am wythnosau o niwmonia dwbl.

I ychwanegu at yr anffawd hwn, llithrodd Mr Williams ar lawr y gegin yn ei glocsen eira. Brifodd ei gefn yn arw ac ni fedrai weithio am wythnos. Er gwaethaf eu profiadau arswydus, cafodd y ddau adferiad llwyr.

Ôl-nodyn

Gwireddwyd pryderon y chwarelwyr. Yr oedd y chwareli mewn trafferth ers troad y ganrif am nifer o resymau, gan gynnwys cystadlu brwd o du chwareli tramor. Collasai'r cyfranddalwyr eu ffydd yn chwareli Cymru fel ffynonellau hael o elw. Dwysaodd yr argyfwng ariannol dros y byd i gyd. Felly, erbyn  24 Hydref 1929 pan gwympodd y farchnad stoc yn Wall Steet, Efrog Newydd, nid oedd neb o blith y rhai oedd yn dal i fod ag arian ganddynt am ailfuddsoddi yma, a chollodd nifer fawr o chwarelwyr eu swyddi. Chwalwyd nifer sylweddol o gymunedau yng Ngymru hefyd o'i herwydd.

Rhagor o wybodaeth

Gweler hefyd drawsgrifiad o dâp a recordwyd gan Harri Wyn Williams yn Archifdy Caernarfon Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd a'r llyfr 'O Benrhyn Llyn i Lle bu Lleu' gan Mrs Janet Roberts (cyn athrawes yn Ysgol Nebo).

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys