Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Hanes Hughie Roberts

Yn dilyn sgwrs hynod ddiddorol yn ystod noson i gofio'r hogiau sydd â'u henwau ar gofgolofn ysgol Nebo gan Jacqui Oldfield, dyma adrodd rhan o stori hynod un o'r hogiau sef Hughie Roberts, Glangors.

Ganwyd Hughie Roberts yng Nglangors, Llanllyfni ar yr ail o Fawrth 1892 yn un o dri o blant i Jane a Robert Owen Roberts.

Roedd Robert Owen yn frawd i Owen Roberts a briododd Catherine Cadwaladr. Cawsom 8 o blant; un ohonynt oedd Kate Roberts, brenhines ein Llên.

Ganwyd Annie ei chwaer ym 1890. Ei frawd Robert Alun Roberts CBE ym 1894. Yn naturiaethwr, ac yn fotanegwr amaethyddol enwog. Bu’n fyfyriwr ac yn Athro ym Mhrifysgol Bangor, ac hefyd yn athro gwyddoniaeth am ddwy flynedd o 1915-1917 yn ysgol Botwnnog. Gelwid gan ei fyfyrwyr yn 'Doctor Alun'.

Bu Hughie yn athro cynorthwyol yn Ysgol Talybont Meirionnydd am gyfnod, ond ym 1914 yn 22 oed penderfynodd ymfudo i Ganada. Yn anffodus yn ystod ei fordaith hir fe dorrodd rhyfel allan, a llai na blwyddyn ar ôl ymfudo gorfodwyd Hughie i ymuno a byddin Canada yn Calgary, Alberta yn Ionawr 1915.

Chwaraeodd Is- gorporal Hughie Roberts ran ym mrwydrau erchyll Ffrainc a chafodd ei glwyfo yn ddifrifol ym mrwydr Kemmel, ger Ypres ym mis Tachwedd 1915. Pan gludwyd ef i Ysbyty yn Boulogne cafwyd bod darn o fetel bom wedi treiddio i asgwrn ei gefn.

Cyn ei farw yn yr ysbyty digwyddodd peth rhyfedd iawn. Yn digwydd bod yn yr ysbyty hwnnw yn Boulogne, ‘roedd dwy Gymraes o Dan’r-allt yn gweini ar y pryd, Jane Mary Edwards a’i chyfneither. Wrth iddynt gerdded trwy’r ward yn llawn o gleifion dyma lais yn gweiddi, “Jên Meri!” Hughie druan oedd y claf a weiddai.

Yn dilyn ei farwolaeth yn Nhachwedd 1915 yn ddim ond 23 oed claddwyd ef ym Mynwent Sifil Boulougne, cyn sefydlu'r mynwentydd byddinol.

Yn yr Herald Cymraeg 21 Rhagfyr 1915, cofnodwyd y canlynol:

"Cofnodir fod Lance-Corporal Hughie Roberts, fu’n athro cynorthwyol yn Ysgol y Cyngor, Talybont, wedi marw o'i glwyfau yn Ysbyty Boulogne. Beth amser yn ôl ymfudodd i Ganada a phan dorrodd y rhyfel allan ymunodd a chatrawd o Ganada."

Mae nodyn yn archifau cofnodion claddedigaethau milwrol Canada yn datgan:

1915 12 Dec — Age: 23
Boulogne, Nord, Nord-Pas-de-Calais, France
Hughie Roberts of Glangors, Tanrallt, Llanllyfni, Carnarvonshire, a Lance Corporal in the 31st Canadian Infantry, Alberta Regiment, Reg No 79702. Died of wounds at No. 13 General Hospital, Boulogne, France. Buried Boulogne Eastern Cemetery, Pas de Calais, France. ref. V111.C.66.

Isod yr arysgrif ar garreg fedd, ar gais Mrs J. Roberts, Glangors:

GANWYD A MAGWYD YNG NGLANGORS, DYFFRYN NANTLLE, GOGLEDD CYMRU

Diolchwn yn fawr iawn am ymchwil manwl Jacqui Oldfield ac am yr hawl i gyhoeddi rhan ohono.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys