Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Pwyllgor Ardal Nebo a Nasareth

Sefydlwyd Pwyllgor Ardal Nebo a Nasareth rai blynyddoedd yn ôl i hyrwyddo pob mathau o weithgareddau er lles y gymuned, i godi arian i weithio fel cylch trafod, a bod yn llais i'r ardal wrth ymwneud â chyrff cyhoeddus.

Aelodaeth y pwyllgor yw holl drigolion Nebo a Nasareth sydd dros 16 oed, neu unrhyw oedolyn sydd â diddordeb yng ngweithgareddau'r pentrefi.

Mae nifer o weithgareddau wedi'u canoli yn yr Ystafell Gymuned, a gall unrhyw breswylydd ofyn i'r pwyllgor rheoli am ei defnyddio.

Ein prif ffynhonnell ariannol yw'r Clwb Cant, sy'n rhoi gwobr o £15 yn fisol. Dim ond £1 y mis, neu £12 y flwyddyn, yw'r tanysgrifiad. Cynhelir cyfarfod bob mis.

Swyddogion Cyfredol:

  •  Cadeirydd - Yvonne Mosely, Capel Bach, Nebo.

  •  Is-gadeirydd - Kim Parry, Ty Capel, Nasareth.

  •  Trysorydd - Kevin Smith, 1 Fron Dirion, Nebo.

 •  Ysgrifennydd - Lin Heath, Ty'n Pant Uchaf, Nebo.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys