Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Y Llwynog

Ganllath o gopa'r mynydd, pan oedd clych
Eglwysi'r llethrau'n gwahodd tua'r llan,
Ac annrheuliedig haul Gorffennaf gwych
Yn gwahodd tua'r mynydd, - yn y fan,
Ar ddiarwybod droed a distaw duth,
Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'n blaen
Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth
Barlyswyd ennyd; megis trindod faen
Y safem, pan ar ganol diofal gam
Syfrdan y safodd yntau, ac uwchlaw
Ei untroed oediog dwy sefydlog fflam
Ei lygaid arnom. Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd, darfu, megis seren wîb.

R. Williams Parry (1924)

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys